Ein Adnoddau

Mae gan yr Adran Gwyddorau Bywyd hanes hir o fuddsoddi’n sylweddol mewn cyfleusterau.
Gall staff a myfyrwyr yr Adran Gwyddorau Bywyd ddefnyddio ystod aruthrol o’r offer diweddaraf mewn labordai o’r radd flaenaf. Ar ben hynny, mae lleoliad daearyddol yr adran yn cynnig mynediad diguro i gynefinoedd naturiol a thirweddau a reolir. Yn gymar i hyn oll y mae’r adnoddau llyfrgell rhagorol (gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru gerllaw) a’r rhwydwaith TG sydd ar gael i’r Brifysgol gyfan.