Amcanion Cynaladwyedd 2025
Mae'r Gwasanaethau Croeso yn falch o fod yn rhan o ymrwymiad hirdymor Prifysgol Aberystwyth i sicrhau bod ei holl weithrediadau yn gynaliadwy. Cyflwynwn y Cynllun Gweithredu Cynaliadwyedd hwn fel dogfen waith. Fel gyda phob cynllun o’r fath, dim ond drwy gyfranogiad ein staff, ein cwsmeriaid a’n cyflenwyr y bydd yn bosib ei gyflawni.
Rydym yn croesawu pob ymateb i'r cynllun hwn wrth i ni ymdrechu i wneud yn well o ran arferion cynaliadwy a bod yn garbon-niwtral.
Olew Palmwydd
Amcan cyffredinol: Yn y pen draw rydym ni’n dymuno tynnu pob cynnyrch sy’n cynnwys olew palmwydd anghynaladwy o’r Gwasanaethau Croeso. Rydym yn bwriadu gwneud hyn drwy ymgysylltu â’r cyflenwyr yn ogystal â darparu gwybodaeth i gwsmeriaid ynghylch pa gynhyrchion sy’n cynnwys olew palmwydd. Rydym ni’n cefnogi cynhyrchu olew palmwydd achrededig cynaliadwy (RSPO) mewn modd cynaliadwy sy’n helpu i atal datgoedwigo; cynorthwyo tâl teg i gymunedau a gweithwyr; yn ogystal â diogelu bywyd gwyllt a’r amgylchedd.
Camau cyflawni:
Gweithredu |
Ble i'w roi ar waith |
Amcan y camau gweithredu |
Dyddiad targed ar gyfer lansio |
Rhoi’r system labelu ganlynol ar y cynhyrchion sy'n cynnwys olew palmwydd: Gwyrdd (dim); Melyn (olew palmwydd, ond yn RSPO); Coch (heb ei achredu) |
Pob safle |
Ein nod yw rhoi'r wybodaeth berthnasol i gwsmeriaid fel y gallant hwy benderfynu prynu'r cynnyrch hwnnw ai peidio. |
ar waith / parhaus |
Neilltuo adnoddau er mwyn cael gwybod am yr olew palmwydd a ddefnyddiwyd yn y cynhyrchion a brynir, trwy gyfrwng y llwyfan prynu a thrwy drafod â’r cyflenwyr |
Tîm gweinyddol Penbryn |
Sicrhau bod gwybodaeth am y cynnyrch yn cael ei chasglu a'i gwirio. Cysylltu â’r cyflenwyr i roi gwybod am gynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio ac sydd felly'n debygol o gael eu tynnu o’n rhestr. |
parhaus |
Adolygiad o'r holl gynhyrchion sy'n cynnwys olew palmwydd nad yw’n RSPO, gyda dewisiadau amgen os oes modd. |
Tîm gweinyddol Penbryn |
Darparu gwybodaeth am y cynnyrch a fydd yn cael ei ddisodli gan ddewisiadau amgen |
ar waith / parhaus |
Adolygu’r polisi Olew Palmwydd |
Pob safle |
Sicrhau bod y polisi'n gweithio ac adolygiadau pellach |
Awst 2025 |
Lleihau Gwastraff Bwyd
Amcan cyffredinol: Lleihau’r maint o fwyd sy’n cael ei brynu ond nad yw’n cael ei fwyta er mwyn lleihau ein hôl-troed carbon ac i wella arferion cynaliadwy cwsmeriaid a staff. Gwneir hyn drwy leihau gwastraff ar blatiau (bwyd a brynir yn ein safleoedd ond heb ei fwyta), lleihau’r maint o fwyd sy’n mynd yn rhy hen i’w fwyta, yn ogystal â lleihau gwastraff wrth gynhyrchu bwyd. Bydd unrhyw wastraff yn cael ei roi mewn biniau ailgylchu bwyd ym mhob safle.
Camau cyflawni.
Gweithredu |
Ble i'w roi ar waith |
Amcan y camau gweithredu |
Dyddiad targed ar gyfer lansio |
Parhau â’r gostyngiad pris i unrhyw fwyd sy’n nesáu at y dyddiad gwerthu, gyda sticeri “pan fydd wedi mynd, mae wedi mynd” |
Pob safle |
Gwerthu bwyd na fydd yn para’n hir am bris y gost neu’n is er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei fwyta yn hytrach na'i daflu i ffwrdd |
Parhaus |
Llunio bwydlenni a fydd yn hwyluso cynigion arbennig byrdymor am fwyd a baratowyd yn y ceginau, megis prif saig am £4.00 |
Neuadd Fwyd, Blas Gogerddan |
Er mwyn i ni allu gwerthu bwyd os gwnaed gormod ohono, yn gyflym am bris y gost i fyfyrwyr. |
Parhaus |
Mesur faint o wastraff bwyd a daflwyd yn ôl y maint sydd yn y biniau bwyd drwy gynnal gwiriad bob wythnos cyn iddo gael ei gasglu. |
Neuadd Fwyd, Undeb y Myfyrwyr |
Monitro ein gwastraff bwyd a, thrwy hynny, helpu i fonitro llwyddiant y camau uchod |
parhaus - adolygiad Awst 2025 |
Rheoli faint o fwyd poeth a wneir i'w weini wrth y cownteri poeth tua diwedd amseroedd gwasanaeth, o 15 munud cyn cau’r cownter. Felly, os bydd pryd bwyd penodol wedi’i werthu i gyd, ni ddylid paratoi mwy ohono. |
Neuadd Fwyd, Blas Gogerddan |
Lleihau’r maint o fwyd sydd wedi’i goginio ac na ellir ei ailddefnyddio ac sydd felly’n gorfod cael ei daflu. |
Parhaus |
Lleihau defnydd o eitemau tafladwy ar y campws
Amcan cyffredinol: - Yn ein diwylliant 'bachu bwyd a mynd' bydd bob amser galw am rywfaint o gynnyrch untro. Serch hynny, byddwn yn gyntaf yn ceisio sicrhau bod yr holl ddeunydd untro a ddefnyddir naill ai'n ailgylchadwy neu'n fioddiraddadwy. Yna byddwn yn ceisio lleihau’r maint o ddeunydd untro a ddefnyddir, ac annog arferion sy'n cefnogi hynny. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod mwy o ddeunydd yn cael ei ailgylchu lle bo hynny'n bosib.
Camau cyflawni.
Gweithredu |
Ble i'w roi ar waith |
Amcan y camau gweithredu |
Dyddiad targed ar gyfer lansio |
Cynyddu’r ffi ar gwpanau untro i 40c, gan werthu cwpanau cadw am bris y gost |
Pob safle |
Er mwyn lleihau'r maint o gwpanau untro a ddefnyddir ar y campws, sef yr eitem anoddaf i'w hailgylchu. |
parhaus - adolygiad Awst 25 |
Gweini’r holl fwyd a diod a ddarperir yn fewnol ar lestri tsieini a gwydr y gellir eu hailddefnyddio |
Neuadd Fwyd, Pantycelyn, CAFFIbach |
Er mwyn sicrhau mai dim ond ar gyfer bwyd a diod i’w cymryd allan y defnyddir deunydd untro |
ar waith / parhaus |
Hybu Diwrnod Di-blastig ar draws y campws |
Pob safle |
Annog mwy o drafod ar ddefnyddio llai o blastig untro. |
Hydref 2025 |
Monitro maint y ffrydiau gwastraff tirlenwi ac ailgylchu, a chadw cofnod ohonynt. Yn ogystal ag adolygu’r gwastraff i gyd, yn unol â’r rheoliadau newydd |
Pob safle |
Er mwyn i ni allu monitro’r gostyngiad mewn sbwriel tirlenwi |
Awst 2025 |
Cyflwyno sgôr negyddol am becynnu plastig wrth ymdrin â thendrau cyflenwyr ar gyfer y Gwasanaethau Croeso |
Prynu canolog |
Annog deunyddiau y gellir eu hailgylchu ar gyfer pecynnu ac wrth anfon nwyddau. |
Parhaus |
Prynu cwpanau amldro i’w defnyddio mewn cynadleddau yn lle’r cwpanau untro a ddefnyddir ar hyn o bryd, a rhoi trefn ar waith ar gyfer eu dosbarthu a’u casglu |
Y tîm cynadledda |
Atal defnyddio unrhyw gwpanau untro wrth gynnal cynadleddau. |
Uchelgais
|
Gweini poteli dŵr ail-lenwi yn unig yn Ystafelloedd Medrus |
Y tîm cynadledda |
Lleihau'r plastig a ddefnyddir yn ddiangen |
Parhaus |
Y Daith at Garbon Sero Net
Amcan cyffredinol: - Mae Aberystwyth wedi ymrwymo i gyrraedd targed sero net erbyn y flwyddyn 2030-31. Bydd y gwasanaethau Croeso yn ymrwymo i fonitro ac adolygu eu harferion i leihau ein hallyriadau o fewn cwmpasau 1, 2 a 3 o'n gweithrediadau.
Cwmpas 1 yw’r ffynonellau allyriadau uniongyrchol sy'n deillio o’r peiriannau, y cyfleusterau a’r cerbydau sy'n eiddo i'r cwmni. Cwmpas 2 yw’r ffynonellau allyriadau anuniongyrchol sy'n gysylltiedig â chynhyrchu trydan, gwres, stêm a / neu wrth oeri. Cwmpas 3 yw’r allyriadau anuniongyrchol sy'n deillio o'r holl weithgareddau a ffynonellau eraill nad ydynt wedi'u cynnwys yng Nghwmpas 2; gan gynnwys teithio busnes, cymudo, gwastraff a dosbarthu gan drydydd partïon.
Camau cyflawni.
Gweithredu |
Ble i'w roi ar waith |
Amcan y camau gweithredu |
Dyddiad targed ar gyfer lansio |
Hoffem roi arwyddion carbon ar fwydlenni i helpu i lywio ymddygiad y cwsmeriaid |
Pob safle |
Er mwyn galluogi ein cwsmeriaid i wneud penderfyniadau am brynu ar sail gwybodaeth gadarn. |
Uchelgais |
Ei gwneud yn ofynnol i’r holl gyflenwyr ymrwymo i gyrraedd sefyllfa garbon sero yn eu gweithrediadau trwy'r broses dendro |
Prynu canolog |
Helpu i leihau'r carbon o gwmpas 3 |
Parhaus |
Gwirio bod seliau’r oergelloedd yn iawn, er mwyn lleihau'r ynni a ddefnyddir a gwella effeithlonrwydd |
Pob safle |
Lleihau'r ynni a ddefnyddir |
Gorffennaf 2025 a phob blwyddyn |
Defnyddio cerbydau trydanol yn unig fel adran |
Gwasanaethau Croeso |
2 fan trydan newydd wedi'u prynu |
Parhaus |
Tynnwch yr holl offer nwy sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes |
Pob safle |
Lleihau’r carbon a gynhyrchir yn ystod y gwaith paratoi bwyd |
Parhaus |
Adolygu’r offer cegin a sut y’u defnyddir, drwy fonitro eu perfformiad ynni Arwain adolygiad ar y dulliau cynhyrchu a chylchred oes yr offer |
Pob safle |
Lleihau'r ynni a ddefnyddir |
Parhaus |
Galluogi darllen faint o ynni a ddefnyddir ym mhob safle arlwyo yn unigol |
Pob safle |
Ei gwneud hi’n bosib i staff fonitro faint o ynni a ddefnyddir a sicrhau arbedion |
Parhaus |
Arferion a phwrcasu moesegol
Amcan cyffredinol: - Mae'r Gwasanaethau Croeso yn mesur eu perfformiad drwy ddull y sylfaen driphlyg, sef pobl, elw a'r blaned. Anelwn at sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau prynu moesegol trwy geisio sicrhau ein bod yn dilyn 17 Nod Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Trwy ofyn i’n cyflenwyr arddel ymddygiad moesegol a chynaliadwy, gobeithiwn y gallwn annog a dathlu ymddygiad sydd er budd pob un ohonom.
Camau cyflawni.
Gweithredu |
Ble i'w roi ar waith |
Amcan y camau gweithredu |
Dyddiad targed ar gyfer lansio |
Ei gwneud yn ofynnol i bob cyflenwr ymrwymo i dalu'r cyflog byw |
Prynu canolog |
Hybu cyflog teg i'r holl weithwyr ac isgontractwyr |
Parhaus |
Sicrhau bod pob cwmni sy'n cyflenwi’r Gwasanaethau Croeso wedi ymrwymo i gydymffurfio â 17 Nod Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig |
Prynu canolog |
Hyrwyddo arferion da ymhlith ein cyflenwyr |
Parhaus |
Gosod polisi prynu lle y prynir yn lleol, yng Nghymru ac wedyn ym Mhrydain, lle bo modd gwneud hynny o fewn gweithdrefnau ariannol y Brifysgol |
Prynu canolog |
Er mwyn inni allu prynu cynnyrch mor lleol â phosib |
Parhaus |
Gofynnwch i'n prif gyflenwyr ddarparu meini prawf mesur blynyddol ar gyfer eu harferion cynaliadwy er mwyn sicrhau gwelliant parhaus |
Prynu canolog |
Annog gwelliant parhaus ymhlith ein cyflenwyr o ran gwneud cynnydd tuag at gynaliadwyedd a sefyllfa sero-net |
Parhaus |
Sicrhau bod yr holl gyflenwyr wedi ymrwymo i gydymffurfio â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 fel amod o gael masnachu â'r Gwasanaethau Croeso |
Prynu canolog |
Drwy gyfrwng holiadur blynyddol i bob cyflenwr er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth |
Parhaus |
Gweithio tuag at fabwysiadu 'Bwydlenni dros Newid' wrth brynu ein bwyd i gyd, ac wrth ei baratoi a’i weini |
Pob safle |
I'w ddefnyddio yn ganllaw ar gyfer paratoi ein bwyd ar gyfer pob un o'n mannau i'n helpu i wella ein cynaliadwyedd |
Parhaus |
https://www.tuco.ac.uk/procurement/sustainability/menus-of-change