Siop @ Yr Undeb
Croeso i siop undeb y myfyrwyr, sydd yn adeilad undeb y myfyrwyr ar brif gampws Prifysgol Aberystwyth. Mae ar agor yn ystod y tymor o Dydd Llun i Dydd Gwener 08.00-17.30, a Dydd Sadwrn 09.00-14.00. (Amser tymor)
Mae siop undeb y myfyrwyr yn cynnig amrywiaeth o gynnyrch, o fwydydd i ddillad wedi'u brandio â logo’r Brifysgol. Mae Prifysgol Aberystwyth yn gymuned amlddiwylliannol, â’i myfyrwyr, staff ac ymwelwyr yn arddel gwahanol grefyddau a moeseg. Rydym yn ceisio dod o hyd i gigoedd wedi'u hardystio yn halal /"o ffynonellau halal" a bwydydd figan i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.
P'un ai anrheg i chi'ch hun neu i ffrind yr hoffech ei brynu, bydd rhywbeth i chi yn siop ar-lein undeb y myfyrwyr. Gallwch ddewis o blith ystod eang o ddillad ac eitemau eraill wedi'u brandio â logo’r brifysgol. Perffaith ar gyfer prynu pethau cofiadwy. (Cliciwch yma i weld a phrynu).
Fel arfer, rydym yn darparu'r canlynol yn y siop:
- Amrywiaeth eang o ddillad wedi’u brandio â logo’r brifysgol
- Bwydydd parod poeth.
- Becws ar safle’r siop
- Yr amrywiaeth fwyaf o frechdanau ar y campws
- Byrbrydau, melysion a nwyddau groser
- Cigoedd a dewisiadau Halal
- Dewisiadau figan
- Nwyddau ymolchi a hylendid
- Deunyddiau ysgrifennu a hanfodion bob dydd
- Anrhegion
- Cardiau cyfarch
- Bargen o Bryd (brechdan a diod o’ch dewis a naill ai ffrwyth, iogwrt, siocled, neu greision) o £3.65.
Sylwch nad yw’r siop yn derbyn arian parod - gallwn dderbyn pob taliad â cherdyn a chardiau Aber.
Bydd y gwasanaethau sydd ar gael a’r oriau agor yn amrywio y tu allan i ddyddiadau tymhorau Prifysgol Aberystwyth (Oriau agor)
Os oes rhywbeth yr hoffech ei weld yma, siaradwch ag aelod o staff ac fe geisiwn ddiwallu eich anghenion.
Yr holl ffotograffau gan Darya Koskeroglu