Blas Gogerddan
Ffreutur i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr ar gampws Gogerddan yw Blas Gogerddan.
Mae Blas Gogerddan yn cynnig gwasanaeth wedi'i staffio'n llawn o ddydd Llun i ddydd Gwener 08.30-13.30 (Amser tymor), ac mae'n lle delfrydol i gyfarfod, gweithio ac ymlacio. Y tu allan i'r oriau hyn mae'r caffi ar agor 24/7 ar sail hunanwasanaeth gyda byrbrydau a diodydd oer a phoeth ar gael bob dydd drwy ein til hunanwasanaeth. Gellir cael mynediad i Blas Gogerddan drwy ddefnyddio eich Cerdyn Aber wrth y drws.
Rydym yn cynnig
- Rholiau Brecwast newydd eu coginio
- Cawl y dydd
- Brechdanau
- Paninis
- Sglodion
- Tatws trwy’u crwyn wedi’u coginio ar eich cyfer, â dewis o lenwadau
- Diodydd oer
- Diodydd poeth o Gymru
- Byrbrydau amrywiol
- Man gwerthu
- Agor 24/7
- Bargen o Bryd (Brechdan a diod o’ch dewis a naill ai ffrwyth, iogwrt, siocled, neu greision) o £3.65
- Bwyd Twym ar gael 12.00-13.30 (Amser tymor)
Sylwch nad yw Blas Gogerddan yn derbyn arian parod - gallwn dderbyn pob taliad â cherdyn a chardiau Aber.
Bydd y gwasanaethau sydd ar gael ac oriau agor yn amrywio y tu allan i ddyddiadau tymhorau Prifysgol Aberystwyth (dolen i’r oriau agor)