Y Neuadd Fwydd

 

Y neuadd fwyd yw ein bwyty cyffrous sydd wedi ennill gwobrau ac sydd i’w ganfod ar brif gampws Prifysgol Aberystwyth ar y llawr gwaelod ym Mhenbryn. 

Mae’r Neuadd Fwyd yn amgylchedd cynnes a chyfeillgar; galwch heibio rhwng darlithoedd, dewch draw am ginio neu i ddianc am ychydig. Mae yno ddigon o le i eistedd; mae’n fan poblogaidd i fyfyrwyr gyfarfod, a byddai’n addas i gyfarfodydd bach anffurfiol, oherwydd y cyfuniadau byrddau mawr neu fach, a’r socedi trydan ar gyfer gwefru dyfeisiadau.

Lle i fwyta, ymlacio, gweithio a chwrdd â ffrindiau yn ein bwyty sydd newydd ei adnewyddu, sy’n ardal ddi-alcohol. Ceir amrywiaeth eang o opsiynau yn y Neuadd Fwyd i gyd-fynd â’ch anghenion. Os ydych chi’n dymuno cael rhywbeth nad yw i’w weld ar y fwydlen, holwch a bydd ein tîm o gogyddion yn hapus i weithio gyda chi.

Gallwch fwyta i mewn neu fynd â’r bwyd gyda chi, chi sydd i ddewis.

Nodwch fod yr holl brisiau a ddangosir yn y neuadd fwyd yn brisiau myfyrwyr ac nad yw Prifysgol Aberystwyth yn derbyn arian parod. Yn ogystal â thalu â cherdyn, gall cwsmeriaid ddefnyddio’u cerdyn Aber i dalu.

Bydd gwasanaethau’n amrywio y tu allan i oriau tymor Prifysgol. Amseroedd agor

Bwrdd y Pen-cogydd a gwasanaethau

Caiff yr holl fwydydd eu coginio’n ffres a’u paratoi ar y safle. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymo i fwyd iach gan ddefnyddio cyflenwyr dibynadwy, ac mae’r bwydlenni’n cynnwys nifer o fwydydd sy’n deillio o blanhigion.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gymuned amlddiwylliannol, sy’n cynnwys myfyrwyr, staff ac ymwelwyr â gwahanol gredoau crefyddol a moeseg. Rydym yn ceisio sicrhau cig halal ar gyfer gwasanaethau penodol ac eitemau ar y fwydlen sy’n cyd-fynd â’n cydnabyddiaeth o anghenion amrywiol ein cwsmeriaid.

Mae croeso i chi sgwrsio â’n tîm cogyddion ynglŷn ag unrhyw alergenau neu ofynion dietegol a allai fod gennych chi.

  • Crëwch eich brecwast eich hun rhwng dydd Llun a dydd Gwener 08.30-11.00. (Amser tymor)
  • Cinio o’r cerfdy dydd Llun i ddydd Gwener 12.00-14.00. (Amser tymor)
  • Pryd dyddiol gwerth da
  • Ramen (Amser tymor)
  • Dewisiadau fegan dyddiol
  • Cawl cartref y dydd (Amser tymor)
  • Bar salad wedi’i baratoi’n ffres
  • Bwyd wedi’i goginio trwy archeb dydd Llun i ddydd Gwener 14.00-19.00. (Amser tymor) Bwydlen

Siop Goffi

Mae siop goffi’r Neuadd Fwyd yn cynnwys Starbucks ac mae ar agor saith diwrnod yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener 08.00-19.00. (Amser tymor).

Mae’r siop goffi’n cynnig amrywiaeth o fyrbrydau, cacennau, melysion, creision a diodydd oer.

Llwythwch y cerdyn teyrngarwch i ddechrau casglu stampiau (magic stamp) i gael diod boeth am ddim.

  • Cappuccino, Latté, Espresso, Frappuccino
  • Sawl math gwahanol o de
  • Siocled poeth
  • Smŵddis
  • Amrywiaeth eang o gynhyrchion bwyd cydio a mynd o £1.76 (myffins brecwast, pasteiod blasus)
  • Tatws yn eu crwyn wedi’u paratoi’n ffres
  • Amrywiaeth o panini, brechdanau a bagétau
  • Pryd am fargen (dewis o frechdan, diod a naill ai ffrwyth, iogwrt, siocled neu greision) o £3.65
  • Melysion
  • Dewis o gacennau
  • Ffrwyth

 

 

Yr holl ffotograffau gan Darya koskeroglu