Samplu aer byd-eang mwyaf erioed yn mapio lledaeniad ffyngau
Yr Athro Gareth Griffith ag un o’r peiriannau samplu aer
10 Gorffennaf 2024
Mae ymchwil newydd wedi canfod bod madarch a ffyngau eraill yn lledaenu eu sborau mewn ffordd llai eang nag a dybiwyd gynt, ac yn fwy tebyg i sut mae anifeiliaid a rhywogaethau planhigion yn mudo.
Dyma’r prosiect samplu byd-eang mwyaf erioed ac mae’n dadansoddi sut mae’r hinsawdd yn effeithio ar dyfiant a lledaeniad ffyngau. Cafodd y canlyniadau eu cyhoeddi yn y cyfnodolyn Nature.
Defnyddiodd yr astudiaeth samplwyr aer i gasglu sborau ffyngau yn yr aer mewn 47 lleoliad ar draws bob cyfandir heblaw am Antarctica dros gyfnod o ddwy flynedd.
Mae’r rhan fwyaf o ffyngau yn lledaenu trwy ryddhau sborau yn yr aer. Gall canfod y sborau hyn trwy samplu'r aer ddweud wrthym pryd mae sborau yn cael eu rhyddhau a pha mor bell maent yn teithio.
Gall mapio dosbarthiad byd-eang ffyngau ddarganfod yr ystodau ecolegol ar gyfer rhywogaethau prin neu’r rheini dan fygythiad. Mae hyn yn ein galluogi i ganfod newidiadau yn y patrymau hyn a achosir gan newid hinsawdd neu ddinistriad cynefinoedd naturiol.
Mae hefyd yn golygu y gellir monitro lledaeniad ffyngau sy’n niweidiol i bobl neu i blanhigion cnwd.
Mae ffyngau yn hanfodol i sut mae ecosystemau’n gweithio ond maent yn tueddu i fod yn anweledig, felly mae’r ffactorau sy’n pennu eu dosbarthiad a’u gweithgarwch yn parhau i fod yn ddirgelwch.
Amcangyfrifir y gallai fod hyd at bum miliwn o rywogaethau gwahanol ond mae’r rhan fwyaf yn parhau yn anhysbys.
Am ddegawdau bu dadlau ymhlith gwyddonwyr ynghylch pa ffactorau sy’n gyrru gwasgariad ffyngau a microbau eraill.
Y gred wreiddiol oedd y gallai ffyngau gyrraedd pob rhan o'r blaned trwy wasgariad awyr hirbell, ond y bydden nhw ond yn tyfu mewn amodau addas.
Mae hyn yn gwrthgyferbynnu â lledaeniad anifeiliaid a phlanhigion sydd wedi'u cyfyngu'n fwy llym gan gadwyni mynyddoedd, moroedd a rhwystrau daearyddol eraill.
Fodd bynnag, mae’r papur ymchwil newydd yn dangos bod lledaeniad ffyngau, fel anifeiliaid a phlanhigion, yn cael ei bennu gan ffactorau hinsoddol, ac maent hefyd yn cael eu cyfyngu, nid yn unig o ran lle maent yn tyfu ond hefyd yn y ffordd mae eu sborau yn cael eu lledaenu.
Dywedodd yr Athro Gareth Griffith o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth:
“Mae’r ffordd rydyn ni wedi samplu DNA yn yr awyr ar gyfer yr astudiaeth hon yn gam enfawr ymlaen o ran deall sut mae ffyngau yn tyfu ac yn gwasgaru ar draws rhannau gwahanol o’r byd. Yn gyffredinol, mae ein canlyniadau’n awgrymu bod y ffactorau sy’n effeithio ar ble mae microbau’n byw ac yn tyfu yn debyg i’r rhai sy’n pennu dosbarthiad planhigion ac anifeiliaid.
“Mae teyrnas amrywiol iawn y ffyngau yn dilyn patrymau byd-eang hynod ragweladwy. Mae’r patrymau hyn yn debyg i’r rhai a ddisgrifiwyd ar gyfer grwpiau mawr eraill o organebau. Felly, mae’r ymchwil yn gwneud cyfraniad mawr at y ddadl hir sefydlog honno.”
Canfu'r astudiaeth mai rhywogaethau o ffwng yn yr awyr a ganfuwyd mewn gwahanol ranbarthau oedd yn cael eu heffeithio fwyaf gan dymheredd aer blynyddol cyfartalog y safle, gydag amrywiaeth a niferoedd yn cynyddu'n agosach at y Cyhydedd.
Cadarnhaodd y canlyniadau fod tymheredd yn dylanwadu ar atgenhedlu ffyngau a bod rhyddhau sborau ar ei uchaf pan fo cyflymder y gwynt yn uchel.
Ychwanegodd yr Athro Gareth Griffith o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae ein canlyniadau’n amlygu rôl tymheredd fel sbardun sylfaenol i ddeinameg ffwngaidd, gydag amrywiaeth ffwngaidd yn cynyddu gyda hinsoddau cynhesach a mwy o sborau’n cael eu rhyddhau ar ddiwrnodau cynhesach. Mae'r canfyddiad hwn yn awgrymu y bydd newid hinsawdd fyd-eang, a hinsawdd sy'n cynhesu'n gyffredinol, yn chwarae rhan fawr mewn ailstrwythuro cymunedau ffwngaidd.
“Er bod astudiaethau blaenorol ar raddfa fawr o ffyngau pridd wedi canfod effeithiau clir yr hinsawdd ar gyfansoddiad cymunedol, mae’r ffaith bod tymheredd yr aer yn ein data yn esbonio’r rhan fwyaf o’r amrywiad yn nosbarthiadau ffyngau yn drawiadol.”
Wrth siarad am arwyddocâd y samplu aer, dywedodd Cymrawd Ymchwil yr Academi Nerea Abrego, o Brifysgol Jyväskylä yn y Ffindir:
“Mae aer yn ffynhonnell gyfoethog iawn ar gyfer ymchwil natur; mae’n llawn DNA planhigion, ffyngau, bacteria, pryfed, mamaliaid ac organebau eraill. Mae'r wybodaeth hon yn hanfodol nid yn unig i ddeall ble a phryd y mae gwahanol rywogaethau ffwngaidd yn ffynnu, ond hefyd i ragweld yr hyn sy’n mynd i ddigwydd iddyn nhw o ganlyniad i newid hinsawdd.
“Un pwnc arbennig o ddiddorol ar gyfer ymchwil pellach yw adolygiad manylach o’r dilyniannau ar gyfer ffyngau sy’n bwysig i fodau dynol. Mae’r rhain yn cynnwys clefydau ffwngaidd bodau dynol, cnydau ac anifeiliaid cynhyrchu, yn ogystal â ffyngau sy’n arwydd o golli natur a gwanhau prosesau ecosystemau naturiol.”
Cafodd Prosiect Samplu Sborau Byd-eang ei ariannu drwy nifer o gyrff, gan gynnwys Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) y Deyrnas Gyfunol.