Amcanion Cynaladwyedd 2024
Mae’n bleser gan y Gwasanaethau Croeso fod yn rhan o ymrwymiad parhaus Prifysgol Aberystwyth i gynaladwyedd yn ei holl weithrediadau. Cyflwynwn y Cynllun Gweithredu Cynaladwyedd hwn fel dogfen waith. Fel gyda phob cynllun o’r fath, yr unig ffordd y gellir ei wireddu yw drwy ymgysylltiad ein staff, cwsmeriaid a chyflenwyr.
Rydym ni’n croesawu mewnbwn i’r cynllun wrth i ni ymdrechu at sicrhau arferion cynaliadwy gwell a bod yn garbon niwtral.
Gweler amcanion cynaliadwyedd wedi'u llofnodi gan y tîm gweithredol ynghlwm: Sustainability objectives 2024 signed by Exec
Rydym hefyd yn aros am ein sgôr gan y Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy:- https://thesra.org/
Olew Palmwydd
Amcan cyffredinol: Yn y pen draw rydym ni’n dymuno tynnu pob cynnyrch sy’n cynnwys olew palmwydd anghynaladwy o’r Gwasanaethau Croeso. Rydym yn bwriadu gwneud hyn drwy ymgysylltu â’r cyflenwyr yn ogystal â darparu gwybodaeth i gwsmeriaid ynghylch pa gynhyrchion sy’n cynnwys olew palmwydd. Rydym ni’n cefnogi cynhyrchu olew palmwydd achrededig cynaliadwy (RSPO) mewn modd cynaliadwy sy’n helpu i atal datgoedwigo; cynorthwyo tâl teg i gymunedau a gweithwyr; yn ogystal â diogelu bywyd gwyllt a’r amgylchedd.
Camau cyflawni:
Cam Gweithredu |
Ble i’w roi ar waith |
Amcan y camau gweithredu |
Dyddiad targed ar gyfer lansio |
Rhoi’r system labelu ganlynol ar y cynhyrchion sy'n cynnwys olew palmwydd: Gwyrdd (dim); Melyn (olew palmwydd, ond yn RSPO); Coch (heb ei achredu) |
Pob safle |
Ein nod yw rhoi'r wybodaeth berthnasol i gwsmeriaid fel y gallant hwy benderfynu prynu'r cynnyrch hwnnw ai peidio. |
ar waith / parhaus |
Neilltuo adnoddau er mwyn cael gwybod am yr olew palmwydd a ddefnyddiwyd yn y cynhyrchion a brynir, trwy gyfrwng y llwyfan prynu a thrwy drafod â’r cyflenwyr |
Tîm gweinyddol Penbryn |
Sicrhau bod gwybodaeth am y cynnyrch yn cael ei chasglu a'i gwirio. Cysylltu â’r cyflenwyr i roi gwybod am gynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio ac sydd felly'n debygol o gael eu tynnu o’n rhestr. |
parhaus |
Adolygiad o'r holl gynhyrchion sy'n cynnwys olew palmwydd nad yw’n RSPO, gyda dewisiadau amgen os oes modd. |
Tîm gweinyddol Penbryn |
Darparu gwybodaeth am y cynnyrch a fydd yn cael ei ddisodli gan ddewisiadau amgen |
ar waith / parhaus |
Adolygu’r polisi Olew Palmwydd |
Pob safle |
Sicrhau bod y polisi’n gweithio ac angen adolygu pellach |
Awst 2024 |
Lleihau Gwastraff Bwyd
Amcan cyffredinol: Osgoi unrhyw fwyd a gaiff ei brynu ond na chaiff ei fwyta er mwyn lleihau ôl troed carbon a chynyddu arferion cynaliadwy gan gwsmeriaid a staff. Caiff hyn ei wneud drwy leihau gwastraff ar blatiau (bwyd a brynir ond na chaiff ei fwyta yn yr allfeydd), lleihau faint o fwyd sydd wedi dyddio, yn ogystal â lleihau gwastraff wrth gynhyrchu bwyd. Yna caiff yr holl wastraff a gynhyrchir ei roi mewn biniau ailgylchu bwyd yn yr holl allfeydd.
Camau cyflawni.
Cam Gweithredu |
Ble i’w roi ar waith |
Amcan y camau gweithredu |
Dyddiad targed ar gyfer lansio |
Parhau â’r gostyngiad pris i unrhyw fwyd sy’n nesáu at y dyddiad gwerthu, gyda sticeri “pan fydd wedi mynd, mae wedi mynd” |
Pob safle |
Gwerthu bwyd na fydd yn para’n hir am bris y gost neu’n is er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei fwyta yn hytrach na'i daflu i ffwrdd |
Parhaus |
Llunio bwydlenni a fydd yn hwyluso cynigion arbennig byrdymor am fwyd a baratowyd yn y ceginau, megis prif saig am £4.00 |
Neuadd fwyd, Blas Gogerddan |
Er mwyn i ni allu gwerthu bwyd os gwnaed gormod ohono, yn gyflym am bris y gost i fyfyrwyr. |
Parhaus |
Mesur faint o wastraff bwyd a daflwyd yn ôl y maint sydd yn y biniau bwyd drwy gynnal gwiriad bob wythnos cyn iddo gael ei gasglu. |
Neuadd Fwyd, Undeb y Myfyrwyr |
Monitro ein gwastraff bwyd a, thrwy hynny, helpu i fonitro llwyddiant y camau uchod |
parhaus - adolygiad Awst 2024 |
Rheoli faint o fwyd poeth a wneir i'w weini wrth y cownteri poeth tua diwedd amseroedd gwasanaeth, o 15 munud cyn cau’r cownter. Felly, os bydd pryd bwyd penodol wedi’i werthu i gyd, ni ddylid paratoi mwy ohono. |
Neuadd Fwyd, Blas Gogerddan |
Lleihau’r maint o fwyd sydd wedi’i goginio ac na ellir ei ailddefnyddio ac sydd felly’n gorfod cael ei daflu. |
Parhaus |
Lleihau defnydd o eitemau tafladwy ar y campws
Amcan cyffredinol: - Yn ein diwylliant o gydio mewn bwyd a mynd, mae galw parhaus am rywfaint o ddefnydd o gynhyrchion tafladwy. Fodd bynnag byddwn yn gyntaf yn ceisio sicrhau bod popeth tafladwy naill ai’n ailgylchadwy neu’n fioddiraddadwy. Yna byddwn yn ceisio lleihau faint o eitemau tafladwy a ddefnyddir ac annog arferion sy’n atgyfnerthu hyn. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau bod mwy o ddeunydd yn cael ei ailgylchu lle bo’n bosibl.
Camau cyflawni.
Cam Gweithredu |
Ble i’w roi ar waith |
Amcan y camau gweithredu |
Dyddiad targed ar gyfer lansio |
Cyflwyno ffi 25c ar gwpanau untro, gan werthu cwpanau cadw am bris y gost |
Pob safle |
Er mwyn lleihau'r maint o gwpanau untro a ddefnyddir ar y campws, sef yr eitem anoddaf i'w hailgylchu. |
parhaus - adolygiad Awst 24 |
Dod o hyd i gyflwynwyr poteli dŵr amldro cost-effeithiol fel y gellir gwahardd poteli dŵr plastig ar y Campws |
Neuadd Fwyd, cynadledda |
Ceisio dod o hyd i botel amldro sy’n rhatach na chost potel ddŵr untro |
Ebrill 2024 |
Gweini’r holl fwyd a diod a ddarperir yn fewnol ar lestri tsieini a gwydr y gellir eu hailddefnyddio |
Neuadd Fwyd, Pantycelyn, CAFFIbach |
Er mwyn sicrhau mai dim ond ar gyfer bwyd a diod i’w cymryd allan y defnyddir deunydd untro |
ar waith / parhaus |
Hybu Diwrnod Di-blastig ar draws y campws |
Pob safle |
Annog mwy o drafod ar ddefnyddio llai o blastig untro. |
Ebrill 2024 |
Monitro maint y ffrydiau gwastraff tirlenwi ac ailgylchu, a chadw cofnod ohonynt. Yn ogystal ag adolygu’r gwastraff i gyd, yn unol â’r rheoliadau newydd |
Pob safle |
Er mwyn i ni allu monitro’r gostyngiad mewn sbwriel tirlenwi |
Mai 2024 |
Cyflwyno sgôr negyddol am becynnu plastig wrth ymdrin â thendrau cyflenwyr ar gyfer y Gwasanaethau Croeso |
Prynu canolog |
Annog deunyddiau y gellir eu hailgylchu ar gyfer pecynnu ac wrth anfon nwyddau. |
Parhaus |
Prynu cwpanau amldro i’w defnyddio mewn cynadleddau yn lle’r cwpanau untro a ddefnyddir ar hyn o bryd, a rhoi trefn ar waith ar gyfer eu dosbarthu a’u casglu |
Y tîm cynadledda |
Atal defnyddio unrhyw gwpanau untro wrth gynnal cynadleddau. |
Uchelgais |
Gweini poteli dŵr ail-lenwi yn unig yn Ystafelloedd Medrus |
Y tîm cynadledda |
Lleihau'r plastig a ddefnyddir yn ddiangen |
Parhaus |
Y Daith at Garbon Sero Net
Amcan cyffredinol: - Mae Aberystwyth wedi ymrwymo i gyflawni targed di-garbon erbyn y flwyddyn 2030-31. Bydd y Gwasanaethau Croeso yn monitro ac yn adolygu ei arferion i leihau ein hallyriadau o fewn cwmpas 1, 2 a 3 ein gweithrediadau.
Cwmpas 1 yw ffynonellau allyriadau uniongyrchol yn deillio o beiriannau, cyfleusterau a cherbydau’n eiddo i’r cwmni. Cwmpas 2 yw ffynonellau allyriadau anuniongyrchol yn gysylltiedig â chynhyrchu trydan, gwres, stêm a/neu oeri. Cwmpas 3 yw allyriadau anuniongyrchol yn deillio o bob gweithgarwch a ffynhonnell arall nad ydynt o fewn Cwmpas 2; gan gynnwys teithio busnes, cymudo, gwastraff a danfoniadau trydydd parti.
Camau cyflawni.
Gweithredu |
Ble i’w roi ar waith |
Amcan y camau gweithredu |
Dyddiad targed ar gyfer lansio |
Hoffem roi arwyddion carbon ar fwydlenni i helpu i lywio ymddygiad y cwsmeriaid |
Pob safle |
Er mwyn galluogi ein cwsmeriaid i wneud penderfyniadau am brynu ar sail gwybodaeth gadarn. |
Uchelgais |
Ei gwneud yn ofynnol i’r holl gyflenwyr ymrwymo i gyrraedd sefyllfa garbon sero yn eu gweithrediadau trwy'r broses dendro |
Prynu canolog |
Helpu i leihau'r carbon o gwmpas 3 |
Parhaus |
Lleihau'r ynni a ddefnyddir mewn oergelloedd drwy ddefnyddio socedi Bluetooth sy’n galluogi diffodd oergelloedd gyda’r nos nad ydynt yn hanfodol ar gyfer bwyd |
Pob safle |
Lleihau'r carbon a’r trydan a ddefnyddir yn ddiangen. |
Gorffennaf 2024 |
Gwirio bod seliau’r oergelloedd yn iawn, er mwyn lleihau'r ynni a ddefnyddir a gwella effeithlonrwydd |
Pob safle |
Lleihau'r ynni a ddefnyddir |
Gorffennaf 2024 a phob blwyddyn |
Defnyddio cerbydau trydanol yn unig fel adran |
Gwasanaethau Croeso |
2 fan trydan newydd wedi'u prynu |
Parhaus |
Tynnwch yr holl offer nwy sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes |
Pob safle |
Lleihau’r carbon a gynhyrchir yn ystod y gwaith paratoi bwyd |
Parhaus |
Adolygu’r offer cegin a sut y’u defnyddir, drwy fonitro eu perfformiad ynni. Arwain adolygiad ar y dulliau cynhyrchu a chylchred oes yr offer |
Pob safle |
Lleihau'r ynni a ddefnyddir |
Parhaus |
Galluogi darllen faint o ynni a ddefnyddir ym mhob safle arlwyo yn unigol |
Pob safle |
Ei gwneud hi’n bosib i staff fonitro faint o ynni a ddefnyddir a sicrhau arbedion |
Parhaus |
Arferion a phwrcasu moesegol
Amcan cyffredinol: - Mae’r Gwasanaethau Croeso yn mesur perfformiad yn defnyddio’r dull triphlyg pobl, elw a phlaned. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau pwrcasu moesegol drwy geisio sicrhau ein bod yn dilyn 17 Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Drwy ofyn am ymddygiad moesegol a chynaliadwy gan ein cyflenwyr ein gobaith yw y gallwn annog a dathlu ymddygiad sydd o fudd i bawb.
Camau cyflawni.
Cam Gweithredu |
Ble i’w roi ar waith |
Amcan y camau gweithredu |
Dyddiad targed ar gyfer lansio |
Ei gwneud yn ofynnol i bob cyflenwr ymrwymo i dalu'r cyflog byw |
Prynu Canolog |
Hybu cyflog teg i'r holl weithwyr ac isgontractwyr |
Parhaus |
Bydd yr holl gyflenwyr bwyd yn cael eu defnyddio drwy fframwaith TUCO neu DEFRA neu, lle cânt eu penodi'n uniongyrchol, bydd hynny drwy dendr cystadleuol drwy GwerthwchiGymru gan ddefnyddio cylch gorchwyl fframwaith TUCO |
Prynu Canolog |
I sicrhau safonau cyson sy'n ofynnol i gyflenwyr er mwyn sicrhau arferion da o ran cynaliadwyedd a chyrchu mewn ffordd foesegol. |
Parhaus |
Sicrhau bod pob cwmni sy'n cyflenwi’r Gwasanaethau Croeso wedi ymrwymo i gydymffurfio â 17 Nod Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig |
Prynu Canolog |
Hyrwyddo arferion da ymhlith ein cyflenwyr |
Parhaus |
Gosod polisi prynu lle y prynir yn lleol, yng Nghymru ac wedyn ym Mhrydain, lle bo modd gwneud hynny o fewn gweithdrefnau ariannol y Brifysgol |
Prynu Canolog |
Er mwyn inni allu prynu cynnyrch mor lleol â phosib |
Parhaus |
Gofynnwch i'n prif gyflenwyr ddarparu meini prawf mesur blynyddol ar gyfer eu harferion cynaliadwy er mwyn sicrhau gwelliant parhaus |
Prynu Canolog |
Annog gwelliant parhaus ymhlith ein cyflenwyr o ran gwneud cynnydd tuag at gynaliadwyedd a sefyllfa sero-net |
Parhaus |
Sicrhau bod yr holl gyflenwyr wedi ymrwymo i gydymffurfio â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 fel amod o gael masnachu â'r Gwasanaethau Croeso |
Prynu Canolog |
Drwy gyfrwng holiadur blynyddol i bob cyflenwr er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth |
Parhaus |
Gweithio tuag at fabwysiadu 'Bwydlenni dros Newid' wrth brynu ein bwyd i gyd, ac wrth ei baratoi a’i weini |
Pob safle |
I'w ddefnyddio yn ganllaw ar gyfer paratoi ein bwyd ar gyfer pob un o'n mannau i'n helpu i wella ein cynaliadwyedd |
Parhaus |
Ymuno â'r Gymdeithas Bwytai Cynaliadwy |
Gwasanaethau Croeso |
Cael sgôr annibynnol ar gynaliadwyedd yr adran er mwyn cael adolygiad blynyddol |
24 Ionawr ac yn barhaus |
Cyflwyno ‘Bwyd ar gyfer Bywyd’ i'n bwydlenni |
Gwasanaethau Croeso |
Hyrwyddo’r ein cynnyrch o ran yr agweddau moesegol a lles anifeiliaid |
24 Ionawr ac yn barhaus |
https://www.tuco.ac.uk/procurement/sustainability/menus-of-change