Gwybodaeth am Gynnyrch Figan
Mae gan yr holl leoedd bwyd amrywiaeth eang o gynnyrch figan ar gael bob dydd. Yn amrywio o frecwast poeth, prydau wedi’u paratoi’n ffres, brechdanau, peis a phasteiod. Heb sôn am gacennau figan a the a choffi wedi’u paratoi gyda chynnyrch heb laeth
Gallwn eich sicrhau bod yr holl fesurau ar waith i atal unrhyw fath o groes-halogi.
Y neuadd fwyd
- Ramen
- Cawl
- Bar salad wedi’i baratoi’n ffres
- Brecwast poeth figan (Bacwn figan wedi’i goginio yn ôl yr archeb)
- O leiaf un dewis figan 5 diwrnod yr wythnos wedi’i weini ar y cownter bwyd poeth.
Mae ein gwasanaeth bwyta mewn ar gael Dydd Llun i Dydd Gwener 14.00-19.00.
- Amrywiaeth o brydau ar gael ar ein bwydlen ‘adeiladu eich hun’
- Pizzas
- Detholiad o fwydydd wedi’u ffrio’n arddull y De a phrydau am bris rhesymol
- Prydau ochr a sawsiau figan
Siop goffi’r neuadd fwyd
- Diodydd poeth wedi’u paratoi gyda chynnyrch heb laeth
- Smŵddis
- Dewis o gacennau figan
- Amrywiaeth o beis a phasteiod figan
- Brechdanau a paninis
- Melysion
Siop undeb y myfyrwyr
- Detholiad o beis a phasteiod
- Rholiau poeth figan
- Detholiad o frechdanau
- Bar salad ‘adeiladu eich hun’
- Melysion
- Diodydd
Undeb y myfyrwyr
- Diodydd wedi’u paratoi gyda chynnyrch heb laeth
- Byrgyr figan ar y fwydlen bwyd cyflym bob dydd
- Pitsa figan, parseli a toddiadau poeth ar gael
Caffibach
- Diodydd wedi’u paratoi gyda chynnyrch heb laeth
- Detholiad o gacennau figan
- Brechdanau a paninis
- Melysion
- Cawl (yn ddibynnol ar y fwydlen)
Blas gogerddan
- Diodydd wedi’u paratoi gyda chynnyrch heb laeth
- Brechdanau
- Melysion
- Cynnyrch figan ar gael o’r Sgubor ac ar gyfer danfoniad cartref
Mae croeso i chi ofyn i aelod o staff am unrhyw gymorth.