Mynediad Agored - Cytundebau Trawsffurfiol
Mae Mynediad Agored yn golygu sicrhau bod cyhoeddiadau ymchwil ar gael yn rhad ac am ddim er mwyn i unrhyw un gael budd o ddarllen, a defnyddio’r ymchwil.
Y canlyniad yw fod yr ymchwil ar gael i lawer mwy o bobl nag erthygl mewn cyfnodolyn y mae’n rhaid tanysgrifio iddo. Gall hyn, yn ei dro, ysgogi rhagor o ymchwil a bwydo ‘cylch’ cyfathrebu ysgolheigaidd ehangach. Yn ogystal â hygyrchedd cyhoeddus, mae tystiolaeth glir y gall Mynediad Agored arwain at gynnydd mewn cyfeiriadau.
Mae Mynediad Agored hefyd yn annog ymgysylltiad cyhoeddus ag ymchwil, ymchwil sydd wedi cael ei ariannu gan arian cyhoeddus yn aml iawn. Mae’n rhan o fudiad ehangach i annog cyfnewid gwybodaeth, data ac adnoddau eraill yn rhad ac am ddim mewn ymgais i ehangu mynediad ac ysgogi creadigrwydd.
Ceir rhagor o fanylion am Fynediad Agored ar dudalennau’r Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi: https://www.aber.ac.uk/cy/support-services/good-practice/
I gynorthwyo’r agenda Mynediad Agored ac i newid y model cyhoeddi ‘talu-i-ddarllen’ presennol yn raddol, mae’r Brifysgol wedi derbyn grant bloc gan UK Research and Innovation (UKRI). Caiff hwn ei weinyddu gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a’r diben yw talu am ystod o gostau Mynediad Agored cymwys, o Gytundebau Trawsffurfiol gyda chyhoeddwyr sy’n cynnwys elfennau ‘Darllen’ a ‘Chyhoeddi’, i Gostau Prosesu Erthyglau unigol.
Ceir manylion am y Cytundebau Trawsffurfiol a sut y gall awduron ddefnyddio eu lwfansau Mynediad Agored isod.