Gallai tyfu cnydau dan do fod yn rhan allweddol o ddiogelwch bwyd y dyfodol
Dr William Stiles, Prifysgol Aberystwyth
09 Ebrill 2024
Mae angen cyflymu datblygiad amaeth amgylchedd rheoledig a thechnoleg amaethu fertigol er mwyn mynd i’r afael â heriau diogelwch bwyd y Deyrnas Gyfunol yn y dyfodol, yn ôl arweinydd prosiect ymchwil newydd.
Mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi dechrau prosiect newydd i ymchwilio i ffermio fertigol, sef y broses o gynhyrchu bwyd drwy ei dyfu ar haenau wedi'u pentyrru o fewn amgylcheddau wedi’u rheoli dan do.
Mae’r dull hwn o dyfu bwyd yn helpu ffermwyr i gynhyrchu llawer mwy ar yr un faint o dir a lleihau'r effaith amgylcheddol, ac i osgoi her digwyddiadau tywydd eithafol y dyfodol
Nod y prosiect yw tynnu ynghyd arbenigwyr o ddiwydiant a’r byd academaidd i wneud y math hwn o amaethu'n fwy fforddiadwy.
Dywedodd Dr William Stiles o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth, sy’n arwain y prosiect:
“Rydyn ni’n gwybod bod angen y dechnoleg hon arnom ni – mae’n hanfodol er mwyn mynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd o ganlyniad i newid hinsawdd. Gallai ffermio fertigol fod yn rhan allweddol o’n systemau cynhyrchu bwyd yn y dyfodol. Un o'r agweddau yr ydym ni’n edrych arno yw'r gallu i newid cynhyrchiant bwyd i amgylcheddau rheoledig yn gyflym. Mae angen i ni edrych ar y dechnoleg a gweithio i’w gwneud yn fforddiadwy, a chyfleu cynllun o sut y gallai’r dyfodol hwnnw edrych.
“Mae’r sector ffermio fertigol yn wynebu heriau sylweddol ar hyn o bryd wrth iddo drosglwyddo o egin dechnoleg i gynhyrchu prif ffrwd. Mae’n parhau i fod ar drothwy chwyldroi cynhyrchu bwyd, yn enwedig ar gyfer eitemau sy’n rhy heriol i’w tyfu yn system amaethyddol bresennol y wlad hon.”
Mae’r prosiect ymchwil newydd yn un o 16 ar draws prifysgolion yng Nghymru i gael eu hariannu trwy gronfa grantiau bach Rhwydwaith Arloesedd Cymru.
Meddai Lewis Dean, Pennaeth Rhwydwaith Arloesedd Cymru:
“Mae ansawdd y ceisiadau yn rownd y gronfa grantiau bach eleni wedi bod yn galonogol i’w weld, gyda phrifysgolion yn cydweithio i gyflwyno ceisiadau cryf iawn. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cyflwyno dros £100,000 trwy ein cronfa grantiau bach i gefnogi ymchwil cydweithredol yng Nghymru.
“Cafodd ymchwil yng Nghymru ei gydnabod yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysg (REF) 2021 am ei effaith gadarnhaol ar gymunedau yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol a ledled y byd. Rwy'n arbennig o falch felly ein bod wedi cyllido prosiectau sy'n cynnwys partneriaid o awdurdodau lleol, byrddau iechyd, y llywodraeth, diwydiant, a grwpiau cymunedol er mwyn parhau i gyflawni ymchwil sy'n creu effaith.
“Sefydlwyd Rhwydwaith Arloesedd Cymru i gryfhau ymchwil ac arloesedd yng Nghymru trwy gydweithio ac, yn dilyn llwyddiant cyllido trwy grantiau bach y llynedd, rwy’n edrych ymlaen at gael gweld deilliannau’r flwyddyn hon wrth i ni gynnig cefnogaeth i’n prifysgolion i feithrin y partneriaethau hyn.”
Mae’r prosiect Ffermio Fertigol Cymru yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth gyda chymorth Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Vertikit Cyf.