Aberystwyth yn dringo yn nhablau cynaliadwyedd y prifysgolion

Athro Neil Glasser

Athro Neil Glasser

09 Ionawr 2025

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi esgyn i’r 30 uchaf yn y Deyrnas Gyfunol mewn cynghrair cynaliadwyedd newydd ar gyfer addysg uwch.   

Yn arolwg newydd People & Planet o gynaliadwyedd a moeseg, fe lamodd y Brifysgol i safle 29 allan o 149 o brifysgolion a aseswyd.  

Mae ei chynnydd yn y tabl cynghrair o dros 80 yn arwydd o’i safle fel y sefydliad cydradd orau ar gyfer ynni glân.  

Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae’r Brifysgol wedi buddsoddi dros £10 miliwn mewn prosiectau arbed ynni. Mae’r rheiny yn cynnwys arae haul newydd yng Ngogerddan a Thrawscoed ynghyd â datblygiad sylweddol ar ei Champws Penglais.  

Fe gafodd y Brifysgol farciau uchel am leihau carbon, gyrfaoedd moesegol a rheolaeth garbon yn ogystal.  

Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd ac Arweinydd Gweithredol ar Gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Aberystwyth:  

“Mae’r newyddion calonogol hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil a lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae ein buddsoddiadau sylweddol mewn ynni haul yn gerrig milltir tuag at ein nod o ddadgarboneiddio’r Brifysgol. Rydym ni’n ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o’r datblygiadau pwysig hyn. 

“Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â heriau newid hinsawdd mewn cymaint o ffyrdd â phosibl. Fe wnawn ni hynny nid yn unig drwy gyfrwng ein hymchwil a'n haddysgu ond hefyd drwy ein hamcanion strategol sefydliadol. Mae’r newidiadau a buddsoddiadau yn dechrau dwyn ffrwyth, ond mae llawer i’w wneud o hyd wrth i ni fynd i’r afael â rhai o’r heriau sylfaenol y mae cymdeithas yn eu hwynebu a gweithio i ddatgarboneiddio ein heconomi er lles y blaned.” 

Barnodd arolwg People & Planet 149 o brifysgolion y Deyrnas Gyfunol ar sail 14 meini prawf yn gysylltiedig â chyfiawnder hinsawdd a chymdeithasol.