Mynediad Darllenwyr Cysylltiol i gyn-aelodau staff sydd wedi ymddeol

Gall staff sydd wedi ymddeol o Brifysgol Aberystwyth parhau i ddefnyddio gwasanaethau llyfrgell y Brifysgol ar gyfer astudiaeth bersonol ac ymchwil drwy wneud cais i fod yn Ddarllenwr Cyswllt.

Mae Darllenwyr Cyswllt ar gyfer staff sydd wedi ymddeol o Brifysgol Aberystwyth yn rhad ac am ddim ac yn darparu mynediad i'r llyfrgell, benthyca, argraffu, copïo a sganio.

Mae pob defnydd yn amodol ddilyn Rheoliadau, polisïau a chanllawiau Gwasanaethau Gwybodaeth

Ceir manylion llawn y gwasanaethau sydd ar gael i Ddarllenwyr Cyswllt ar ein tudalen Darllenwyr Cyswllt.

I wneud cais llenwch y ffurflen gais Darllenydd Cyswllt isod.

Bydd gofyn i chi ddod â dogfen adnabod cyfeiriad a dogfen adnabod ffotograffig (fel trwydded yrru llun) i'r ddesg ymholiad wrth gasglu'ch Cerdyn Aber.