Morloi’r Antarctig yn helpu gwyddonydd Aberystwyth i fonitro cynhesu’r môr
Morloi eliffant yn yr Antarctig
12 Ionawr 2024
Bydd morloi yn cynorthwyo academydd o Brifysgol Aberystwyth i fonitro cynhesu’r môr yn yr Antarctig yn ystod taith llong ymchwil y Syr David Attenborough.
Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd Dr Guilherme Bortolotto yn mynd ar fwrdd llong newydd Arolwg Antarctig Prydain i arolygu’r cefnfor ger Penrhyn gorllewinol yr Antarctig, ym Môr Weddell.
Bydd pa mor bell a pha mor gyflym y mae'r cerrynt cynnes yn llifo o dan rewlifoedd yr Antarctig, gan eu toddi oddi tano, yn effeithio ar pa mor gyflym y byddan nhw’n cwympo. Gallai eu diflaniad arwain at gynnydd trychinebus yn lefel y môr; gan adael aneddiadau arfordirol mawr ar draws y byd o dan y dŵr.
Hyd yn oed gydag offer blaengar, gall fod yn anodd iawn mesur tymheredd dŵr dwfn yn Antarctica - yn enwedig o dan yr iâ. Fodd bynnag, mae morloi Weddell ac eliffant yn nofio'n rheolaidd trwy'r union ddyfroedd y mae gwyddonwyr am eu monitro.
Bydd yr ymchwilydd o Aberystwyth yn lleoli ac yn tagio morloi fel rhan o’r ymdrech ryngwladol hon i ddeall effeithiau newid hinsawdd mewn rhanbarthau pegynol. Bydd y data o'r morloi yn cael ei dderbyn trwy loeren pan fydd y morloi'n dod nôl i'r wyneb uwchben y cefnfor.
Cyn ei daith ymchwil i'r Antarctig ar yr RRS Syr David Attenborough, dywedodd Dr Bortolotto o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth:
“Mae deall y newidiadau yn y cefnforoedd hyn, gan gynnwys cynhesu rhanbarthau penodol, yn rhan hanfodol o roi'r offer i lunwyr polisi gyfyngu ar yr argyfwng hinsawdd a'i liniaru. Mae morloi yn greaduriaid gwerthfawr a hardd ac mae’n fraint gweithio gyda nhw. Maen nhw fel tîm ymchwil arbennig - yn cyrraedd mannau na all hyd yn oed ein technoleg fwyaf datblygedig eu cyrraedd.
“Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn ymchwilio i wahanol bethau am ecoleg ac ymddygiad y morloi hynny, fel nodweddion plymio a’r mannau y mae’n well ganddyn nhw fynd iddyn nhw. Gobeithio y bydd eu nofio yn helpu’r byd i ddeall yr effaith ddifrifol y mae newid hinsawdd yn ei chael ar ein planed.”
Ychwanegodd Dr Bortolotto:
“Bydda i’n gweithio'n bennaf ochr yn ochr ag eigionegwyr i fesur nodweddion y cefnfor gan gynnwys cerhyntau a nodweddion cylchrediad, tymheredd, halwynedd trwy ddefnyddio mathau lluosog o offer. Bydd gennym gleiderau môr, stilwyr samplu cefnforol ar longau, yn ogystal â chymorth y morloi.
“Fy mhrif rôl fydd helpu i dagio’r morloi i gasglu gwybodaeth am amodau dargludedd-tymheredd-dyfnder y dŵr ar hyd eu plymiadau dwfn. Pan ddaw'r morloi i'r wyneb, bydd y wybodaeth honno'n cael ei hanfon drwy system loeren i borth mynediad data. Rydyn ni fel arfer yn defnyddio’r mathau hynny o ddata i ymchwilio i ddosbarthiad masau dŵr.”
Bydd Dr Bortolotto yn ymchwilio yn yr Antarctig ym mis Ionawr a mis Mawrth 2024 fel rhan o brosiect ymchwil PICCOLO a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.