Opsiynau Heb Glwten Ar Y Campws

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn sicrhau darpariaeth ar gyfer pob alergen a gofynion dietegol.  Felly, rydym yn ceisio gwneud yn siŵr bod digon o amrywiaeth a chysondeb o ran opsiynau heb glwten ar gael ledled ein safleoedd ar draws y campws ar gyfer myfyrwyr, staff ac ymwelwyr. 

Rydym yn cydnabod y cyfyngir ar yr eitemau sydd ar gael i chi ar adegau oherwydd problemau â’n cyflenwyr a materion eraill sy’n arwain at lai o amrywiaeth yn y cynhyrchion sy’n cael eu cynnig, ond cofiwch fod pob ymdrech bosib yn cael ei wneud i sicrhau bod digon o gynhyrchion ar gael i chi.  Mae croeso i chi siarad ag aelod o'n tîm, a fydd yn gallu helpu a bodloni eich anghenion a'ch cais.

Gallwch fod yn sicr bod mesurau ar waith i atal unrhyw fath o groeshalogi.

Gweler isod yr opsiynau heb glwten sydd ar gael yn ein hunedau ar draws y campws.  Sylwer, mae rhai eitemau yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael.

Y Neuadd Fwyd

  • Nifer o eitemau brecwast megis bacwn, selsig, stwnsh tatws ‘hash browns’, wyau, ffa a thomatos hefyd yn cynnwys bara, (defnyddir tostiwr yn benodol ar gyfer bara heb glwten) a grawnfwydydd.
  • Mae Bwrdd y Cogydd yn darparu nifer o ddewisiadau o brydau cartref heb glwten a goginir yn ddyddiol, tra bo’r holl sawsiau a grefi wedi'u gwneud â blawd heb glwten, mae'r holl brydau sydd heb glwten yn cael eu harddangos yn unol â hynny.
  • Y Cerfdy dyddiol (nodwch fod rhai eitemau megis Pwdin Swydd Efrog a stwffin yn cynnwys glwten)
  • Mae Pysgodyn y Dydd ar ddydd Gwener yn cael ei wneud gyda cytew heb glwten.
  • Tatws rhost dyddiol, a llysiau
  • Bydd pasta heb glwten ar gael ar gyfer unrhyw saig sy’n cynnwys pasta. Ac eithrio prydau lasagne.
  • Cawl cartref y dydd, bara heb glwten ar gael ar gais.
  • Mae dros hanner y bar salad yn cynnwys cynhyrchion heb glwten.
  • Ramen (pryd ‘gwerth ei arian’ yn dyddiol)

Mae'r fwydlen sydd wedi'i goginio i archeb rhwng 14.00 ag amser cau, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn cynnig, fel disgwyliad sylfaenol, nifer o brydau heb glwten, ynghyd â wraps, pizzas, byrgyrs, a phasta heb glwten ar gael ar gais.  Bwydlen

Sylwer, defnyddir ffrïwr penodol ar gyfer y cynhyrchion heb glwten sy'n gofyn am ffrio.

Siop Goffi'r Neuadd Fwyd

  • Tatws yn eu crwyn a llenwadau yn dyddiol
  • Detholiad o frechdanau a wraps wedi'u lapio ymlaen llaw
  • Ffrwythau ffres
  • Melysion gan gynnwys creision, bariau siocled a bariau protein.
  • Cacennau wedi'u lapio ymlaen llaw (er mwyn osgoi croeshalogi)
  • Te a choffi arbenigol
  • Sushi
  • Smŵddis
  • Iogwrt

Caffibach

  • Mae brechdanau crasu a brechdanau heb glwten cartref yn cael eu gwneud a'u coginio i archeb.
  • Rholiau wedi'u lapio ymlaen llaw, brechdanau, a wraps
  • Detholiad o gacennau (gan gynnwys rhai wedi'u lapio ymlaen llaw)
  • Melysion gan gynnwys creision, bariau siocled a bariau protein.
  • Cawl cartref y dydd, bara heb glwten ar gael ar gais.
  • Smŵddis
  • Ffrwythau ffres
  • Sushi

Blas Gogerddan

  • Dewisiadau bwyd poeth dyddiol, dewisiadau heb glwten yn dibynnu a ydynt ar gael
  • Detholiad o eitemau brecwast wedi'u coginio gyda bara heb glwten ar gael ar gyfer tost
  • Rholiau wedi'u lapio ymlaen llaw, brechdanau, a wraps
  • Cacennau wedi'u lapio ymlaen llaw
  • Iogwrt
  • Melysion gan gynnwys creision, bariau siocled a bariau protein.
  • Ffrwythau ffres

Pantycelyn

  • Nifer o eitemau brecwast megis bacwn, selsig, stwnsh tatws ‘hash browns’, wyau, ffa a thomatos hefyd yn cynnwys bara, (defnyddir tostiwr yn benodol ar gyfer bara heb glwten) a grawnfwydydd. Dydd Llun - Dydd Gwener 08.00-10.15
  • Mae prydau cartref heb glwten yn cael eu harddangos yn unol â hynny fel disgwyliad safonol, yn cael eu gweini rhwng 17.00-18.45 o ddydd Llun i ddydd Gwener
  • Sushi
  • Iogwrt
  • Rholiau wedi'u lapio ymlaen llaw, brechdanau, a wraps
  • Cacennau
  • Melysion gan gynnwys creision, bariau siocled a bariau protein.
  • Ffrwythau ffres

Bar ⁠Undeb y Myfyrwyr

Mae gan far undeb y myfyrwyr fwydlen archebu cyflym ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 12.00-19.00. 

  • Mae pizza, wraps a thoddion poeth heb glwten ar gael bob dydd.
  • Sglodion
  • Melysion gan gynnwys creision, bariau siocled a bariau protein.
  • Te a choffi arbenigol
  • Cwrw potel heb glwten

Siop ⁠Undeb y Myfyrwyr

  • Saladau
  • Brechdanau wedi'u lapio ymlaen llaw
  • Cawl
  • Sushi
  • Ffrwythau ffres
  • Cnau, rhesins a hadau
  • Detholiad o brydau parod
  • Cacennau wedi'u lapio ymlaen llaw
  • Melysion gan gynnwys creision, bariau siocled a bariau protein.
  • Amrywiaeth eang o eitemau groser