Graddio 2024 - Cynllunio eich Diwrnod
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi a’ch gwesteion i’r seremoni raddio. Isod ceir gwybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod.
Pan fyddwch yn cyrraedd, bydd ein tîm parcio yn eich tywys i’r lle parcio i westeion. Noder, bydd parcio Bathodyn Glas ar gael yn agos i Ganolfan y Celfyddydau gyda mynediad gwastad i’r adeilad*.
Wrth gynllunio eich dathliad, defnyddiwch yr amseroedd agor ar gyfer cofrestru a chasglu eich gwisg ar gyfer eich seremoni fel canllaw o ran yr adeg gynharaf y mae angen i chi fod ar y campws. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn ddigon cynnar er mwyn gallu cofrestru a chasglu eich gŵn heb orfod rhuthro.
Mae gwybodaeth am agweddau ffurfiol a seremonïol y Graddio ar gael ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.
Mae croeso i ffrindiau a theulu ychwanegol nad oes ganddynt docyn i ddod i’r Neuadd Fawr ddod i wylio’r seremonïau drwy gyfrwng ein ffrydio byw yn Sinema Canolfan y Celfyddydau neu yn Undeb y Myfyrwyr.
Noder, os bydd nifer fach o docynnau sbâr yn dod i law ar gyfer mynediad i’r Neuadd Fawr, bydd y rhain yn cael eu clustnodi ar sail y cyntaf i’r felin wrth y ddesg gofrestru. Yn y sefyllfa hon, caiff y tocynnau eu rhyddhau ar ôl i’r cofrestru ar gyfer y seremoni dan sylw ddechrau - bydd y tocynnau wedi’u cyfyngu i uchafswm o 2 i bob unigolyn sy’n graddio.
Campws Heb Arian Parod - Nodwch bellach fod y campws yn gweithredu heb arian parod – rydym yn derbyn cardiau debit neu gredyd.
*Os oes gennych chi, neu aelod o’ch grŵp unrhyw ofynion ychwanegol nad ydych wedi rhoi gwybod i ni amdanynt eisoes, cysylltwch â graduation.office@aber.ac.uk er mwyn i ni allu gwneud trefniadau priodol i’ch helpu cymaint â phosibl ar y diwrnod. Os ydych eisoes wedi rhoi gwybod am unrhyw ofynion ychwanegol, bydd ein Tîm Graddio yn cysylltu â chi ar wahân gyda gwybodaeth bellach.
Diweddarwyd: 30/05/2023