Gwarchod a rheoli adnoddau naturiol

 

Cyflwyniad

Gwarchod a Rheoli Adnoddau Naturiol

Asesiad Ecosystemau’r Mileniwm (2001-2005) oedd y cyntaf o blith llawer o adolygiadau i dynnu sylw at bwysigrwydd gweithrediad ecosystemau er lles y cyhoedd. Mae glaswelltiroedd a gweundiroedd yn darparu amrywiaeth o nwyddau cyhoeddus heblaw cynhyrchu bwyd, ac mae’r gwleidyddion a’r cyhoedd yn fwyfwy ymwybodol o’r angen i atgyfnerthu a gwobrwyo cyflenwad yr adnoddau a’r gweithrediadau hyn. Mae’r rhain yn cynnwys rheoli dŵr (e.e. darparu dŵr yfed a lliniaru llifogydd), rheoli carbon (e.e. dal a storio’r carbon sydd yn y pridd), rheoli tirweddau a threftadaeth, a bioamrywiaeth. Mae ein gwaith ymchwil yn archwilio effaith defnyddio tir a newid y defnydd o’r tir ar y paramedrau hyn, trwy fesur rhyngweithio rhwng gwahanol elfennau’r system i ddarparu tystiolaeth sylfaenol gadarn ar gyfer datblygu senarios rheoli arloesol.

Ein nod yw cryfhau ein gwybodaeth am effaith rheoli systemau glaswelltiroedd ar ddarparu gwasanaethau cyfalaf naturiol ac ecosystemau perthnasol.

Dull

Dull

Rydym yn gweithio ar raddfeydd gofodol (plotiau i dirweddau) ac amser (dyddiau i ddegawdau) er mwyn deall ac ymelwa ar y berthynas rhwng pridd, planhigion ac anifeiliaid ar hyd continwwm o gnydau porthi a gwyndonnydd byr-dymor i borfeydd parhaol a phorfeydd garw a rhostiroedd lled-naturiol. Yn ystod y trigain mlynedd ddiwethaf, mae maint a chyflwr cymunedau llystyfiant brodorol, sef tros draean o diroedd amaethyddol y DU wedi dirywio oherwydd iddynt gael eu rheoli’n amhriodol. Trwy ddeall ac ymelwa ar y gwahaniaethau rhwng ymddygiad pori rhywogaethau a bridiau, rydym wedi datblygu dulliau newydd o reoli ecosystemau pori (Ffig. 2). Yn ogystal â llywio polisi’r llywodraeth a thanategu’r opsiynau o fewn cynlluniau amaeth-amgylchedd, dylanwadodd y canfyddiadau ar waith y prif gyrff cadwraeth. Mae prosiectau cyflenwol yn cynllunio ac yn profi technolegau drôn ar gyfer tracio effeithiau da byw ar draws tiroedd caeedig eang er mwyn galluogi i’r strategaethau ar gyfer trafod eu dosbarthiad gofodol gael eu datblygu a’u mireinio. Lle daeth tanbori yn hytrach na gorbori yn fwy o fygythiad i’r cynefinoedd, buom yn cydweithio â chydweithredwyr a rhanddeiliaid rhyngwladol er mwyn datblygu technolegau prosesu newydd i fanteisio ar bosibiliadau bioynni a chynnyrch bioadnewyddadwy biomas a gynhyrchir trwy reoli cadwraeth.

Mae ein gwaith gyda phorfeydd newydd yn cyfuno’r datblygiadau bridio planhigion diweddaraf [linc i’r adran ar fridio planhigion] â damcaniaethau ecolegol cyfateb a hwyluso cilfachau er mwyn gwella aml-ymarferoldeb glaswelltir yn ogystal â darparu porthiant o ansawdd uchel i dda byw. Trwy ddeall y mecanweithiau gwaelodol ar gyfer gwell effeithiolrwydd o’r defnydd o faetholion o dan wahanol systemau porthiant, rydym yn dysgu mwy am effeithiau ehangach amrywio porthiant mewn systemau glaswelltiroedd.

Prosiectau Cyfredol

Prif Brosiectau

Allbynnau

Allbynnau

  • Effaith ‘ragorol’ ar yr arferion gorau a fframweithiau polisi mewn perthynas â phori yn yr ucheldiroedd https://impact.ref.ac.uk/casestudies/CaseStudy.aspx?Id=42083
  • Tystiolaeth ategol ar gyfer cynnwys merlod lled-wyllt yng ngeiriad Bil Amaeth 2020.
  • Dynodi biomas brwyn yn ddiwastraff.
  • Datblygu amrywiaeth o dechnolegau cerbydau awyr di-driw (dronau) am gost isel ar gyfer mapio tiroedd caeedig mawr a thracio porwyr

Galluoedd Ymchwil

Galluoedd Ymchwil

Mae Llwyfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran yn ganolfan astudio ecosystemau ucheldiroedd a ffermir. Mae’r adnoddau perthnasol yn y Ganolfan yn cynnwys:

  • 650 hectar o dir rhwng 250m uwchlaw lefel y môr a 590m uwchlaw lefel y môr
  • Amrywiaeth o fathau o lystyfiant, o lastiroedd wedi’u hau a’u gwella i borfeydd mynydd
  • Lleiniau hirdymor Brignant
  • Pedair gorsaf dywydd lawn a rhwydwaith o synwyryddion microhinsawdd
  • Band Eang hyd at 1 Gb yr eiliad

Prif Ymchwilwyr

Prif Ymchwilwyr

Llun Enw Ebost Ffôn
Prof Iain Donnison isd@aber.ac.uk +44 (0) 1970 823092

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Payton, L, Hüppe, L, Noirot, C, Hoede, C, Last, KS, Wilcockson, D, Ershova, E, Valière, S & Meyer, B 2021, 'Widely rhythmic transcriptome in Calanus finmarchicus during the high Arctic summer solstice period', iScience, vol. 24, no. 1, 101927. 10.1016/j.isci.2020.101927
Payton, L, Noirot, C, Hoede, C, Hüppe, L, Last, K, Wilcockson, D, Ershova, EA, Valière, S & Meyer, B 2020, 'Daily transcriptomes of the copepod Calanus finmarchicus during the summer solstice at high Arctic latitudes', Scientific Data, vol. 7, no. 1, 415. 10.1038/s41597-020-00751-4
Hüppe, L, Payton, L, Last, K, Wilcockson, D, Ershova, E & Meyer, B 2020, 'Evidence for oscillating circadian clock genes in the copepod Calanus finmarchicus during the summer solstice in the high Arctic', Biology Letters, vol. 16, no. 7, 20200257. 10.1098/rsbl.2020.0257
Torres, G, Thomas, DN, Whiteley, NM, Wilcockson, D & Giménez, L 2020, 'Maternal and cohort effects modulate offspring responses to multiple stressors', Proceedings. Biological sciences, vol. 287, no. 1929, 20200492. 10.1098/rspb.2020.0492
King, N, McKeown, N, Smale, D, Wilcockson, D, Schumm, LS, Groves, EA, Stamp, T & Moore, PJ 2019, 'Evidence for different thermal ecotypes in range centre and trailing edge kelp populations', Journal of Experimental Marine Biology and Ecology, vol. 514-515, no. May-June 2019, pp. 10-17. 10.1016/j.jembe.2019.03.004
McKeown, N, Arkhipkin, AII & Shaw, P 2019, 'Genetic analysis reveals historical and contemporary population dynamics in the longfin squid Doryteuthis gahi: implications for cephalopod management and conservation', ICES Journal of Marine Science, vol. 76, no. 4, fsz009, pp. 1019-1027. 10.1093/icesjms/fsz009
Carreira, GP, McKeown, N, Shaw, P & Gonçalves, JM 2018, 'A PCR-RFLP method for stock assignment in the endemic Macaronesian gastropid, Patella candei d'Orbigny, and its potential for future conservation strategies', Fisheries Research, vol. 199, pp. 8-11. 10.1016/j.fishres.2017.11.011
Healey, AJE, McKeown, N, Taylor, AL, Provan, J, Sauer, W, Gouws, G & Shaw, P 2018, 'Cryptic species and parallel genetic structuring in Lethrinid fish: Implications for conservation and management in the southwest Indian Ocean', Ecology and Evolution, vol. 8, no. 4, pp. 2182-2195. 10.1002/ece3.3775
King, N, Wilcockson, D, Webster, R, Hoelters, LS & Moore, P 2018, 'Cumulative stress restricts niche filling potential of habitat-forming kelps in a future climate', Functional Ecology, vol. 32, no. 2, pp. 288-299. 10.1111/1365-2435.12977
Healey, AJE, Gouws, G, Fennessy, ST, Kuguru, B, Sauer, WHH, Shaw, P & McKeown, N 2018, 'Genetic analysis reveals harvested Lethrinus nebulosus in the Southwest Indian Ocean comprise two cryptic species', ICES Journal of Marine Science, pp. 1465-1472. 10.1093/icesjms/fsx245

Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil »