Tabledi gwymon yn cael eu profi ar gyfer buddiannau iechyd y perfedd

Dr Jessica Adams

Dr Jessica Adams

18 Rhagfyr 2024

Bydd gwyddonwyr yn profi buddion iechyd y perfedd a allai ddeillio o rin gwymon fel rhan o ymdrechion i wella iechyd y genedl.

Mewn partneriaeth â chwmni technoleg cynhwysion gwymon BioMara, mae academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i gyfansoddyn bioweithredol a geir ym muriau celloedd yr alga.

Casglwyd y rhin o wymon sy’n cael ei gynaeafu’n gynaliadwy yn y Deyrnas Gyfunol  a gallai gynnig ffordd naturiol o wella afiechydon y perfedd.

Ystyrir gwymon gan lawer fel ‘bwyd daionus’ oherwydd ei lefelau uchel o ffibr, asidau amino, fitaminau a mwynau.

Mae dietau afiach yn achosi llawer o broblemau iechyd ledled y byd, gan gynnwys gordewdra a chamfaethiad.

Mae dros hanner y bobl sydd yn 45 mlwydd oed neu’n hŷn yn byw gyda chyflyrau iechyd sy’n ymwneud â’u diet, ac sy’n rhoi pwysau anferth ar adnoddau'r gwasanaeth iechyd.

Bydd yr ymchwil, sy’n cael ei  gefnogi gan UKRI, yn symud at dreialon clinigol i brofi rhin BioMara, ‘Boost+’.

Bydd gwyddonwyr yn Uned Ymchwil Asesu Lles ac Iechyd Adran y Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth, ochr yn ochr ag ymchwilwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn cynhyrchu a threialu’r dulliau gorau i gynnal y prawf dietegol cyntaf gyda’r cynnych hwn. 

Dywedodd yr arbenigwraig ar wymon Dr Jessica Adams o IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Rydym ni’n wedi eincyffroi am ddefnyddio ein harbenigedd i symud y prosiect hwn yn ei flaen. Mae gwymon yn cynnwys cyfansoddion gwahanol i blanhigion tir, y mae gan rai ohonyn nhw briodweddau gwahanol y gallwn ni fanteisio arnyn nhw megis fucoidan. Byddwn ni’n defnyddio ein gwybodaeth a'n sgiliau i gynhyrchu rhin newydd o fucoidan ar raddfa fawr o fewn cyfleusterau safon bwyd. Mae cyfansoddion gwymon eisoes yn cael eu defnyddio’n helaeth yn y diwydiant bwyd ond mae’r prosiect hwn hefyd yn datblygu cynhyrchion ar gyfer y farchnad faethegol, a allai fod o fudd i iechyd a lles pobl yn fyd-eang.”

Ychwanegodd Jay Dignan, Prif Swyddog Gweithredol BioMara:

“Yn BioMara, rydym ni’n gweld fucoidan fel un o gyfansoddion bioactif mwyaf grymus byd natur. Nod ein cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth yw gwella ein dealltwriaeth o Boost+ - rhin bioweithredol BioMara sy’n cynnwys fucoidan. Mae wedi dangos potensial nodedig mewn astudiaethau cyn-glinigol, ac rydym ni’n llawn cyffro am fynd ag e gam ymhellach gyda threialon mewn pobl sy’n canolbwyntio ar iechyd y perfedd.

“Mae iechyd y perfedd yneffeithio ar filiynau yn fyd-eang. Mae fucoidan wedi dangos potensial rhyfeddol wrth ddylanwadu ar ficrobiom y perfedd ac ymatebion imiwnedd sy’n gysylltiedig â’r perfedd. Rydym yn anelu at ddod â Boost+ BioMara i’r farchnad fel ateb naturiol sydd wedi’i ddilysu’n wyddonol.”

Dywedodd Dr Andy Cureton, Cyfarwyddwr AgriFood Systems yn Innovate UK:

“Mae mynediad at ddiet fforddiadwy, cynaliadwy ac iach yn hanfodol ar gyfer lles pobl a’r blaned. Rydym ni’n ysgogi twf busnes drwy ysbrydoli a datgloi datblygiadau arloesol sy'n gwella bywyd, tra'n sicrhau eu bod arloesi ar gael i bawb.

“Mae cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant yn hanfodol ar gyfer datblygu ymchwil maeth a throi darganfyddiadau yn gynhyrchion bwyd iachach, mwy cynaliadwy. Gyda’n gilydd, gallwn ni ysgogi arloesedd, gwella iechyd y cyhoedd, a mynd i’r afael â heriau fel gordewdra.”