Gwyddor Cnydau a Bridio Planhigion - Cnydau diwydiannol ar gyfer ynni a deunyddiau cynaliadwy
Cnydau diwydiannol ar gyfer ynni a deunyddiau cynaliadwy
Mae ein rhaglen cnydau diwydiannol yn datblygu planhigion ar gyfer gwres, pŵer a deunyddiau crai. Y nod yw cynhyrchu deunyddiau a chynnyrch newydd sy'n lleihau allyriadau carbon trwy ddisodli dewisiadau eraill carbon-ddwys.
Mae adroddiadau diweddar yn dangos, er mwyn i’r DU gyrraedd targedau Sero Net, y bydd angen tyfu cnydau biomas lluosflwydd megis Miscanthus, ar draws cannoedd o filoedd o hectarau. Mae hyn oherwydd bod cnydau o'r fath yn effeithlon iawn o ran ynni ac yn gallu cael gwared ar CO2 yn enwedig os cyfunir hyn â thechnolegau dal a storio carbon pan gânt eu defnyddio i gynhyrchu ynni.
Mae planhigion yn tynnu carbon deuocsid o’r atmosffer wrth iddynt dyfu. Mae cynaeafu a llosgi biomas planhigion ar gyfer gwres neu bŵer yn rhyddhau’r un carbon ‘cyfoes’ yn ôl i’r atmosffer (Ffig 1). Mae hyn yn wahanol i’r carbon hynafol sy’n cael ei ryddhau wrth losgi tanwydd ffosil sy’n cynyddu CO2 atmosfferig yn gyffredinol. Yn yr un modd, gall y carbon sefydlogi mewn cynnyrch, ac mae gan rai ohonynt hyd oes hir iawn. Trwy ddefnyddio cnydau lluosflwydd a deunyddiau planhigion wedi heneiddio gallwn wella cynaliadwyedd y cnwd yn sylweddol trwy leihau mewnbynnau agronomig a dychwelyd maetholion i'r maes i'w defnyddio mewn blynyddoedd twf dilynol.
Ffigur 1. Llif carbon (isod) a chydbwysedd nwyon tŷ gwydr bras (uchod) y gellir ei gyflawni o wahanol senarios wrth ddefnyddio tanwydd gan gynnwys tanwydd ffosil, biomas gwyrdd neu hynafol gyda a heb ddal a storio carbon (CCS); (o Robson et al., 2019)
Mae ein ffocws ar ddatblygu planhigion sy’n cynhyrchu’r cydbwysedd gorau o gnwd uchel o fewnbwn isel wrth gyflwyno’r ansawdd cywir o fiomas, Mae rhaglen ymchwil fawr gennym ar y glaswellt C4 uchel ei gnwd, Miscanthus. Rydym hefyd yn gweithio ar rygwellt lluosflwydd cynhenid, pefrwellt, a choedlannau helyg cylchdro byr. Mae potensial gan yr holl blanhigion lluosflwydd hyn i gyfuno cnwd uchel gydag ychydig neu ddim mewnbwn gwrtaith/plaladdwr. Ymysg y buddion a geir o ecosystem planhigion lluosflwydd mae dal a storio carbon, atal erydiad pridd a thrwytholchi maetholion, a gwella cynefinoedd ar gyfer bioamrywiaeth trwy orchudd tir mwy parhaol a llai o ddefnydd o blaladdwyr.
Rydym hefyd yn gweithio ar blanhigion unflwydd dethol, megis cywarch, ar gyfer ffibr a chemegau. Mae prosiectau diweddar hefyd wedi cynnwys adnoddau biomas morol ac algâu dŵr croyw (Lemna), wedi’u prosesu ar gyfer cynhyrchion gwerth uchel ac adfer dŵr.