Bioburo
Bioburo
Mae bioburo yn ffordd o droi deunydd organig yn ystod o gynhyrchion defnyddiol fel ychwanegion bwyd, tanwyddau, cemegau a defnyddiau. Mae cyfleuster bioburo peilot IBERS yn cymhwyso’r datblygiadau diweddaraf mewn biochwilio, bioleg synthetig, prosesu biomas, eplesu, treulio anerobig, a throsi thermol er mwyn ychwanegu gwerth at adnoddau sydd heb eu defnyddio’n ddigonol mewn amaethyddiaeth, cynhyrchu bwyd, a gweithgynhyrchu.
Mae’r cyfleuster yn canolbwyntio ar gefnogi ymchwil gymhwysol a chydweithredu diwydiannol trwy ein tîm ymchwil a gweithio mewn partneriaeth ag ArloesiAber, y Campws Arloesi a Menter ar yr un safle. Gellir defnyddio amrywiaeth o organebau biolegol yn ein systemau eplesu a’r rheiny’n gallu cael eu teilwra at drosi amrywiaeth eang o ddeunyddiau organig fel glaswellt, cnydau ynni, gwellt grawnfwyd, gwymon a chyd-gynhyrchion diwydiannol yn gynhyrchion terfynol defnyddiol, gan wella’r prosesau trosi i’r eithaf. Gellir cymhwyso amrywiaeth eang o wahanol driniaethau ymlaen llaw ac wedyn, ac mae arbrofion yn cael eu cynnal ar raddfeydd sy’n amrywio o brofion labordy bach drwodd at raddfeydd cyn-fasnachol (TRL 1-5).
Mae gan ein tîm bioburo dros ddegawd o brofiad o gymhwyso atebion biotechnoleg at broblemau’r byd go iawn, ac maen nhw wedi cynorthwyo cannoedd o brosiectau cydweithredol, yn y Deyrnas Unedig ac o amgylch y byd, i helpu ymchwilwyr a busnesau i gymryd y camau hanfodol cyntaf tuag at fasnacheiddio eu cynhyrchion neu eu prosesau.
Partneriaethau masnachol
- Rydyn ni wedi gweithio gyda Quorn Ltd i dynnu cyfansoddion gwella blas o’r ffrydiau ochr yn eu prosesau bwyd a’r rheiny wedi caniatáu iddyn nhw leihau’r halen sy’n cael ei gynnwys mewn rhai o’u cynhyrchion hyd at 35%.
- Mae’n gwaith ni gyda Fiberight Ltd wedi helpu i ddatblygu proses i droi papur a cherdyn gwastraff o finiau du yn siwgrau rhydd a all gael eu heplesu i greu asid lactig, sef cemegyn llwyfan a ddefnyddir i wneud plastigau bioddiraddadwy, a hynny ar raddfa 1,000 litr.
- Mae Xylitol yn felysydd naturiol y profwyd ei fod yn atal pydredd dannedd a gordewdra mewn plant, heb anfanteision melysyddion artiffisial eraill. Mae un o gwmnïau deillio IBERS, Arkitek-Bio, wedi datblygu proses i gynhyrchu Xylitol o wellt amaethyddol gan ddefnyddio proses gynhyrchu fiolegol sy’n fwy ecogyfeillgar na’r dulliau catalysis cemegol confensiynol.