Deiet ac Iechyd
Cyflwyniad
Deiet ac Iechyd
Mae llawer o’r problemau iechyd y mae cymdeithas heddiw yn eu hwynebu yn gysylltiedig â’r cynnydd mewn cyflyrau meddygol cronig. Mae IBERS mewn lle unigryw yn y DU oherwydd ei gallu i gysylltu bridio planhigion/anifeiliaid a ffenoteipio deunyddiau crai bwyd yn gemegol ag astudiaethau ar effaith deiet ac ymarfer corff ar iechyd a deiet.
Trwy weithio gydag anifeiliaid a phobl, datblygwyd cydweithio allanol gyda chanolfannau rhagoriaeth clinigol a milfeddygol i ymelwa ar dechnoleg metabolomeg, genomeg a biowybodeg er mwyn mynd i’r afael â phynciau allweddol ymchwil maetheg. Rydym hefyd yn ymchwilio i’r berthynas rhwng deiet ac ymarfer corff yn ystod y broses heneiddio ac wrth reoli cyflyrau meddygol cronig a’r modd y gellir gwireddu cyngor am ffordd o fyw ymhlith pobl sy’n byw yn rhydd, gan ganolbwyntio’n benodol ar ardaloedd gwledig. Er mwyn hwyluso gweithgarwch ymchwil, sefydlwyd yr Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd (WARU) i feithrin cysylltiadau â’r gymuned leol a darparu cyfleusterau i gwrdd ag aelodau’r cyhoedd a’u galluogi i gyfrannu at, ac ennyn eu diddordeb mewn gweithgareddau ymchwil.
Nod
Nod
Gwella iechyd a lles pobl trwy ymchwil, addysg ac ymgysylltu trwy:
- Ddarganfod ffyrdd dilys a dibynadwy o fesur ein deiet arferol
- Adnabod y prif ffactorau deietegol ac ymarfer corff sy’n gysylltiedig ag iechyd ac yn rhagfynegi anafiadau a chlefydau
- Adnabod ffactorau sy’n dylanwadu ar y niferoedd sy’n newid eu deiet a faint o ymarfer corff maen nhw’n ei wneud, ac yn cadw ato
- Sefydlu patrymau ymarfer corff optimaidd er lles ffisiolegol
Cyfleusterau
Cyfleusterau
- Labordy Ffisioleg Iechyd a Pherfformiad– Mae amrywiaeth eang o offer ar gyfer monitro ymatebion i ymarfer corff yn y labordai ffisioleg. Mae’r rhain yn cynnwys melinau traed perfformiad uchel, ergomedrau beicio sy’n arafu’n electrofagnetig, ergomedrau rhwyfo, sbiromedrau, systemau dadansoddi nwy ar-lein gyda pheiriant ECG 12-lid, amrywiaeth o gyfleusterau anthropometrig yn cynnwys sganiwr DXA a siambr amgylcheddol.
- Labordy Dadansoddi Symudiad Iechyd a Pherfformiad – dynamometr isocinetig Biodex, system gamera 3D Motion Analysis Corporation gydag 8 camera, dau lwyfan mesur grym AMTI symudol, system EMG ddi-wifr a system harnais uwchben, gyda thrac rhedeg integrol.
- Labordy Metabolomeg Cydraniad Uchel– Canolbwyntir ar adnabod a mesur metabolynnau o ystod eang o fatricsau biolegol. Canolbwyntiodd un gweithgarwch craidd hirdymor ar ddatblygu strategaeth o fiofarcwyr yn adnabod deiet trwy ddefnyddio wrin dynol
- Genoteipio a Dilyniannodi’r genhedlaeth nesaf– Mae IBERS wedi buddsoddi’n sylweddol yn ddiweddar mewn isadeiledd genoteipio a dilyniannodi’r genhedlaeth nesaf (NGS), a wnaeth arwain at sefydlu cyfleusterau Genomeg Drawsfudol newydd ar gampws Gogerddan.
Prosiectau
Prosiectau
Monitro ac asesu’r gallu i weithredu a statws eiddilwch ymhlith oedolion hŷn (FACET)
Yn canolbwyntio ar atal eiddilwch trwy fonitro a gwella iechyd oedolion hŷn. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth am eiddilwch ymhlith unigolion a gweithwyr proffesiynol a hyrwyddo yr hyn y gall pobl ei wneud i atal eiddilwch.
Monitro Lles ac Iechyd yn y Cartref (MWH @ Home)
Yn asesu effeithiolrwydd y defnydd o dechnoleg ddigidol ‘glyfar’ wrth helpu unigolion i fonitro a gwella eu maeth, cyfansoddiad eu cyrff a’u lles cyffredinol.
Cyn-Diabetes
Mewn cydweithrediad â meddygfeydd lleol, rydym yn archwilio ‘Siwrne’r Claf’ ar ôl iddo dderbyn diagnosis o’r cyflwr cyn-diabetes, a rôl ymyrraeth addysgiadol gryno trwy ofal cychwynnol.
Bwydydd y Dyfodol
https://www.futurefoods.wales/
Nod y rhaglen gyffrous hon yw darparu arbenigedd ymchwil a datblygu o’r radd flaenaf mewn gwyddor bwyd, technoleg a maeth, i fusnesau bwyd a diod uchelgeisiol yng Nghymru sy’n ceisio datblygu cynhyrchion iach, sy’n creu marchnadoedd newydd.
Campws ArloesiAber
Sefydlwyd tîm o ymchwilwyr medrus a datblygu set unigryw o uwch-fedrusrwydd ym maes Ymchwil a Datblygu i gefnogi arloesi yn y sector Bwyd a Diod yng Nghymru.
Yn Iach i fy Mabi
Ymyrraeth â ffordd o fyw cyn beichiogi, gan dargedu menywod dros bwysau a’u partneriaid, gyda’r nod o leihau’r cymhlethdodau yn ystod y beichiogrwydd, atal clefydau cardio-fetabolig, ac atal gordewdra yn ystod plentyndod. Bydd deiet trwy ddulliau hunangofnodedig a biofarcwyr wrinol yn ogystal â ffordd o fyw a mesurau anthropometrig yn cael eu gwerthuso.
Adsefydlu ar ôl strôc
Prosiect rhyngddisgyblaethol sy’n defnyddio dulliau cyfrifiadureg, niwrowyddoniaeth, bioleg, therapi ymarfer clinigol a seicoleg, ac yn cydweithio â’r GIG, Llywodraeth Cymru, cymunedau lleol, a’n partneriaid mewn diwydiant a’r byd academaidd er mwyn astudio sut mae strôc yn effeithio ar symudedd a chynllunio ymyrraethau sy’n helpu pobl i wella.
Effeithiau tymor byr a thymor hir bwyta cig ar fetabolaeth pobl o dras Indiaidd
Defnyddio adnoddau’r grwpiau cyfredol i ddarganfod effeithiau cardio-fetabolig deietau cig ar fetabolaeth pobl o dras Indiaidd er mwyn llunio canllawiau deietegol, a pholisïau amaethyddol ac amgylcheddol, yn India.