Canllawiau Cyffredinol ar ddefnyddio DA yn ddiogel

1.0 Rhagarweiniad a chwmpas

Mae PA yn cydnabod pwysigrwydd defnyddio DA cynhyrchiol mewn addysg ac mae wedi ymrwymo i'w ddefnyddio’n gyfrifol, yn foesegol ac yn briodol wrth ddysgu ac addysgu, ymchwilio a gweinyddu.

Gall y defnydd moesegol o offer DA gynnig manteision sylweddol a bydd eu defnydd heb os yn dod yn fwy cyffredin yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Fodd bynnag, mae rhai risgiau a phryderon diogelwch amlwg wrth ddefnyddio DA cynhyrchiol.  Mae'r canllawiau canlynol yn tynnu sylw at y bygythiadau hyn ac fe'i bwriedir fel canllaw lefel uchel i arfer gorau wrth ddefnyddio, yn bennaf, offer DA cynhyrchiol ar draws ystod o weithgareddau, megis ymchwil academaidd a gweinyddiaeth mewn amgylchedd addysg uwch.

 Dylid nodi hefyd y bydd polisïau a gweithdrefnau presennol yn berthnasol i rai o'r sefyllfaoedd a ddisgrifir isod. Dylai pob defnyddiwr systemau TG PA ymgyfarwyddo â'r ddogfen hon a chydnabod eu bod yn gyfrifol yn y pen draw am:

  • Allbwn unrhyw offer DA y maent yn ceisio ei ddefnyddio;
  • Sicrhau ansawdd eu gwaith eu hunain mewn perthynas â defnyddio DA;
  • Addysgu eu hunain am sut mae'r offer DA hwnnw wedi'i hyfforddi a phriodoldeb eu dewis o offer DA.

 

2.0 Dysgu ac addysgu

Er mwyn defnyddio DA yn benodol mewn cyd-destunau addysgu a dysgu, gweler:

Canllaw i Arfer Gorau

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn y Llyfrgell

Os yw defnydd o DA yn golygu Ymddygiad Academaidd Annerbyniol 

Blog UDDA gan gynnwys diweddariadau DA

 

3.0 Risgiau i gyfrinachedd

Mae offer DA yn cael eu hyfforddi ar, ac yn cipio, cyfansymiau enfawr o ddata sy'n bodoli eisoes ac unrhyw ddata y gallech fod wedi'i ddarparu wrth ddefnyddio'r offer. Os ydych chi'n rhannu unrhyw ddata personol neu sensitif ('categori arbennig') ag unrhyw lwyfan DA cynhyrchiol, mae’n bosibl y bydd ar gael i ddarparwr y gwasanaeth, ei bartneriaid a'i is-gontractwyr ac mae ganddo'r potensial i fod ar gael i'r cyhoedd hefyd.  Mae'n bosibl iawn eich bod yn torri deddfwriaeth diogelu data yn y modd hwn neu mewn ffyrdd eraill. Peidiwch â rhannu data o'r fath ag offer DA, yn enwedig pan fydd gwasanaethau DA cynhyrchiol eraill yn cael eu defnyddio.  Gweler 5.6 isod i gael mwy o fanylion.

Bydd polisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol ar ddiogelu data yn berthnasol yn yr achosion hyn

 

4.0 Hawlfraint / Eiddo Deallusol / data busnes cyfrinachol

Mae'r Brifysgol yn cadw ac yn prosesu llawer iawn o wybodaeth sy'n hanfodol i fusnes, yn werthfawr yn fasnachol, ac yn sensitif iawn.  Mewn rhai achosion, mae'n cynnwys eiddo deallusol y Brifysgol, ac ni ddylid cyflenwi categorïau o'r fath o ddata neu ddogfennau i offer DA cynhyrchiol.  Yn yr un modd, gall gweithiau testunol fod o dan hawlfraint y brifysgol neu ei staff ac yn yr un modd ni ddylid eu mewnbynnu i offer DA cynhyrchiol trydydd parti.  Dylech hefyd barchu hawlfraint trydydd partïon, megis awduron y mae eu gwaith yn cael eu cadw gan y llyfrgell neu sy'n rhan o danysgrifiadau ar-lein sydd ar gael i staff a myfyrwyr PA  Mae cyfrifoldeb cyfreithiol am dorri hawlfraint yn debygol o fod gyda'r defnyddiwr, nid yr offer DA cynhyrchiol.

Mae'r polisïau canlynol yn berthnasol yma:

Hawlfraint

Polisi Eiddo Deallusol

 

5.0 Arfer da wrth ddefnyddio DA

5.1 Defnyddio Copilot ac offer 'trydydd parti'

Mae gan PA fynediad at Microsoft Copilot sy'n ddiogel ac wedi'i drwyddedu'n llawn i'w ddefnyddio.  Hwn ddylai’r prif ddewis fod i'r rhai sy'n dymuno defnyddio DA ar gyfer busnes y Brifysgol. 

Mae angen cymeradwyo offer DA trydydd parti eraill i'w defnyddio yn PA gan ddefnyddio'r gweithdrefnau cliriad diogelwch sefydledig a nodir yn y Polisi Diogelwch Gwasanaeth Cwmwl

 

5.2 Tryloywder a chyfrifoldeb

Lle bynnag y bo'n bosibl, dylai'r defnydd o DA fod yn dryloyw ac yn egluradwy. Byddwch yn glir pan fyddwch wedi defnyddio DA a'r rhesymau dros ei ddefnyddio p'un ai wrth ddatblygu gweithgareddau addysgu ac asesu, ymchwilio neu weinyddu. Gall hyn helpu i hyrwyddo uniondeb academaidd ac atal unrhyw gamddealltwriaeth neu faterion moesegol.

Mae unigolion a grwpiau sy'n defnyddio technolegau DA yn gyfrifol am eu gweithredoedd a rhaid iddynt ddefnyddio DA mewn modd cyfrifol a moesegol.

 

5.3 Darllenwch y ‘Telerau ac Amodau’

Ymgyfarwyddwch â Thelerau ac Amodau unrhyw offer DA bob amser er mwyn deall beth mae'n ei wneud â data a gyflwynir, amodau defnyddio a pherchnogaeth, cyfyngiadau'r offer, rhagfarnau posibl, ac unrhyw opsiynau a gynigir i chi (megis gwahardd cadw data).

 

5.4 Adrodd

Byddwch yn barod i roi gwybod am unrhyw gamddefnydd o dechnoleg DA neu unrhyw ganlyniadau o offer DA a allai dorri rheolau'r Brifysgol neu ddeddfwriaeth y DU.

 

5.5 Materion moesegol ehangach

Byddwch yn ymwybodol y gallai fod goblygiadau moesegol ehangach o ddefnyddio rhai offer DA.  Mae rhai ohonynt yn cael eu hamlygu isod.

  • Rhagfarnau cynhenid posibl oherwydd y data/modelau hyfforddi a ddefnyddir, gan gynnwys rhagfarnau ar rywedd, hil, crefydd, rhywioldeb, anabledd, a geo-wleidyddiaeth, ymhlith eraill.
  • DA sydd wedi'i hyfforddi ar ddelweddau, testunau, cerddoriaeth a chod sydd â hawlfraint, sydd wedyn yn cael eu hailgymysgu/atgynhyrchu heb iawndal i'r crëwr gwreiddiol.
  • Defnyddio DA sydd wedi'i hyfforddi ar adnoddau dielw a ddefnyddir ar gyfer allbwn masnachol.
  • Labelu data mewn gwledydd tlotach a wneir gan weithwyr heb dâl digonol.
  • Effaith amgylcheddol canolfannau data DA sy’n defnyddio cyfansymiau sylweddol o bŵer, wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle nad oes llawer o ynni gwyrdd.

 

5.6 Osgowch ddefnyddio data penodol

Mae rhai sefydliadau yn gwahardd defnyddio'r categorïau data canlynol mewn unrhyw brosesau DA:

  1. Cyfrineiriau ac enwau defnyddwyr.
  2. Gwybodaeth a fyddai’n peri i chi gael eich adnabod (PPI) neu ddeunydd cyfrinachol neu sensitif arall, ni waeth beth fo’r sail gyfreithiol ganfyddedig, gan gynnwys caniatâd penodol. Mae gwybodaeth a fyddai’n peri i chi gael eich adnabod yn golygu unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i gadarnhau neu ategu hunaniaeth unigolyn.
  3. Unrhyw ddata nad yw wedi'i wneud yn ddienw’n gywir i sicrhau nad yw'n adnabyddadwy.
  4. Unrhyw ddata nad yw'n gwbl gyson â pholisïau'r Brifysgol ar Ddiogelu Data, Prosesu Data, GDPR/DPA2018, Uniondeb Academaidd, Priodoli a Moeseg.
  5. Unrhyw ddata sy'n gysylltiedig ag Eiddo Deallusol y Brifysgol.
  6. Unrhyw ddata sy'n cael ei ddiogelu gan hawlfraint, oni bai ei fod yn cyd-fynd ag egwyddorion megis defnydd teg, eithriadau addysgol, neu os rhoddwyd caniatâd penodol.
  7. Unrhyw awgrymiadau neu ddata, y gallai eu hymatebion arwain at ddifrod i enw da Prifysgol Aberystwyth
  8. Unrhyw ddata nad yw'n PPI gan drydydd partïon lle nad yw'r unigolyn wedi cydsynio'n benodol i'w data gael ei ddefnyddio gyda DA, ac eithrio data sy'n amlwg eisoes yn y parth cyhoeddus.

 

Os hoffech ddefnyddio unrhyw un o'r data uchod ar y cyd â DA, rhaid i chi gysylltu â'r Gwasanaethau Gwybodaeth am gyngor ymlaen llaw.

Wedi cymeradwyo Awst 2024. Angen adolygu Medi 2025