Parasitoleg a rheoli llyngyr

 

Cyflwyniad

Parasitoleg a rheoli llyngyr

Bydd rheolaeth gynaliadwy ar lyngyr parasitig sy’n achosi afiechydon amaethyddol, milfeddygol a biofeddygol yn dibynnu fwyfwy ar ddatblygu diagnosteg/biofarcwyr mwy sensitif, brechlynnau proffylactig, plaleiddiaid a chyffuriau therapiwtig mwy effeithiol. Mae’r farn yma wedi magu cryn fomentwm ac fe’i cydnabuwyd yn ddiweddar gan lywodraeth y DU (cronfa Ross £1B i gefnogi’r frwydr fyd-eang yn erbyn afiechydon heintus), Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) (cynllun ar gyfer gwaredu afiechydon trofannol a esgeulusir – NTDs) a phartneriaethau cyhoeddus-preifat (London Declaration on NTDs). Yn IBERS, rydym wedi dod at ein gilydd i fynd i’r afael â’r her hon gan ddechrau datblygu dulliau arloesol o frwydro yn erbyn afiechydon sy’n cael eu hachosi gan lyngyr mewn anifeiliaid a phobl.

Ein nodau ac amcanion: Trwy gyflawni ymchwiliadau gwyddoniaeth sylfaenol, trawsfudol, ar sail gyd-esblygiadol a systemau, rydym yn parhau i fireinio rhaglen ymchwil gynaliadwy a gynhelir gan bartneriaethau preifat a chyhoeddus rhyngddisgyblaethol, rhyngasiantaethol a strategol iawn ar gyfer datrys ar y cyd rai o brif broblemau iechyd y byd a achosir gan bathogenau biofeddygol a milfeddygol pwysig.

Ein dulliau: Mae ein dulliau yn cynnwys astudio genynnau, defnyddio technoleg yn seiliedig ar enomeg weithredol, targedu darganfod biofarcwyr/brechlynnau/cyffuriau, bioleg letyol fectorau/rhyngolynnau, rhyngweithiadau rhwng lletywyr, parasitiaid a microbiota, ymchwiliadau imiwnolegol, astudiaethau esblygiadol, epidemioleg ecolegol, modelu mathemategol, System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), canfod o bell trwy loerenni a’r awyr a modelu’r hinsawdd. Mae ein hastudiaethau yn ystyried ystod o afiechydon heintus sy’n cael eu hachosi gan firysau, bacteria, protosoa, microsboridia a llyngyr. Rydym yn cydweithio â phartneriaid mewn gwledydd datblygedig yn ogystal â gwledydd incwm isel a chanolig, sy’n cynnwys Sefydliadau Addysg Uwch, llywodraethau a sefydliadau preifat ein mwyn gwireddu ein hamcanion.

 

Hanes

Hanes

Ceir traddodiad hir o Barasitoleg yn Aberystwyth.

Rhwng y waddol sylweddol hon a pharhau i fuddsoddi, bydd Prifysgol Aberystwyth yn sicrhau bod ei gweithgareddau parasitoleg yn parhau i gystadlu’n rhyngwladol, yn ogystal â darparu’r hyfforddiant gorau ar gyfer israddedigion ac uwchraddedigion

Prosiectau

Prif Brosiectau

Mae amrywiaeth eang o waith ymchwil yn cael ei wneud ar hyn o bryd ym maes parasitoleg a rheoli llyngyr a nodir detholiad cryno o’r prosiectau diweddar isod.

  • Sefydlu Canolfan Ymchwil Ryngddisgyblaethol – Canolfan Barrett ar gyfer Rheoli Llyngyr (BCHC; http://bchc.aber.ac.uk).
  • Cydweithio â HwbMilfeddygol 1 i lunio Ymchwil a Datblygu iechyd anifeiliaid/y cyhoedd yn ogystal âchyfleoedd masnachol.
  • Darganfod cyffuriau gwrth-sgistosomaidd wedi’i ariannu gan gynlluniau Blaenllaw (Flagship) a Braenaru (Pathfinder) Afiechydon Trofannol a Esgeulusir Ymddiriedolaeth Wellcome i ddatblygu cyffuriau newydd ar gyfer trin sgistosomiasis.
  • Menter Genomeg Weithredol Llyngyr Lledog (FUGI) a ariennir gan wobr Strategol Ymddiriedolaeth Wellcome i ddatblygu golygu genomau, atlasau ungellog a llinellau cell anfarwoledig ar gyfer scistosomau a llyngyr.
  • Datblygu technoleg da byw drachywir ar gyfer rheoli llyngyr gyda chyllid CCAUC i helpu ffermwyr i reoli llyngyr mewn da byw yn gynaliadwy.  
  • FLOODMAL, rhagfynegi deinameg tymor byr mannau poeth fectorau malaria ac asesu effaith posib newid hinsawdd yn y dyfodol ar drosglwyddo malaria; ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.
  • Cyllid gan WEFO ar gyfer dadansoddiad genomig o Toxoplasma gondii o samplau clinigol yn uniongyrchol gan ddefnyddio atgyfnerthiad dethol o enomau.
  • Ymchwil i wella diagnosteg Cryptosporidiwm a deall trosglwyddo trwy gloddio genomau Cryptosboridiwm; ariennir gan WEFO.

Allbynnau

Allbynnau

  • Roboworm – Llwyfan delweddu llif uchel, awtomatig sy’n galluogi ail-leoli cyffuriau presennol neu adnabod cyfansoddion newydd fel moddion gwrthlynghyrol y genhedlaeth nesaf
  • Cyd-ddatblygu’r system FECPAKG2 i reoli llyngyr mewn defaid a gwartheg.
  • Hybu diddordeb a chynyddu nifer y disgyblion sy’n astudio pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) trwy TrioSci Cymru Aber STEM, sy’n cael ei ariannu gan WEFO a Llywodraeth Cymru
  • Amryw gontractau masnachol ar gyfer sgrinio Fasciola hepatica a chyflenwi defnyddiau parasitiaid i ddarparwyr gwasanaethau iechyd y DU a chwmnïau iechyd anifeiliaid preifat.
  • Gwarchod eiddo deallusol – mae’r patentau cyfredol sydd wedi’u cyflwyno gan Brifysgol Aberystwyth yn ymwneud â sylweddau cemegol (PF36021GB1 a 20185806.5-1112) a diagnosteg (P35118GB1) ar gyfer trin neu ganfod heintiau a achosir gan facteria, a phathogenau protosoan a metasoan.

Prif Ymchwilwyr

Prif Ymchwilwyr

Llun Enw Ebost Ffôn
Prof Peter Brophy pmb@aber.ac.uk +44 (0) 1970 622332
Prof Joanne Hamilton jvh@aber.ac.uk +44 (0) 1970 621526
Prof Karl Hoffmann krh@aber.ac.uk +44 (0) 1970 622237
Dr Rhys Jones raj22@aber.ac.uk +44 (0) 1970 622266
Dr Justin Pachebat jip@aber.ac.uk +44 (0) 1970 622347
Dr Martin Swain mts11@aber.ac.uk +44 (0) 1970 622296

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Northcote, HM, Wititkornkul, B, Cutress, D, Allen, N, Brophy, P, Wonfor, R & Morphew, RM 2024, 'A dominance of Mu class glutathione transferases within the equine tapeworm Anoplocephala perfoliata', Parasitology, vol. 151, no. 3, pp. 282-294. 10.1017/S0031182024000015
McVeigh, P, McCammick, E, Robb, E, Brophy, P, Morphew, RM, Marks, NJ & Maule, AG 2023, 'Discovery of long non-coding RNAs in the liver fluke, Fasciola hepatica', PLoS Neglected Tropical Diseases, vol. 17, no. 9, e0011663. 10.1371/journal.pntd.0011663, 10.1371/journal.pntd.0011663
Chow, F & Morphew, RM 2023, 'Extracellular Vesicles in Microbes, Pathogens, and Infectious Diseases', International Journal of Molecular Sciences, vol. 24, no. 13, 10686. 10.3390/ijms241310686
Rooney, J, Williams, T, Northcote, HM, Frankl, F, Price, D, Nisbet, A, Morphew, R & Cantacessi, C 2022, 'Excretory-secretory products from the brown stomach worm, Teladorsagia circumcincta, exert antimicrobial activity in in vitro growth assays', Parasites & Vectors, vol. 15, no. 1, 354. 10.1186/s13071-022-05443-z
Collett, C, Phillips, H, Fisher, M, Smith, S, Fenn, C, Goodwin, P, Morphew, R & Brophy, P 2022, 'Fasciola hepatica Cathepsin L Zymogens: Immuno-Proteomic Evidence for Highly Immunogenic Zymogen-Specific Conformational Epitopes to Support Diagnostics Development', Journal of Proteome Research, vol. 21, no. 8, pp. 1997-2010. 10.1021/acs.jproteome.2c00299
Davey, SD, Chalmers, IW, Fernandez-Fuentes, N, Swain, MT, Smith, D, Abbas Abidi, SM, Saifullah, MK, Raman, M, Ravikumar, G, McVeigh, P, Maule, AG, Brophy, PM & Morphew, RM 2022, 'In silico characterisation of the complete Ly6 protein family in Fasciola gigantica supported through transcriptomics of the newly-excysted juveniles', Molecular Omics, vol. 18, no. 1, pp. 45-56. 10.1039/D1MO00254F
Reigate, C, Williams, HW, Denwood, M, Morphew, R, Thomas, E & Brophy, P 2021, 'Evaluation of two Fasciola hepatica faecal egg counting protocols in sheep and cattle', Veterinary Parasitology, vol. 294, 109435. 10.1016/j.vetpar.2021.109435
Craven, H, Bonsignore, R, Lenis, V, Santi, N, Berrar, D, Swain, M, Whiteland, H, Casini, A & Hoffmann, K 2021, 'Identifying and validating the presence of Guanine-Quadruplexes (G4) within the blood fluke parasite Schistosoma mansoni', PLoS Neglected Tropical Diseases, vol. 15, no. 2, e0008770. 10.1371/journal.pntd.0008770
Huson, KM, Morphew, R, Winters, A, Cookson, A, Hauck, B & Brophy, P 2021, 'In vitro screening as an anthelmintic discovery pipeline for Calicophoron daubneyi: Nutritive media and rumen environment-based approaches', Parasitology Research, vol. 120, no. 4, pp. 1351-1362. 10.1007/s00436-021-07066-2
Allen, N, Taylor-Mew, AR, Wilkinson, T, Huws, S, Phillips, H, Morphew, R & Brophy, P 2021, 'Modulation of Rumen Microbes Through Extracellular Vesicle Released by the Rumen Fluke Calicophoron daubneyi', Frontiers in Cellular and Infection Microbiology, vol. 11, 661830. 10.3389/fcimb.2021.661830

Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil »