Cerdyn Aber

Eich Cerdyn Aber

Eich Cerdyn Aber yw'ch Cerdyn Adnabod Myfyrwyr / Staff yn ogystal â cherdyn talu y gellir rhoi credyd arno o bell neu wrth un o'r tiliau. Cewch ei ddefnyddio i dalu am fwyd a diod yn ein bwytai a'n caffis ar draws y campws, a'r Canolfan Chwaraeon. Mae'ch Cerdyn Aber yn adnodd pwysig sy'n golygu y gallwch ddefnyddio nifer o adnoddau a gwasanaethau, megis (yn dibynnu ar eich statws fel defnyddiwr):

  • Defnyddio'r ystafelloedd cyfrifiadurol 24-awr
  • Mynediad i'r neuaddau preswyl
  • Benthyca o’r llyfrgelloedd, gan gynnwys defnyddio'r peiriannau hunan-fenthyca
  • Gallu mynd i mewn i'r llyfrgelloedd (a'u gadael) y tu allan i'r oriau craidd
  • Argraffu, llungopïo a sganio
  • Mynediad i Undeb y Myfyrwyr
  • Adnoddau'r Ganolfan Chwaraeon
  • Prynu bwyd ym mwytai a chaffis Gwasanaethau Croeso'r Brifysgol
  • Cofrestru'ch presenoldeb yn eich darlithoedd

Cofiwch

  • Dim ond yr unigolyn a enwir ar y cerdyn gaiff ddefnyddio Cerdyn Aber. Ni cheir ei fenthyg na'i roi i neb arall, ac ni chaiff neb arall ei ddefnyddio. Dim ond i aelodau presennol o staff y Brifysgol, myfyrwyr cofrestredig presennol (sydd heb dynnu'n ôl dros dro na'u gwahardd), neu eraill sydd â breintiau cyfredol priodol fel aelodau'r Brifysgol y gallai Cerdyn Aber fod yn ddilys.
  • Os bydd eich Cerdyn Aber yn cael ei golli neu'i ddwyn, eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i'r Gwasanaethau Gwybodaeth: gg@aber.ac.uk / 01970 622400 yn syth. Bydd hynny'n sicrhau y gallwn atal eich cerdyn coll fel na all rhywun heb awdurdod ei ddefnyddio.
  • Os bydd Cerdyn Aber yn cael ei golli neu'i ddwyn bydd modd cael un newydd o Lyfrgell Hugh Owen.
  • Os ydych chi mewn llety arlwyo, rhoddir credyd ar eich Cerdyn Aber cyn i chi gyrraedd
  • Dangoswch eich Cerdyn Aber bob tro i gael gostyngiadau ar brisiau bwytai a chaffis Gwasanaethau Croeso'r Brifysgol
  • Gellir ychwanegu credyd ar eich Cerdyn Aber wrth unrhyw dil yn y Brifysgol
  • Pan ddefnyddiwch eich Cerdyn Aber i argraffu, llungopïo neu sganio, rhaid sicrhau’ch bod yn cydymffurfio â Chytundeb Hawlfraint y Brifysgol
  • Ni chaiff myfyrwyr ddefnyddio credyd ar eu Cerdyn Aber i brynu alcohol na baco

Mae Cerdyn Aber yn:

  • dangos enw, categori, rhif myfyriwr / staff, a llun y defnyddiwr;
  • cynnwys cod bariau a rhif a ddefnyddir â systemau'r Llyfrgell;
  • dangos cod QR sy'n gysylltiedig â thudalen ar y we sy'n dangos a oes gan y defnyddiwr gyfrif staff / myfyriwr dilys;
  • cynnwys data adnabod lleoliad a seilir ar gofnod staff/myfyriwr y defnyddiwr dan sylw, sy'n cael ei gyfeirio at wahanol systemau'r Brifysgol er mwyn sicrhau bod modd i'r defnyddiwr fynd i mewn i adeiladau priodol.

Gwneud Cais

  • Mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff presennol Prifysgol Aberystwyth yr hawl i gael Cerdyn Aber.
  • Er mwyn sicrhau bod eich Cerdyn Aber yn barod amdanoch pan gyrhaeddwch y campws bydd angen i chi wneud cais o leiaf wythnos ymlaen llaw.
  • Cewch wneud cais am eich Cerdyn Aber drwy uwch-lwytho ffoto digidol  yn: https://myaccount.aber.ac.uk/protected/newabercard/

Gwarchod Data

Wrth dderbyn eich Cerdyn Aber fe dderbyniwch delerau ac amodau defnyddio'r cerdyn, a thelerau ac amodau prosesu'ch data personol ar gyfer ei ddefnyddio.

1. Mae Cerdyn Aber yn:

  • dangos enw, categori, rhif myfyriwr / staff, a llun y defnyddiwr;
  • cynnwys cod bariau a rhif a ddefnyddir â systemau'r Llyfrgell;
  • dangos cod QR sy'n gysylltiedig â thudalen ar y we sy'n dangos a oes gan y defnyddiwr gyfrif staff / myfyriwr dilys;
  • cynnwys data adnabod lleoliad a seilir ar gofnod staff/myfyriwr y defnyddiwr dan sylw, sy'n cael ei gyfeirio at wahanol systemau'r Brifysgol er mwyn sicrhau bod modd i'r defnyddiwr fynd i mewn i adeiladau priodol.

2. Wrth ddefnyddio Cerdyn Aber fe fydd data cofnodi yn cael ei gynhyrchu'n uniongyrchol am bob achlysur pan ddefnyddir y cerdyn:

2.1 Mae data presenoldeb myfyrwyr (drwy sganio Cerdyn Aber wrth y mannau presenoldeb yn y darlithfeydd) yn cael ei gofnodi a'i ychwanegu at eich cofnod academaidd. Fe'i defnyddir i fonitro presenoldeb ac at ddibenion dadansoddi dysgu ac fe'i cedwir am 6 blynedd ar ôl i chi adael y Brifysgol.

2.2 Os defnyddir Cerdyn Aber gan staff fel rhan o system amser a phresenoldeb, fe gedwir y data am gyfnod a fydd yn cael ei ddatgan.

2.3 Wrth ddefnyddio Cerdyn Aber i fynd i mewn i adeiladau ac ystafelloedd fe fydd system drysau SALTO yn cynhyrchu data na ddefnyddir oni bai bod ei angen ar gyfer ymholiadau ystadegol, diogelwch, gweithdrefnau iechyd a diogelwch, ymchwilio i achosion o dorri rheoliadau neu archwiliadau'r heddlu. Cedwir y data hwn am 2 flynedd.

2.4 Wrth ddefnyddio Cerdyn Aber i brynu bwyd neu eitemau eraill ar y campws, fe gynhyrchir cofnod prynu a gedwir, yn unol â chofnodion ariannol eraill, am 7 mlynedd. Defnyddir y data hefyd am ddadansoddiadau ystadegol dienw, ond nid at ddibenion marchnata uniongyrchol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch sut y defnyddir eich data, cysylltwch â'r Rheolwr Diogelu Data yn infocompliance@aber.ac.uk

Am fwy o wybodaeth am sut mae'r Brifysgol yn diogelu data, gweler  https://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/dp

Ychwanegu Credyd

Cewch ychwanegu credyd at eich Cerdyn Aber ar y we neu wrth unrhyw dil ar y campws, gan gynnwys tiliau yn:

  • Penbryn (y Neuadd Fwyd),
  • Blas Padarn,
  • CAFFIbach
  • Blas Gogerddan
  • Llyfrgelloedd y Brifysgol (Hugh Owen)
  • Caffis a bariau Canolfan y Celfyddydau
  • Undeb y Myfyrwyr (gallwch ychwanegu credyd gydag arian parod yn nerbynfa Undeb y Myfyrwyr)
  • Y Ganolfan Chwaraeon

Os oes credyd ar ôl ar eich Cerdyn Aber, mae angen i fyfyrwyr ei wario erbyn 30 Medi ar ôl i'w cyfnod ddod i ben, neu erbyn diwedd contract ar gyfer staff. Os oes credyd yn weddill a heb ei ddefnyddio ar Gerdyn Aber erbyn y dyddiad olaf, y bydd y credyd hwnnw yn cael ei drosglwyddo i Gronfa Caledi Myfyrwyr/Cronfa Aber.

Mae unrhyw un yn gallu rhoi credyd ar eich Cerdyn Aber wrth un o'r tiliau; dim ond eich enw llawn a'ch rhif myfyriwr neu rif eich Cerdyn Aber fydd eu hangen. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi'r manylion wrth law, fe allwn ni edrych ar y system i sicrhau ein bod yn rhoi credyd ar y cyfrif cywir.

Ailosod

Os bydd eich Cerdyn Aber yn cael ei golli neu'i ddwyn, neu os nad yw'n gweithio, rhaid i chi roi gwybod i'r Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk / 01970 622400) cyn gynted ag y bo modd. Bydd Cerdyn Aber coll yn cael ei atal hyd nes y dewch o hyd iddo eto, neu tan i chi gael un newydd, fel na all neb arall ei ddefnyddio.

Os caiff cerdyn ei golli neu'i ddifrodi, gallwn roi cerdyn dros dro i fyfyrwyr ar gyfer eu cyfrif fel y gallent ei ddefnyddio i brynu bwyd a diodydd yn ein caffis a'n bwytai. I wneud hyn bydd angen i chi ddod draw i Tamed Da a siarad â'r rheolwr ar ddyletswydd a fydd yn gallu trefnu hyn i chi. Fel arall, gallwch ebostio i hospitality@aber.ac.uk neu ffonio'r rheolwyr ar ddyletswydd ar 07772-111 781.

I gael Cerdyn Aber newydd

  • Cysylltwch â gg@aber.ac.uk
  • Fel rheol, bydd Cerdyn Aber newydd ar gael ymhen 24 - 48 awr ar ôl y taliad.
  • Dyma'r costau am gael Cerdyn Aber newydd:
    • Cerdyn coll: £8.00
    • Cerdyn wedi'i Dorri neu'i Ddifrodi: am ddim
    • Cerdyn wedi'i Ddwyn (os rhoddir rhif adroddiad trosedd yr heddlu): am ddim
  • Rydym yn codi ffi am Gerdyn Aber newydd i dalu am gostau'r deunyddiau a'r prosesau sydd ynghlwm wrth wneud y Cerdyn Aber newydd.

Os ydych angen newid eich ffoto ar eich cerdyn Aber, mae'n bosib y codir hyd at £8 arnoch, yn dibynnu ar yr amgylchiadau unigol.  Anfonwch ebost i gg@aber.ac.uk.

Ailddilysu

Mae'r data lleoliad yn eich Cerdyn Aber (i chi allu sganio'ch cerdyn i agor cloeon drysau SALTO, er enghraifft) yn golygu bod angen i chi ail-ddilysu drwy sganio'ch Cerdyn Aber wrth fan diweddaru, bob 30 diwrnod o leiaf. Mae'r rhan fwyaf o ddrysau sganio allanol ar adeiladau Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu fel mannau diweddaru, neu fe allwch fynd draw i Lyfrgell Hugh Owen i gael ail-ddilysu'ch Cerdyn Aber. Bob tro i chi sganio'ch Cerdyn Aber wrth un o'r mannau diweddaru, bydd eich Cerdyn Aber yn cael ei ail-ddilysu am 30 diwrnod arall. Os nad ydych yn ail-ddilysu ymhen 30 diwrnod, bydd y data lleoliad yn peidio â gweithio, ond fe fydd yn ailgychwyn cyn gynted ag y sganiwch eich Cerdyn Aber wrth un o'r mannau diweddaru.

I ddefnyddio'ch cerdyn i fynd i mewn i adeilad, y cwbl sydd angen ei wneud yw ei ddal 3-5 cm oddi wrth ganol y sganiwr. Os yw’r drws dan glo fe welwch fod y golau yn goch. Os cyflwynwch eich Cerdyn Aber sydd â hawl ddilys i'r drws, bydd y golau yn troi'n wyrdd am gyfnod byr ac fe fydd clo'r drws yn agor. Os bydd y golau ar y sganiwr yn fflachio'n goch does gennych chi ddim awdurdod i fynd i mewn i'r drws hwnnw. Er cyfleustra i chi, bydd y rhan fwyaf o ddrysau allanol yr adeiladau academaidd wedi'u gosod i ddatgloi'n awtomatig yn ystod yr oriau gwaith.

Cerdyn Rhodd Aber

Cyflwyniad

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu cynllun rhagdalu debyd a gostyngiadau (“y cynllun”) lle y defnyddir Cerdyn Rhodd Aber (“y Cerdyn”) yn gyfnewid am nwyddau a gwasanaethau mewn safleoedd sy’n eiddo i Brifysgol Aberystwyth neu a reolir ganddi. Dyma delerau gweithredu’r cynllun ‘Cerdyn Rhodd Aber’.

Sut y gallaf brynu Cerdyn Rhodd Aber?

  • Gellir prynu Cerdyn Rhodd o unrhyw siop, caffi neu fwyty ar y campws. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, Siop Lyfrau a Siop Grefftau Canolfan y Celfyddydau, TaMed Da, TaMed bach, IBERbach, SGUBORfach, y Ganolfan Chwaraeon, Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell Thomas Parry.
  • Cewch ychwanegu credyd ar Gerdyn Rhodd Aber yn ein siopau, ein caffis neu'n bwytai, neu ar y we
  • Ni fydd unrhyw log yn cronni ar yr arian a roddir ar Gerdyn Rhodd Aber na’r swm o gredyd sydd ar y cerdyn.

Ble y gellir defnyddio Cerdyn Rhodd Aber?

  • Gellir defnyddio’r Cerdyn Rhodd ym mhob un o’r safleoedd yng Nghanolfan y Celfyddydau, y Ganolfan Chwaraeon, y siop lyfrau a rhoddion, pob safle'r gwasanaethau croeso, gan gynnwys Brynamlwg, a Llyfrgell Hugh Owen.
  • Mae popeth a brynwch gan gwmnïau ar fasnachfraint a safleoedd eraill ar gampysau Prifysgol Aberystwyth wedi’u heithrio o’r cynllun.

Sut y defnyddir y Cerdyn Rhodd?

  • Rhaid cyflwyno’r cerdyn pan fyddwch yn talu, a bydd gwerth y trafodyn yn cael ei dynnu o’r cerdyn. Byddwch yn cael derbynneb gyda phopeth a brynwch a fydd yn dangos unrhyw gredyd sy’n weddill ar y cerdyn.

Beth fydd yn digwydd os collaf Gerdyn Rhodd Aber?

  • Pan brynwch eich cerdyn rhodd, gofynnwn i chi gadw’r dderbynneb yn ddiogel gan mai hon a ddefnyddir i brofi pwy yw perchennog y cerdyn.
  • Gellir prynu Cerdyn Rhodd Aber newydd am £1.00, a gellir llwytho’r credyd sy’n weddill ar y cerdyn hwnnw.
  • Sylwer na ellir trosglwyddo credyd y Cerdyn Rhodd heblaw bod gennych y dderbynneb am brynu’r cerdyn gwreiddiol.
  • Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os bydd cardiau sydd wedi’u colli neu’u dwyn yn cael eu defnyddio'n dwyllodrus, a dim ond y credyd oedd ar y cerdyn, ar yr amser a'r dyddiad pan roddwyd gwybod i wasanaethau Croeso Prifysgol Aberystwyth bod y cerdyn wedi'i golli neu’i ddwyn, fydd yn cael ei drosglwyddo i'r cerdyn newydd.

Telerau ac Amodau Amrywiol

  • Mae’r credyd ar y cerdyn yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad pan ddefnyddiwyd y cerdyn ddiwethaf.  Os na ddefnyddir y cerdyn am 12 mis neu fwy, bydd y credyd yn cael ei glirio o’r cerdyn.
  • Os gwneir cais am ad-daliad o Gerdyn Rhodd, bydd rhaid talu ffi weinyddol, sef £5.00.
  • Eiddo Prifysgol Aberystwyth yw’r cardiau ar bob adeg, ac ni ellir eu trosglwyddo o’r unigolion y'u rhoddwyd iddynt.  Mae Prifysgol Aberystwyth yn cadw’r hawl i wneud cais am gael y cerdyn yn ôl, ac os gwna hynny, bydd yn talu unrhyw gredyd sy’n weddill yn ôl i’r unigolyn.
  • Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os bydd unrhyw Gerdyn Rhodd Aber yn cael ei golli na'i ddifrodi.
  • Mae Prifysgol Aberystwyth yn cadw’r hawl i newid telerau ac amodau’r cerdyn heb roi unrhyw rybudd o flaen llaw i ddaliwr y cerdyn.
  • Mae cynllun Cerdyn Rhodd Aber yn ddull o dalu am nwyddau a gwasanaethau a ddarperir gan Brifysgol Aberystwyth.  Nid yw hyn yn newid nac yn disodli’r hawliau defnyddwyr yn ôl cyfraith y DU.
  • Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gynnyrch neu wasanaeth a brynir drwy’r cynllun, ac eithrio’r hyn sydd yng nghyfraith safonol y DU.

Diogelu data'ch Cerdyn Aber

Wrth dderbyn eich Cerdyn Aber fe dderbyniwch delerau ac amodau defnyddio'r cerdyn, a thelerau ac amodau prosesu'ch data personol ar gyfer ei ddefnyddio. Caiff y data a brosesir ar eich cerdyn a'r data a gynhyrchir wrth i chi ddefnyddio eich cerdyn ei gynnwys yn rhwymedigaeth gytundebol y Brifysgol i ddarparu amgylchedd diogel i fyfyrwyr a staff a hefyd gan ei diddordebau cyfreithlon i ddefnyddio'r data hwn er budd cyffredinol y sefydliad a'r defnyddwyr eu hunain.

1. Mae Cerdyn Aber yn:

  • dangos enw, categori, rhif myfyriwr / staff, a llun y defnyddiwr;
  • cynnwys cod bariau a rhif a ddefnyddir â systemau'r Llyfrgell;
  • dangos cod QR sy'n gysylltiedig â thudalen ar y we sy'n dangos a oes gan y defnyddiwr gyfrif staff / myfyriwr dilys;
  • cynnwys data adnabod lleoliad a seilir ar gofnod staff/myfyriwr y defnyddiwr dan sylw, sy'n cael ei gyfeirio at wahanol systemau'r Brifysgol er mwyn sicrhau bod modd i'r defnyddiwr fynd i mewn i adeiladau priodol.
  • mae gan bob Cerdyn Aber rif rom unigryw sy'n gysylltiedig â chyfrif y deiliad, ac fe gaiff ei ddefnyddio i roi dilysiad ar gyfer gwasanaethau megis argraffu.

2. Wrth ddefnyddio Cerdyn Aber fe fydd data cofnodi yn cael ei gynhyrchu'n uniongyrchol am bob achlysur pan ddefnyddir y cerdyn:

3. Mae data presenoldeb myfyrwyr (drwy sganio Cerdyn Aber wrth y mannau presenoldeb yn y darlithfeydd) yn cael ei gofnodi a'i ychwanegu at eich cofnod academaidd. Fe'i defnyddir i fonitro presenoldeb ac at ddibenion dadansoddi dysgu ac fe'i cedwir am 6 blynedd ar ôl i chi adael y Brifysgol.

4. Os defnyddir Cerdyn Aber gan staff fel rhan o system amser a phresenoldeb, fe gedwir y data am 6 blynedd.

5. Wrth ddefnyddio Cerdyn Aber i fynd i mewn i adeiladau ac ystafelloedd fe fydd system drysau SALTO yn cynhyrchu data na ddefnyddir oni bai bod ei angen ar gyfer ymholiadau ystadegol, diogelwch, gweithdrefnau iechyd a diogelwch, ymchwilio i achosion o dorri rheoliadau neu archwiliadau'r heddlu. Cedwir y data hwn am 2 flynedd.

6. Wrth ddefnyddio Cerdyn Aber i brynu bwyd neu eitemau eraill ar y campws, fe gynhyrchir cofnod prynu a gedwir, yn unol â chofnodion ariannol eraill, am 7 mlynedd. Defnyddir y data hefyd am ddadansoddiadau ystadegol dienw, ond nid at ddibenion marchnata uniongyrchol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch sut y defnyddir eich data, cysylltwch â'r Rheolwr Diogelu Data yn infocompliance@aber.ac.uk

Am fwy o wybodaeth am sut mae'r Brifysgol yn diogelu data, gweler  https://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/dp