Anaf - Nodwyddau (Hypodermig)
Triniaeth Cymorth Cyntaf ar gyfer Anafiadau Nodwyddau
Mewn achosion o anafiadau gan nodwyddau hypodermig (e.e. mewn bag sbwriel / bin, ar y llawr neu ar gadair ac ati) dylid rhoi’r driniaeth ganlynol
- Anogwch yr anaf i waedu
- Golchwch yn dda o dan ddŵr oer heb sebon a gorchuddiwch gyda gorchudd sych
- Chwiliwch am gyngor meddygol cyn gynted â phosibl
Nodwch y gellir cael pigiad amddiffynnol yn erbyn Hepatitis B (ond nid HIV), ond mae’n rhaid rhoi’r pigiad o fewn 4 awr. Gofynnwch i Adran Damweiniau ac Achosion Brys yr Ysbyty am eu hargymhelliad.
Hefyd:
- Rhowch wybod i'r Swyddog Diogelwch lleol.
- Rhowch wybod i'r Rheolwr / Goruchwyliwr y person a anafwyd.
- Cwblhewch Incident Report form (S002F).