Newyddion

Cyhoeddi Rhaglen Cynhadledd Fer

20/03/2025

Rydym yn falch o gadarnhau ein rhaglen ar gyfer ein cynhadledd fer ar-lein ar dydd Mawrth 8 Ebrill (09:15-13:00).

Cyflogadwyedd a'r Cwricwlwm Cynhwysol yw thema’r gynhadledd. Bydd y siaradwyr yn cynnwys Dr Aranee Manoharan, Dr Saffron Passam, Dr Louise Ritchie, Annabel Latham, Bev Herring, a Jo Hiatt.

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys dolen gyswllt â’r tudalen archebu lle, ar gael ar ein blog.

Enillwyr Gwobr Cwrs Eithriadol 2024-25

20/03/2025

Llongyfarchiadau mawr i Enillydd y Wobr Cwrs Eithriadol eleni. Mari Dunning, Dysgu Gydol Oes, ar gyfer y cwrs Writing Women: Feminism in Poetry and Prose.

Llongyfarchiadau i'r rhai a dderbyniodd ganmoliaeth a chanmoliaeth uchel: Dr Kathy Hampson o'r Gyfraith a Throseddeg, Henrietta Tremlett, Dysgu Gydol Oes, a Dr Yasir Saleem Shaikh o Gyfrifiadureg.

Gweler y cyhoeddiad ar ein blog am ragor o wybodaeth.  

Hwyl yn Llyfrgell Hugh Owen!

11/03/2025

Dewch i Ystafell Iris de Freitas, Llyfrgell Hugh Owen a mwynhewch ein casgliad cyffrous o gemau bwrdd. O jig-sos a phosau i LEGO a gwyddbwyll, mae rhywbeth at ddant pawb.

Cymerwch seibiant o'r astudio, herio eich ffrindiau, neu fwynhau amser tawel i chi’ch hun. Dewch i chwarae!

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Gallwch Gofrestru ar gyfer y Gynhadledd nawr

10/03/2025

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer yr trydydd ar ddeg gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol.

Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Llwybrau Arloesol i Rymuso Dysgwyr:  Addasu, Ymroi, a Ffynnu ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mawrth 8 a dydd Iau 10 Gorffennaf 2025.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein. 

 

Teitlau Conde Nast newydd yn Pressreader

24/02/2025

Mae cyhoeddiadau newydd Conde Nast bellach ar gael i chi eu darllen yn Pressreader. 

Yn rhan o hyn, gallwch ddarllen argraffiadau Americanaidd o deitlau ar PressReader megis Pitchfork i’r rheiny sy'n hoff o gerddoriaeth, Vogue i gael awgrymiadau ynglyn â ffasiwn a newyddion ynghylch ffordd o fyw, a’r New Yorker i gael newyddion am wleidyddiaeth a gwyddoniaeth ochr yn ochr â chartwnau a straeon byrion i gyd yn llawn hiwmor. 

Dylai'r rhain fod ar gael yn awtomatig i chi os ydych chi ar y campws, ond os ydych oddi ar y campws gallwch ddod o hyd i’r cyhoeddiadau hyn drwy ddilyn y canllaw cam-wrth-gam hwn: https://primo.aber.ac.uk/permalink/44WHELF_ABW/r1b83p/alma9912461519702418

Galwad am Gynigion: 13eg Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol

17/02/2025

Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 13eg Cynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol Prifysgol Aberystwyth a gynhelir rhwng 8-10 Gorffennaf 2025.  

Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.    

Adborth Gweithdy Syniadau GG - Swn mewn llyfrgelloedd

13/02/2025

O docio marciau, gwahardd pobl rhag defnyddio'r peiriannau gwerthu i godi cywilydd yn gyhoeddus, mae myfyrwyr Aber am fod yn llym ar droseddwyr swn mewn llyfrgelloedd!

Dyma'r hyn ddysgon ni yn ein Gweithdy Syniadau Swn yr wythnos ddiwethaf

Microsoft Office

15/01/2025

Gall staff a myfyrwyr lawrlwytho Microsoft Office yn rhad ac am ddim ar hyd at 15 dyfais.

Mae’n cynnwys y rhaglenni:

  • Word
  • Excel
  • PowerPoint
  • Outlook
  • OneNote
  • Teams
  • Publisher
  • Access
  • Skype

Mae canllaw cam wrth gam ar gyfer lawrlwytho MS Office ar eich dyfais ar gael yma: https://faqs.aber.ac.uk/cy/1391 

Gwasanaethau Gwybodaeth: Canllawiau DA i chi

13/01/2025

Mae gan y Gwasanaethau Gwybodaeth dudalen gymorth a gwybodaeth newydd ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/ai/

Mae'r dudalen hon yn dwyn ynghyd bolisïau a chyngor ar ddiogelwch yn ogystal â chanllawiau ar gyfer defnyddio Dyn eich astudiaethau, eich addysgu, eich ymchwil a'ch gwaith gweinyddol. 

DA a'r Llyfrgell - Wythnos Un. Ein Canllaw a'n Cyfres Blogbost Newydd

30/09/2024

Piciwch draw i Blog y Llyfrgellwyr i ddarlllen y cyntaf yn ein cyfres o bostiadau blog 'DA a'r Llyfrgell'.

Dyma gipolwg o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl yn ystod yr wythnosau nesaf:

  • Adolygiadau o offer DA.
  • Cyngor ymarferol ar adeiladu anogwyr effeithiol.
  • Datblygu chwiliadau allweddair clyfar.
  • Darganfod adnoddau sy’n gysylltiedig â’ch maes astudio.
  • Gwerthuso allbynnau DA trwy gymhwyso’r prawf CCAPP.
  • Risgiau defnyddio DA.

Tanygrifiwch i'r Blog i gael y cofnodion yn eich mewnflwch wrth iddynt gael eu cyhoeddi.