Effeithiau Amgylcheddol Morol a’u Hadferiadau

 

Cyflwyniad

Effeithiau Amgylcheddol Morol a’u Hadferiadau 

Mae newid hinsawdd yn cael effaith sylweddol ar gefnforoedd y  byd, ac yn gynt mewn rhai moroedd nag mewn amgylcheddau daearol. Mae deall sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar amgylcheddau morol yn hanfodol oherwydd nid yn unig mae sgil-effeithiau hysbys tymheredd yn codi yn effeithio ar rywogaethau morol, ond mae’r cynnydd yng nghrynodiad carbon deuocsid hefyd yn bygwth asidio cefnforoedd y byd yn fwy. Mae asidio’r cefnforoedd wedi darogan effeithiau sylweddol ar rywogaethau sy’n dibynnu ar ysgerbydau a chregyn calsiwm carbonad, o’r cynhyrchwyr cynradd sy’n greiddiol i gymunedau morol (microplancton) i beirianwyr ecosystemau mawr megis cwrelau caled, molysgiaid a chramenogion.

Mae gwaith ymchwil IBERS yn canolbwyntio’n benodol ar ymwneud yn y dyfodol rhwng cynhyrchu bwyd cynaliadwy a biomas di-fwyd a gwarchod bioamrywiaeth naturiol, ac effaith amgylcheddau sy’n newid ar y sfferau hyn o dan senarios newid hinsawdd rhagweledig.

Nod ein hastudiaethau ymchwil ym maes bioleg ddyfrol yw deall ymatebion rhywogaethau i amgylcheddau sy’n newid, sut mae’r ymatebion hyn yn arwain at newidiadau mewn strwythurau demograffig, dosbarthiadau daearyddol neu amrywiaeth enynnol poblogaethau, yn y gorffennol ac a ddisgwylir yn y dyfodol, a sut gall yr amgylchiadau newydd hyn ryngweithio â phwysau naturiol ac anthropogenig eraill (e.e. pysgota, adeiladu amddiffynfeydd yr arfordir) i effeithio ar gynaliadwyedd adnoddau morol presennol, neu hyfywedd y rhai newydd.

Nodau

Nodau

Mae ein gwaith ymchwil yn mynd i’r afael ag effeithiau posib newid amgylcheddol ar gymunedau morol, a’r ffyrdd o addasu yn sgil yr effeithiau hyn, yn lleol yng Nghymru a Phrydain ac ar draws y byd:

  • Darogan newidiadau yn nosbarthiad organebau morol mewn ymateb i senarios newid hinsawdd.
  • Adnabod a darogan effeithiau rhywogaethau ymledol.
  • Rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol morol, ac yn arbennig y rhywogaethau sy’n cael eu pysgota.
  • Cyfrannu at ddatblygiad polisi ar adnoddau bio-adnewyddol, ac yn arbennig ffynonellau cynaliadwy o fiomas di-fwyd a brosesir ar gyfer cynnyrch gwerth uchel ac adferiad dŵ
  • Dulliau eco-beirianneg o ddatblygu amddiffynfeydd arfordirol a strwythurau ynni adnewyddadwy ar y mô

Cyfleusterau

Cyfleusterau

Systemau acwariwm ar gyfer organebau morol a dŵr croyw

Mae cyfleusterau acwariwm IBERS yn cynnwys dwy ystafell fawr a phedair uned lai. Mae’r tymheredd a’r golau yn cael eu rheoli a’u monitro gan dechnegwyr lles anifeiliaid hyfforddedig. Mae gan y system unedau ailgylchdroi mawr, sy’n defnyddio dŵr y môr o Fae Ceredigion gerllaw, ac sy’n gartref i rywogaethau morol tymherus lleol, pysgod trofannol, salmonidau, a llu o blanhigion ac anifeiliaid eraill.


Cychod


Genoteipio a Dilyniannodi’r genhedlaeth nesaf

Mae IBERS wedi buddsoddi’n sylweddol yn ddiweddar mewn isadeiledd genoteiptio a dilyniannodi’r genhedlaeth nesaf, yn ogystal â chyfleuster dilyniannodi Sanger, a wnaeth arwain at sefydlu cyfleusterau Genomeg Drawsfudol newydd ar gampws Gogerddan.

Prosiectau

Prosiectau

Mae BlueFish (http://bluefishproject.com/) yn brosiect €6.25 miliwn a ariennir gan yr UE, ac sy’n perthyn i raglen Cydweithredu Tiriogaethol Iwerddon Cymru ar gyfer rhanbarthau Môr Iwerddon a’r Moroedd Celtaidd, yn canolbwyntio ar arloesi ar draws ffiniau, newid hinsawdd ac ymgysylltu â chymunedau. Mae BlueFish yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o adnoddau morol Môr Iwerddon a’r Moroedd Celtaidd trwy lenwi’r bylchau mewn gwybodaeth am effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a ragwelir ar bysgod a physgod cregyn masnachol penodol, gan ymchwilio i ba mor agored i niwed ydynt.

Mae ECOSTRUCTURE (http://www.ecostructureproject.eu/) yn brosiect €5.5 miliwn a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy raglen Cydweithrediad Iwerddon Cymru sy’n dwyn ynghyd bum prifysgol flaenllaw yng Nghymru ac Iwerddon i ymchwilio i, a chodi ymwybyddiaeth o atebion eco-beirianyddol i’r her o addasu arfordirol i newid yn yr hinsawdd. Nod Ecostructure yw annog manteision ecolegol a chymdeithasol eilaidd mewn strwythurau ynni adnewyddadwy ac amddiffyn yr arfordir, er lles yr amgylchedd, cymunedau arfordirol a sectorau glas a gwyrdd economïau Cymru ac Iwerddon.

ARCH-UK (https://www.aquaculturehub-uk.com/) aelod cychwynnol. Mae ARCH-UK yn cefnogi Menter Dyframaethu UKRI, yn hyrwyddo gwyddoniaeth sy’n mynd i’r afael â’r bylchau gwybodaeth sy’n atal datblygiad cynaliadwy dyframaethu’r DU trwy ein wyth gweithgor, yn cynnwys “Yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Modd”.

KELPER: Ecosystemau lludwymon yn America Ladin: Llwybrau tuag at Gadernid Ecolegol. Ariennir trwy £1.2M gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (LATAM). Mae’r prosiect yn archwilio strwythur ecolegol a gweithrediad ecosystemau fforestydd lludwymon sy’n bwysig i economi a chymdeithas De America. Nod y prosiect yw gwella ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n sbarduno datgoedwigo lludwymon yn amgylcheddol, yn ecolegol ac yn gymdeithasol, ac i wella rheolaeth gynaliadwy o bysgodfa ranbarthol bwysig mewn senarios newid hinsawdd.

Prif Ymchwilwyr

Prif Ymchwilwyr

Llun Enw Ebost Ffôn
Dr Sarah Dalesman sad31@aber.ac.uk +44 (0) 1970 622344
Dr Joe Ironside jei@aber.ac.uk +44 (0) 1970 621518

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiadau

Payton, L, Hüppe, L, Noirot, C, Hoede, C, Last, KS, Wilcockson, D, Ershova, E, Valière, S & Meyer, B 2021, 'Widely rhythmic transcriptome in Calanus finmarchicus during the high Arctic summer solstice period', iScience, vol. 24, no. 1, 101927. 10.1016/j.isci.2020.101927
Payton, L, Noirot, C, Hoede, C, Hüppe, L, Last, K, Wilcockson, D, Ershova, EA, Valière, S & Meyer, B 2020, 'Daily transcriptomes of the copepod Calanus finmarchicus during the summer solstice at high Arctic latitudes', Scientific data, vol. 7, no. 1, 415. 10.1038/s41597-020-00751-4
Hüppe, L, Payton, L, Last, K, Wilcockson, D, Ershova, E & Meyer, B 2020, 'Evidence for oscillating circadian clock genes in the copepod Calanus finmarchicus during the summer solstice in the high Arctic', Biology Letters, vol. 16, no. 7, 20200257. 10.1098/rsbl.2020.0257
Torres, G, Thomas, DN, Whiteley, NM, Wilcockson, D & Giménez, L 2020, 'Maternal and cohort effects modulate offspring responses to multiple stressors', Proceedings. Biological sciences, vol. 287, no. 1929, 20200492. 10.1098/rspb.2020.0492
King, N, McKeown, N, Smale, D, Wilcockson, D, Schumm, LS, Groves, EA, Stamp, T & Moore, PJ 2019, 'Evidence for different thermal ecotypes in range centre and trailing edge kelp populations', Journal of Experimental Marine Biology and Ecology, vol. 514-515, no. May-June 2019, pp. 10-17. 10.1016/j.jembe.2019.03.004
McKeown, N, Arkhipkin, AII & Shaw, P 2019, 'Genetic analysis reveals historical and contemporary population dynamics in the longfin squid Doryteuthis gahi: implications for cephalopod management and conservation', ICES Journal of Marine Science, vol. 76, no. 4, fsz009, pp. 1019-1027. 10.1093/icesjms/fsz009
Carreira, GP, McKeown, N, Shaw, P & Gonçalves, JM 2018, 'A PCR-RFLP method for stock assignment in the endemic Macaronesian gastropid, Patella candei d'Orbigny, and its potential for future conservation strategies', Fisheries Research, vol. 199, pp. 8-11. 10.1016/j.fishres.2017.11.011
Healey, AJE, McKeown, N, Taylor, AL, Provan, J, Sauer, W, Gouws, G & Shaw, P 2018, 'Cryptic species and parallel genetic structuring in Lethrinid fish: Implications for conservation and management in the southwest Indian Ocean', Ecology and Evolution, vol. 8, no. 4, pp. 2182-2195. 10.1002/ece3.3775
King, N, Wilcockson, D, Webster, R, Hoelters, LS & Moore, P 2018, 'Cumulative stress restricts niche filling potential of habitat-forming kelps in a future climate', Functional Ecology, vol. 32, no. 2, pp. 288-299. 10.1111/1365-2435.12977
Healey, AJE, Gouws, G, Fennessy, ST, Kuguru, B, Sauer, WHH, Shaw, P & McKeown, N 2018, 'Genetic analysis reveals harvested Lethrinus nebulosus in the Southwest Indian Ocean comprise two cryptic species', ICES Journal of Marine Science, pp. 1465-1472. 10.1093/icesjms/fsx245

Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil »