Amdanom Ni
Croeso i Adran y Gwyddorau Bywyd! Rydyn ni'n adran addysgu ac ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Rydym yn cynnig cyrsiau israddedig, uwchraddedig a dysgu o bell mewn Amaethyddiaeth, Gwyddorau Anifeiliaid a Dyfrol, Biocemeg a Geneteg, Biowyddorau, Gwyddorau Ecolegol, Bioleg Dynol ac Iechyd, Gwyddor Chwaraeon, Nyrsio ac Ymarfer Corff a Gwyddor Filfeddygol. Mae nifer o'n cyrsiau israddedig wedi'u hachredu gan y Gymdeithas Bioleg Frenhinol (RSB). Mae ein holl gyrsiau yn cynnig cyfleoedd i adeiladu eich portffolio gyrfa drwy astudio dramor neu leoliadau profiad gwaith nid yn unig yn y DU, ond mewn sawl gwlad arall.
Rydym yn falch o'n cymuned myfyrwyr gweithgar sy'n hyrwyddo ymgysylltu â'r ddisgyblaeth a'r gweithgareddau cymdeithasol. Mae ein graddedigion wedi gwneud sylwadau helaeth ar yr awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar, a'r cymorth academaidd a bugeiliol rhagorol a roddir gan ein staff. Cydnabuwyd hyn yn briodol hefyd gyda chanlyniadau rhagorol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr.
Yn ogystal â'n haddysgu, mae ein hymchwilwyr yn cyfrannu at ddatrys materion byd-eang fel atal clefydau marwol, diogelwch bwyd a thwf cnydau mewn pridd sy'n dueddol o ddioddef sychder, datblygu tanwyddau cynaliadwy ac ecogyfeillgar, ac astudio effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ecosystemau. Ein hymchwilwyr hefyd yw eich darlithwyr, gan sicrhau eich bod yn cael eich addysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd.
Fel adran, rydym yn cael ein cydnabod yn rhyngwladol am ein rhaglenni bridio planhigion, yn ogystal â'n harbenigedd ymchwil mewn gwyddor anifeiliaid a chnydau. O fewn y Ganolfan Rhagoriaeth Arloesi mewn Da Byw, rydym yn canolbwyntio ar gynhyrchu cig defaid yn effeithlon tra'n lleihau'r effaith amgylcheddol, tra bo Platfform Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran yn darparu adnodd ymchwil i ymchwilio i ecosystemau a ffermir gan yr ucheldir. Mae ein ffermydd yn ymestyn i dros 800 hectar ac yn gweithredu fel safleoedd arloesi ar gyfer gwasanaeth trosglwyddo gwybodaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant.
Mae'r Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol yn gyfleuster unigryw ar gyfer darparu atebion bridio a datblygiadau ar gyfer rhywogaethau cnydau allweddol. Mae canolfan bioburo BEACON yn gweithio i adeiladu'r economi bio neu wyrdd drwy gydweithio â diwydiant i ddatblygu cynnyrch, gwasanaethau a thechnolegau ar gyfer Cymru wyrddach a mwy cynaliadwy. Yn y cyfamser mae Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yn dod â'r byd academaidd a busnesau o'r sectorau biowyddoniaeth, technoleg amaeth, a bwyd a diod ynghyd ar gampws newydd sbon gwerth £40.5 miliwn.
Os nad ydych erioed wedi ymweld ag Aberystwyth o'r blaen, beth am ymweld â ni ar Ddiwrnod Agored a chanfod pam mai ni yw’r brifysgol orau yng Nghymru am fodlonrwydd myfyrwyr ac ansawdd yr addysgu.