Prosiect blychau nythu Aberystwyth yn edrych ar effaith newid hinsawdd ar fridio adar
![Dr Peter Korsten yn edrych ar un o'r blychau nythu yn Aberystwyth](/cy/life-sciences/news/news-article/Nestcheck_Penglaisweb.jpg)
Dr Peter Korsten yn edrych ar un o'r blychau nythu yn Aberystwyth
30 Ebrill 2024
Mae blychau nythu newydd wedi ymddangos o amgylch Aberystwyth fel rhan o astudiaeth newydd i ddeall sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar y gystadleuaeth rhwng adar.
Mae hinsawdd Cymru yn cynhesu o achos effaith gweithgareddau pobl – gyda 2022 a 2023 y blynyddoedd cynhesaf ar gofnod.
Mae newid hinsawdd yn effeithio ar batrymau bridio gwahanol rywogaethau o adar: mae’r titw mawr yn dodwy wyau bythefnos yn gynt nawr nag yr oedd yn y 1960au.
Bydd yr astudiaeth newydd gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gosod nifer o flychau nythu ar uchderau gwahanol yn Aberystwyth a choetiroedd yn y cyffiniau.
Mae patrymau bridio’r titw mawr, y titw tomos las a’r gwybedog brith yn cael eu heffeithio gan y tymheredd, a gallai newidiadau yn nhymheredd y gwanwyn arwain at fwy o gystadlu rhyngddyn nhw am fwyd ynghyd â dodwy llai o wyau.
Yn ogystal, bydd yr ymchwil yn edrych ar effeithiau newid tymheredd ar eu diet.
Dywedodd Dr Peter Korsten o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth:
“Mae’n gyffrous i gael dechrau ar y prosiect yma, wrth i’r adar cyntaf gyrraedd eu safleoedd nythu newydd eleni. Diben yr astudiaeth yw gwella ein dealltwriaeth o’r effaith y mae newid hinsawdd yn ei chael ar yr ymwneud rhwng gwahanol rywogaethau, yn enwedig adar y coetir. Rydyn ni’n gwybod bod gwanwyn cynhesach eisoes yn arwain at adar yn bridio yn gynt, ac rydyn ni’n gobeithio deall mwy ar sut y gallai hyn effeithio ar y gystadleuaeth rhwng rhywogaethau adar gwahanol.
“Mae rhagweld effeithiau newid hinsawdd ar amrywiaeth fiolegol yn her bwysig a brys. Mae astudiaethau o adar sy'n bridio mewn blychau nythu wedi bod yn hanfodol ar gyfer dogfennu newidiadau mewn ffenoleg bridio mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd, ond nid yw effaith newid amgylcheddol parhaus ar ryngweithio cystadleuol rhwng rhywogaethau o fewn cymunedau ecolegol yn glir.
“Yn fwy cyffredinol, mae’n bwysig i ni fel cymdeithas ddeall sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar fioamrywiaeth. Wrth edrych i’r dyfodol, rwy’n gobeithio bydd y prosiect cychwynnol hwn yn sail i ddatblygu adnodd ac astudiaethau mwy hir dymor ar gyfer rhagor o ymchwil yma yn Aberystwyth.”
Mae Isobel Griffith, myfyrwraig pedwaredd flwyddyn yn Adran Gwyddorau Bywyd y Brifysgol sy’n astudio cadwraeth bywyd gwyllt, yn helpu gyda’r prosiect. Dywedodd:
“Rwy’ wir wedi mwynhau gwirio’r blychau nythu eleni, yn enwedig eu gweld yn datblygu o wythnos i wythnos. Mae’n wych i gael y cyfle yma i helpu gyda’r ymchwil. Rwy’n teimlo'n gryf am fioamrywiaeth ac mae dysgu mwy am sut mae adar yn cael eu heffeithio gan newid hinsawdd yn hynod ddiddorol.”
Ychwanegodd Rose Markham-Gill, myfyrwraig yn ei hail flwyddyn, sydd hefyd yn gwirio’r blychau nythu fel rhan o’r prosiect:
“Rwy’ wedi bod wrth fy modd yn bod yn rhan o wirio blychau nythu eleni ac yn edrych ymlaen at gasglu mwy o ddata dros y blynyddoedd nesaf ar gyfer fy nhraethawd hir ac ar gyfer ymchwil pellach Peter. Mae’n beth mor wych cael mynediad i’r blychau nythu a gwylio’r gwanwyn yn datblygu. Mae pob wythnos wedi bod yn gyffrous ac wedi fy ngalluogi i werthfawrogi byd natur mewn ffordd na allwn i erioed ei chael o’r blaen.”
Mae’r ymchwil yn cael ei gefnogi gan gyllid oddi wrth Hyb Dyfodol Gwledig Prifysgol Aberystwyth.