Mynediad GG ar gyfer ymwelwyr
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth (GG) yn darparu TG a gwasanaeth llyfrgell i ddefnyddwyr cofrestredig Prifysgol Aberystwyth yn ddarostyngedig ar Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Rydym yn croesawu ymwelwyr i lyfrgelloedd y Brifysgol.
Rhaid i ymwelwyr o dan 16 oed gael eu goruchwylio gan riant, gwarcheidwad neu athro ysgol.
Gan fod gofod astudio yn gyfyngedig, yn ystod cyfnodau prysur a thu allan i oriau craidd y staff, cyfyngir mynediad i'r llyfrgelloedd i unigolion â Cherdyn Aber yn unig. Gwiriwch cyn i chi ymweld.
Ymweliadau gan unigolion
Rydym yn darparu’r mynediad canlynol i adnoddau:
Casgliadau Llyfrgell
- Gall pob ymwelydd ymgynghori â'n casgliadau ar sail cyfeirio yn unig yn y llyfrgell.
- Mae benthyciad cyfyngedig ar gael os ydych chi'n gymwys ar gyfer un o'r cynlluniau canlynol:
Adnoddau Electronig
- Mae rhai o danysgrifiadau’r Brifysgol i adnoddau electronig yn caniatáu mynediad i aelodau o’r cyhoedd eu defnyddio o fewn y llyfrgell.
- Mae Terfynell Mynediad Cerdded i Mewn ar gyfer Adnoddau Electronig ar gael yn Llyfrgell Hugh Owen i hyrwyddo hyn. Nid yw'r derfynell hon yn rhoi mynediad i'r rhyngrwyd na chyfleusterau cyfrifiadurol cyffredinol. Gofynnwch wrth y ddesg ymholiadau.
Mynediad i’r rhyngrwyd
- Gall ymwelwyr o sefydliadau cyfranogol eraill gysylltu eu dyfeisiau i'r rhwydwaith diwifr eduroam.
- I ymwelwyr nad oess ganddynt fynediad i eduroam, mae ein rhwydwaith diwifr PAU-Guset ar gael
Argraffu, llungopïo a sganio
- Gellir prynu cerdyn argraffu ymwelwyr o'r ddesg ymholiad
- Pris y cerdyn yw £1, bydd angen prynu credyd os hoffech argraffu neu lungopïo. Mae sganio yn rhad ac am ddim.
- I sganio neu argraffu bydd angen i chi gofrestru eich cyfeiriad e-bost eich hun i'w ddefnyddio gyda'r cerdyn.
- Gallwch e-bostio'ch printiau i'r argraffydd.
- Gallwch sganio dogfennau i'ch cyfeiriad e-bost.
- Rhaid i'r sganio a’r llungopïo oll gydymffurfio â chyfyngiadau hawlfraint sy'n cael eu harddangos wrth bob argraffydd.
Ymweliadau gan grwpiau Ysgol
- Gallwn drefnu ymweliadau ysgol i’n llyfrgelloedd at ddibenion astudio.
- I sicrhau’r profiad gorau gofynnwn i chi wneud trefniadau ym mhell o flaen llaw ac amserlenni eich ymweliad yn ystod gwyliau’r Brifysgol.
- Rhaid i arweinwyr neu athrawon ddod gyda grwpiau a rhaid iddynt edrych ar Bolisi Diogelu Pobl Agored i Niwed Prifysgol Aberystwyth a bod yn barod i ddangos tystiolaeth o bolisi diogelu eu sefydliad cyn iddynt gyrraedd.
- Gweler hefyd Swyddfa Gynadleddau Prifysgol Aberystwyth am Ymweliadau Ysgol ac Addysgiadol
- Cysylltwch â gg@aber.ac.uk 01970 622400 i drefnu eich ymweliad
Gellir dod o hyd i wybodaeth am barcio i ymwelwyr y Brifysgol yma: https://www.aber.ac.uk/cy/parcio/ymwelwyr/