Llywodraethiant Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd

Mae’r ddolen ganlynol yn darparu manylion ynghylch strwythyr llywodraethiant iechyd, diogelwch a’r amgylchedd y Brifysgol, a'i phwyllgorau/grwpiau cysylltiedig. Am wybodaeth bellach, cysylltwch a'r Tim Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd. 

Cyngor

Fel y cyflogwr cyfreithiol, Cyngor y Brifysgol sydd â’r cyfrifoldeb terfynol am iechyd a diogelwch staff, myfyrwyr a phobl eraill y mae gweithgareddau’r Brifysgol yn effeithio arnynt.

 

Pwyllgor Llywodraethu a Chydymffurfio

Mae’r Pwyllgor Llywodraethu a Chydymffurfio’n cyflawni gwaith craffu ac yn cynghori’r Cyngor ar faterion
sy’n cynnwys llywodraethu’r sefydliad; llywodraethu gwybodaeth; adnoddau dynol a datblygu staff; iechyd
a diogelwch; a chydymffurfio â deddfwriaeth, ac â gofynion cyffredinol y llywodraeth, CCAUC, a
rheoleiddwyr eraill.

Grŵp Gweithredol Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd

Mae'r Grŵp Gweithredol Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd yn darparu fforwm ymgynghorol i drafod a monitro gweithrediad strategaeth a pholisi iechyd, diogelwch ac amgylchedd y Brifysgol gan gynnwys trefniadau rheoli. Wrth wneud hynny, bydd y Grŵp Gweithredol Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd yn gweithredu fel pwyllgor ymgynghorol ar gyfer cynrychiolwyr diogelwch enwebedig o'r Undebau Llafur cydnabyddedig, yn unol â Rheoliadau Cynrychiolwyr Diogelwch a Phwyllgorau Diogelwch 1977. Mae'r Grŵp Gweithredol Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd yn gyfrifol am gynghori Gweithrediaeth y Brifysgol, neu bwyllgor llywodraethol arall trwy Weithrediaeth y Brifysgol.