Grwpiau Ffocws GG
Rydym yn cynnal Grwpiau Ffocws gyda myfyrwyr i drafod amrywiaeth o bynciau sy’n berthnasol ichi. Dyma gyfle ichi ddweud eich dweud ar ein gwasnaethau ac i'n helpu i lunio ein gwasanaethau newydd.
- Mi fydd pob cyfarfod grŵp yn para am awr
- Gallwch gymryd rhan mewn mwy nag un grŵp
- Croeso cynnes i farn pawb
Grwpiau ffocws y semester hwn
Adroddiadau o grwpiau ffocws blaenorol
Grŵp Ffocws LinkedIn Learning 2023
Isod mae crynodeb o'r adborth a gasglwyd gan y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr (Tîm Sgiliau Digidol, Gwasanaethau Gwybodaeth) yn dilyn 5 grŵp ffocws gyda 17 o fyfyrwyr a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2023. Bwriad y grwpiau ffocws oedd i gasglu barn myfyrwyr ynglŷn â'u profiadau o ddefnyddio LinkedIn Learning.
Sut y clywsoch chi am LinkedIn Learning?
- E-byst bwletin wythnosol
- Deunydd hyrwyddo LinkedIn Learning (posteri, taflenni, ac ati)
- Baneri yn Blackboard
Beth oedd eich cymhelliant i gofrestru ar LinkedIn Learning?
- Y Pencampwyr Digidol yn cynnig taleb £10 am actifadu eu cyfrifon
- Y potensial o ennill sgiliau a fydd yn gwella eu cyflogadwyedd
- Roedd rhai myfyrwyr yn brin o ysgogiad i ddefnyddio LinkedIn Learning, gan nodi diffyg amser rhydd fel rheswm
- Adnodd rhad ac am ddim i fyfyrwyr
- Er mwyn dysgu am bynciau y tu allan i'w graddau
- Gallu cyhoeddi tystysgrifau am gwblhau cyrsiau ar eu proffiliau LinkedIn
Hoff fath o gynnwys ar LinkedIn Learning
- Ffafriaeth y myfyrwyr yn amrywio – roedd yn well gan rai myfyrwyr fideos byrrach ac roedd yn well gan eraill gyrsiau mwy dwys a hirach
Y math o gynnwys sydd ar LinkedIn Learning
- Cyrsiau sy'n dysgu sgiliau rhyngbersonol a sgiliau cyfathrebu
- Safonau ymddygiad yn y gweithle, cyngor ar gyfweliadau, meithrin tîm
- Cynnwys sy'n gwella hyfedredd gyda LinkedIn Learning (h.y. gallu gwneud y defnydd gorau o'r platfform)
- Roedd rhai myfyrwyr yn gweld y cynnwys yn rhy ffurfiol ac eisiau cynnwys oedd yn fwy plaen ac yn addas ar gyfer myfyrwyr yn benodol
- Mae llawer o fyfyrwyr wedi defnyddio'r cynnwys ar raglenni Microsoft, fel Word ac Excel.
Perthnasedd y cynnwys i'r myfyrwyr
- Mae llawer o’r cyrsiau'n berthnasol gan eu bod yn cynorthwyo'r myfyrwyr i wella eu cyflogadwyedd
- Defnyddiol er mwyn paratoi ar gyfer y gweithle
- Byddai'n ddefnyddiol dod o hyd i gynnwys sy’n fwy perthnasol i rai cynlluniau gradd, fodd bynnag nododd eraill fod arno gynnwys sy'n gysylltiedig â'u cynlluniau gradd (e.e. myfyrwyr Busnes)
- Mae'n well gan fyfyrwyr gynnwys sy'n teimlo'n ‘llai corfforaethol', gan nad oedd llawer o'r cynnwys yn teimlo'n berthnasol iddyn nhw fel myfyrwyr
A fyddech chi'n argymell LinkedIn Learning i fyfyrwyr eraill?
- Byddai, gan fod y platfform yn ei gwneud hi'n hawdd dysgu sgiliau newydd a dysgu sut i ddefnyddio cymwysiadau penodol
- Byddai, gan ei fod yn gwneud dysgu sgiliau newydd yn hawdd gan fod y cynnwys wedi'i drefnu'n dda ac o ansawdd uchel
- Byddai, gan ei fod yn rhoi cyfle i ddysgu sgiliau newydd na fyddai wedi'u dysgu fel arall ar ei gynlluniau gradd.
- Byddai, gan ei fod yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr ei ddefnyddio – os nad ydynt yn hoffi'r platfform, nid oes un dim i'w golli
- Byddai, ond byddai'n argymell y platfform fwy pe byddai cyrsiau mwy perthnasol ar gael i fyfyrwyr
Defnyddio LinkedIn Learning
- Hawdd iawn i’w we-lywio ac nid yw'n blatfform cymhleth i'w ddefnyddio
- Dewislen ddefnyddiol ar gyfer pob cwrs sy'n ei gwneud hi'n hawdd gweld ble rydych chi arni gyda'ch addysg
- Mae'r rhyngwyneb i ddefnyddiwr yn “gyfeillgar”
A oes unrhyw gynnwys yr hoffech ei weld yn cael ei wella neu ei ychwanegu?
- Nodyn atgoffa am gyrsiau LinkedIn Learning sy'n briodol i gynlluniau astudio penodol i'w hychwanegu ar fodiwlau Blackboard
- Mwy o gynnwys ystadegau ar SPSS
- Mwy o opsiynau iaith, gan gynnwys Cymraeg
- Bod cyrsiau'n esbonio sut y gellir rhoi'r sgiliau newydd a ddysgir drwy'r cwrs hwnnw ar waith
- Y gallu i hidlo cyrsiau yn ôl diddordebau gyrfa
- Bod cyrsiau'n cynnwys elfennau mwy rhyngweithiol (e.e. cwisiau, ymarferion ymarferol, ac ati)
- Mwy o gyrsiau achrededig
- Cyrsiau sydd wedi'u hanelu'n fwy at yrfaoedd eraill (e.e. cynnwys am y gwyddorau amgylcheddol a gwyddorau bywyd)
- Dylid diweddaru'r cynnwys mewn rhai meysydd (e.e. cyfrifiadureg) gan fod rhywfaint o'r cynnwys bellach wedi dyddio
Am ba mor hir ydych chi wedi defnyddio LinkedIn Learning?
- Cymysgedd o ran pa mor hir mae myfyrwyr yn defnyddio LinkedIn Learning.
- Mae rhai myfyrwyr yn defnyddio'r platfform ar gyfer cyfnodau byrrach o amser (e.e. mewn pyliau o 15 -20 munud)
- Mae eraill yn defnyddio LinkedIn Learning am gyfnodau hirach (e.e. 1 -2 awr ar y tro)
- Mae'n well gan rai cwblhau cyrsiau cyfan ar y tro, tra bod yn well gan eraill wylio fideo byr bob hyn a hyn
Sut y gall PA hyrwyddo LinkedIn Learning yn well i fyfyrwyr
- Cyflwyno'r adnodd yn gynharach yn y flwyddyn academaidd
- Hyrwyddo LinkedIn Learning fel rhan o Ffair y Glas
- Hyrwyddo cynnwys byrrach sy'n fwy cryno
- Anfon e-bost at yr holl fyfyrwyr i'w gwneud yn ymwybodol bod y platfform ar gael iddynt
- Byddai gosod posteri o amgylch y campws yn helpu o ran gwelededd
- E-byst wedi'u personoli ac argymell cyrsiau
- Annog darlithwyr i hyrwyddo'r adnodd yn ystod eu darlithoedd ac yn achlysurol trwy gydol y semester
Grŵp ffocws Technoleg, y llyfrgell a ti, 2022
Cynhaliodd Gwasanaethau Gwybodaeth dri grŵp ffocws ar-lein gyda 15 o gyfranogwyr o blith y myfyrwyr i gael gwybod rhagor am eu profiadau o ddefnyddio technoleg yn y llyfrgell a’r mannau astudio, ac i gasglu awgrymiadau er mwyn eu datblygu yn y dyfodol.
Cyfrifiaduron y Llyfrgell
Roedd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr wedi defnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell am y rhesymau canlynol:
- Wedi dod i’r campws heb liniadur
- Dim angen cario gliniadur i'r campws
- Sgrin ychwanegol neu sgrin fwy
Serch hynny, dywedodd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr bod yn well ganddynt ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain am y rhesymau canlynol:
- maent wedi’u haddasu i'w gofynion penodol
- rhyddid i ddewis ble i eistedd ac i symud
- dim problemau wrth ddefnyddio apiau fel OneDrive neu feddalwedd arall
Hybiau Monitor
- Doedd rhai myfyrwyr ddim yn ymwybodol o’r hybiau monitor yn y llyfrgell
- Roedd 2 wedi eu defnyddio ac wedi’u cael yn ddefnyddiol iawn ar gyfer gwaith unigol ac ar gyfer cydweithio
- Roedd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr wedi cael trafferthion oherwydd nad oedd eu gliniaduron yn gydnaws â’r hybiau monitor (dim cysylltiad USB—C)
Ystafelloedd cyfrifiaduron
- Dywedodd y myfyrwyr bod yr ystafelloedd cyfrifiaduron yn y llyfrgell yn anodd dod o hyd iddynt
- Roedd yn well gan y rhan fwyaf gael ystafelloedd cyfrifiaduron pwrpasol yn hytrach na chyfrifiaduron wedi'u gwasgaru drwy'r llyfrgell, gan eu bod yn tueddu i fod yn dawelach
- Gofynnodd y myfyrwyr am fwy o le wrth y desgiau cyfrifiaduron i weithio'n gyfforddus
Sgriniau
- Roedd y myfyrwyr yn defnyddio’r sgriniau mawr yn y llyfrgell i ymarfer cyflwyniadau, gweithio ar brosiectau grŵp, ac yn unigol ar gyfer gwaith manwl sy'n haws ei wneud ar sgrin fawr
- Gofynnwyd am fwy o sgriniau ym mannau agored y llyfrgell fel bod modd gweithio mewn grwpiau heb angen archebu ymlaen llaw
Mannau astudio eraill
- Roedd pob myfyriwr yn gwerthfawrogi’r Weithfan yn y dref sy’n darparu lle i astudio a chysylltiad diwifr am ddim / cyfrifiaduron
Meddalwedd
- Mae Cwestiynau Cyffredin Gwasanaethau Gwybodaeth yn ddefnyddiol ond gall fod yn anodd dod o hyd i wybodaeth benodol
- Gall problemau godi weithiau wrth ddefnyddio pethau fel OneDrive, MS Teams neu apiau eraill ar gyfrifiaduron y llyfrgell
Peiriannau argraffu ac offer arall
- Gofynnodd y myfyrwyr am gyfarwyddiadau printiedig ger y peiriannau argraffu
- Nid oedd llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol o ffyrdd i argraffu o'u dyfeisiau eu hunain
- Nid oedd llawer o fyfyrwyr yn ymwybodol bod modd benthyg offer
- Hoffai’r myfyrwyr gael peiriannau gwerthu sy'n rhoi dŵr poeth yn rhad ac am ddim
- Awgrymwyd y byddai byrddau gwyn rhyngweithiol yn ddefnyddiol yn yr ystafelloedd astudio
Sylwadau a cheisiadau eraill
- Gofynnodd y myfyrwyr am bosteri neu arwyddion ynglŷn â’r gwasanaethau sydd ar gael yn y llyfrgell
- Mwy o ystafelloedd grŵp, ystafelloedd astudio preifat ac ystafelloedd cyfarfod lle gall myfyrwyr siarad heb darfu ar eraill
- Hoffai’r myfyrwyr gael rhai ystafelloedd preifat nad oes angen eu harchebu ymlaen llaw
- Hoffai’r myfyrwyr gael yr opsiwn o ystafelloedd grŵp llai
- Gofynnodd y myfyrwyr am fythau astudio gyda sgriniau ar gyfer preifatrwydd
- Cyfarwyddiadau ger y peiriannau argraffu / sgriniau a thechnoleg arall yn y llyfrgell
Grŵp ffocws dod o hyd i adnoddau ar gyfer eich aseiniadau 2022
Camau cyntaf
Roedd y myfyrwyr i gyd yn gyfarwydd â Primo, catalog y llyfrgell, a hwn oedd eu man cyntaf i droi wrth ddechrau chwilio am adnoddau ar gyfer eu haseiniadau. Roedd myfyrwyr wedi dysgu am Primo gan eu darlithydd neu eu llyfrgellydd.
Mae un myfyriwr uwchraddedig sydd wedi dychwelyd i astudio ar ôl seibiant wedi canfod bod llawer o wybodaeth ymlaen llaw am sut mae'r llyfrgell a'r Brifysgol yn gweithio yn cael ei ragdybio ac maent wedi cael anhawster darganfod beth sydd ar gael.
Canllawiau
Y canllaw Llên-ladrad a Chyfeirnodi oedd yr unig ganllaw yr oedd unrhyw un o'r cyfranogwyr wedi'i ddefnyddio, yn dilyn argymhelliad eu darlithwyr. Nid oedd unrhyw aelodau o'r grŵp yn ymwybodol o'r canllawiau pwnc, nac unrhyw un o'r canllawiau arbenigol.
Roedd myfyrwyr yn teimlo ei bod hi’n anodd dod o hyd i'r canllawiau ac nad ydynt yn cael eu hysbysebu na'u hyrwyddo'n ddigon da gan ddarlithwyr.
Nid oedd cyfranogwyr wedi sylwi ar unrhyw wybodaeth am y canllaw cynefino i fyfyrwyr newydd gan eu bod wedi derbyn cymaint o wybodaeth ar ddechrau eu cyrsiau.
Rhestrau Darllen
Roedd pob myfyriwr yn gyfarwydd â'u rhestrau darllen, ac roedd pawb yn eu cyrchu drwy Blackboard. Roedd teimlad bod y rhestrau hyn yn aml yn hen ac ar brydiau nad oeddent yn cael eu darparu bob tro. Dywedwyd bod rhestrau darllen sydd wedi'u trefnu'n adrannau, naill ai yn ôl wythnos addysgu neu seminar/tiwtorial, yn ddefnyddiol iawn.
Dod o hyd i Adnoddau
Dywedodd y rhan fwyaf o fyfyrwyr eu bod wedi cael gwybod am gatalog y llyfrgell ac adeilad y llyfrgell gan eu darlithwyr, felly roeddent yn gwybod ble i fynd i gael yr adnoddau, ond nid sut i ddod o hyd iddynt.
Roedd un neu ddau o fyfyrwyr wedi mynychu sesiwn gyda'u llyfrgellydd pwnc ynghylch dod o hyd i adnoddau. Roeddent wedi gweld hyn yn ddefnyddiol iawn ond byddent yn annhebygol o 'drafferthu' y llyfrgellydd pwnc eto oni bai eu bod yn daer eisiau gwybod rhywbeth.
Heriau
Dywedodd sawl myfyriwr nad yw’r pethau y maent yn dod o hyd iddynt ar Primo yn hygyrch – yn aml maent yn canfod nad yw eitemau sy’n dweud ‘mynediad ar-lein’ ar gael. Dywedodd un myfyriwr TAR eu bod wedi canfod bod nifer y cyfnodolion y mae PA yn tanysgrifio iddynt wedi gostwng yn ddramatig dros y 6 mis diwethaf. Nid oedd neb wedi cysylltu â llyfrgellydd pwnc i ofyn am gymorth i gael gafael ar adnodd – roeddent yn dueddol o edrych ar Google Scholar neu fynd i rywle arall i ddod o hyd iddo'n annibynnol.
Nododd rhai myfyrwyr bod Primo yn eu hallgofnodi’n aml ac roeddent yn teimlo’n rhwystredig o orfod mewngofnodi eto. Nododd myfyriwr y gofynnir iddynt fewngofnodi sawl gwaith cyn cyrraedd yr adnoddau pan nad ydynt ar Eduroam.
Staff GG
Roedd yr holl fyfyrwyr yn canmol y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael gan staff GG, yn enwedig cymorth TG a staff ar Lefel F, gan fod pob un ohonynt wedi cael trafodaethau cadarnhaol iawn. Dywedasant eu bod yn anghofio bod y staff yno wrth astudio oddi ar y campws a’u bod yn y pen draw yn ceisio datrys pethau ar eu pen eu hunain.
Grŵp ffocws ailwampio Lefelau E ac F Llyfrgell Hugh Owen 2022
Darllenwch rhai o'r sylwadau rydym wedi'u derbyn a chyfrannwch at ein wal adborth ar-lein
Dewis o ofod astudio
Mae'n well gan fyfyrwyr astudio yn ystafell Iris de Freitas (IdF) neu yn yr ystafelloedd astudio unigol neu grŵp.
Dywedodd y rhan fwyaf o fyfyrwyr y byddent yn archebu ystafell astudio pe baent yn bwriadu mynd i'r llyfrgell i weithio. Pe baent yn y llyfrgell i lenwi amser rhwng darlithoedd neu gyfarfod â ffrindiau, byddent yn debygol o ddewis ystafell Iris de Freitas neu Lawr D, gan mai'r rhain sydd â'r amgylcheddau mwyaf agored a chroesawgar lle na fyddai ganddynt bryderon am darfu ar eraill.
Byddai pawb yn dewis IdF ar gyfer gwaith grŵp gan eu bod yn teimlo bod yr amgylchedd agored, modern yn fwy ffafriol i sgwrsio.
Ystafelloedd cyfrifiaduron
Roedd yr ystafell gyfrifiaduron ar wahân ar Lawr E yn cael ei gwerthfawrogi gan bobl sy'n mynd i'r llyfrgell i astudio ar eu pennau eu hunain os nad ydynt wedi archebu carrel ymlaen llaw. Maent yn canfod bod llai o bethau a allai amharu arnynt yn yr ystafell gyfrifiaduron.
Soniwyd nad yw llawer o fyfyrwyr yn gwybod bod yr ystafell gyfrifiaduron (EL6) yno.
Adnoddau yn y carelau astudio
Cyfrifiaduron
Teimlwyd yn gryf y dylai cael y dewis o gyfrifiadur barhau yn y carelau. Mae'n well gan lawer o bobl ddefnyddio eu dyfais eu hunain ochr yn ochr â chyfrifiadur, nid yn unig i ddefnyddio dwy sgrin, ond hefyd am fod gan y cyfrifiaduron fanylebau gwahanol i'w dyfeisiau eu hunain.
Roedd y rhai sy’n defnyddio eu gliniaduron eu hunain mewn carelau yn gweld y byddai ardaloedd gyda monitorau’n ddefnyddiol fel y gallent weithio ar ddwy sgrin heb fod angen cyflenwad pŵer arnynt.
Socedi pŵer
Roedd llawer o gwynion am argaeledd socedi plygiau oedd yn gweithio yn y carelau.
Byddai socedi gyda phyrth USB yn ddefnyddiol.
Golau
Mae angen gallu addasu'r golau yn y carelau yn ôl dewis personol. Mae diffyg socedi plygiau yn golygu nad yw defnyddio'r lamp bob amser yn opsiwn.
Desgiau
Teimlwyd y byddai desgiau addasadwy, y rhai y gellir eu codi i uchder desg sefyll, yn wych gan y gall eistedd am gyfnodau hir mewn gofodau bach fod yn anghyfforddus.
Hygyrchedd
Roedd myfyrwyr yn teimlo'n gryf iawn nad oes digon o ofodau astudio preifat hygyrch.
Golau
Cafwyd llawer o sylwadau bod Lloriau E ac F yn dywyll ac wedi'u goleuo'n bŵl sy’n gwneud i bobl deimlo'n flinedig ac o dan straen. Byddai lampau bwrdd / desg yn helpu i oleuo gofodau astudio a gwella lefelau canolbwyntio.
Estheteg a dodrefn
Gofynnodd pawb am fwy o liw ar loriau E ac F. Roedd gwyrdd dwfn, gwyrddlas a glas yn awgrymiadau poblogaidd gan fod y lliwiau'n ymlaciol a chynnes. Gofynnodd y myfyrwyr am silffoedd pren golau a dodrefn golau a gofod gwyn i oleuo’r ardal, gyda chyffyrddiadau o liw yma ac acw.
Mae myfyrwyr eisiau lluniau ar y waliau. Awgrymodd rhai ffotograffau a lluniau o olygfeydd a mannau lleol. Awgrym poblogaidd iawn oedd defnyddio'r lloriau hyn fel gofod arddangos i fyfyrwyr yr Ysgol Gelf.
Awgrymwyd y gellid creu corneli darllen, mwy o ardaloedd cymunedol yn cynnwys soffas a seddi cyfforddus eraill, gyda silffoedd pren a golau braf.
Hoffai mwyafrif llethol y myfyrwyr weld y llyfrgell yn manteisio fwy ar y golygfeydd dros Aberystwyth a'r môr o'r lloriau.
Adnoddau eraill
Roedd pawb yn gofyn am fwy o beiriannau gwerthu ar y lloriau gyda bwyd, diod a choffi yn benodol, yn arbennig ger unrhyw ystafelloedd astudio.
Grŵp Ffocws Strategaeth Ddigidol 2021
04/05/2021
Profiad y dysgu ar-lein a defnyddio’r gwasanaethau digidol
- Doedd neb o'r cyfranogwyr yn y Grwpiau Trafod wedi cael unrhyw broblemau technegol wrth ddysgu ar-lein ac roedd pawb wedi cael y gwasanaethau llyfrgell a TG yn hygyrch iawn.
- Yn ôl y myfyrwyr, mae'r academyddion yn haws cael gafael arnyn nhw ac yn fwy ymatebol drwy'r ebost. Mae cyfathrebu wedi gwella ar draws y Brifysgol. Mae'r crynodebau a anfonir mewn ebost wythnosol gan y Brifysgol wedi helpu o ran peidio â chael eu gorlwytho â gwybodaeth.
- Bu rhai problemau cychwynnol â dysgu ar-lein ond mae’n llawer mwy effeithiol erbyn hyn.
- Mae temtasiwn gohirio gwaith yn broblem fawr wrth astudio gartref. Mae'r myfyrwyr yn cael trefn sesiynau astudio a amserlennir / mannau astudio yn y llyfrgell yn ddefnyddiol, ac mae gweithio yng nghwmni myfyrwyr eraill yn eu hysgogi hwythau i weithio
Lles digidol
- Mae'n anodd iawn tynnu’r ffin rhwng amser astudio ac amser hamdden. Mae'r myfyrwyr wedi'i chael hi'n anodd peidio â meddwl am eu gwaith pan fyddant yn byw yn eu man gwaith
Cysylltiadau digidol
- Teimla'r myfyrwyr nad ydynt yn dod i'w hadnabod ei gilydd yn iawn ar-lein - does dim iaith y corff a does dim modd 'synhwyro' teimladau pobl eraill. Does dim modd cael sgyrsiau go iawn, a dim awydd cymdeithasu na gwneud pethau eraill ar-lein, gan fod cymaint o amser eisoes yn cael ei dreulio ar-lein.
- Nid yw myfyrwyr yn cyfrannu cymaint mewn seminarau ac weithiau mae rhai grwpiau'n ddistaw
Hygyrchedd digidol
- Mae problemau ag e-gyflwyno gan fod derbynebau ebost weithiau'n cymryd peth amser i gyrraedd
- Mae argraffu yn fwy anodd
- Mae cwisiau ar Blackboard yn ddefnyddiol o ran ysgogi myfyrwyr i weithio
Crynodeb o'r gwasanaethau mwyaf defnyddiol:
- Adroddiadau gwreiddioldeb a derbynebau Turnitin
- Gallu defnyddio meddalwedd o bell
- VPN - Rwydwaith Preifat Rhithwir
- Cyswllt rhyngrwyd sefydlog
Grŵp Ffocws Ymholiadau Myfyrwyr 2021
05/05/2021
Enghreifftiau o ymatebion da i ymholiadau
- Eisiau ymateb cyflym, a dull hawdd o gysylltu
- Os nad oedd myfyrwyr yn sicr pwy i gysylltu â nhw, byddent yn chwilio ar Google yn hytrach na phori drwy dudalennau'r wefan neu ddefnyddio'r chwiliadur y wefan
- Mae'r ymatebion i ebyst dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn dda
- Y tiwtoriaid personol yw'r man cyswllt cyntaf
Enghreifftiau o gael atebion i ymholiadau
- Ymatebion academaidd wedi bod yn wych
- Mae'r berthynas â'r tiwtor personol (neu gael tiwtor personol) mor bwysig
- Materion academaidd - fe fyddai un myfyriwr yn mynd at ddarlithwyr ond fyddai un arall ddim yn mynd atynt gan fod yr holl ddarlithoedd wedi'u recordio ymlaen llaw ac ni theimlai'n ddigon hyderus mynd atynt heb fod wedi "cwrdd" â nhw
Pa ddull sydd orau gennych ar gyfer gwneud ymholiad - sgwrs fyw / ebost / wyneb-yn-wyneb?
- Hoffi'r gwasanaeth Sgwrsio Ar-lein. Does dim angen ysgrifennu ebost - mae'n symlach ac mae modd dod i’r pwynt yn haws.
- Byddai un myfyriwr yn chwilio'r rhyngrwyd am fideos fesul-cam. Byddai modd cael gafael ar y wybodaeth angenrheidiol 24/7.
- Os ceir un profiad negyddol â gwasanaeth penodol, bydd pobl yn anfodlon iawn defnyddio'r gwasanaeth hwnnw eto.
- Mae galwadau ffôn yn iawn, ond maent yn golygu neilltuo mwy o amser. Mae llawer o bobl yn cael problemau â galwadau ffôn ac mae'n well gan rai weld rhywun, felly mae'n well ganddynt gael siarad drwy gyfarfod Teams.
Os oes gennych chi gwestiwn am fywyd y Brifysgol neu ei gwasanaethau - beth yw'ch dull arferol o gael y wybodaeth honno ar y campws neu'n rhithiol?
- Bydd y myfyriwr uwchraddedig yn cysylltu â'r arolygydd ar gyfer unrhyw gwestiynau academaidd
- Y tiwtor personol yw'r prif gyswllt i'r rhan fwyaf o israddedigion, ac mae'n gyswllt hanfodol â'r adran a'r brifysgol ehangach.
- Mae cymorth gan gyd-fyfyrwyr hefyd yn bwysig iawn.
Man ymholiadau mwyaf poblogaidd/gwerthfawr
- Tiwtor personol / arolygydd uwchraddedigion
- Swyddfa Llety
- Desg gwasanaethau TG