Cwestiynau Cyffredin
Mae ein Cwestiynau Cyffredin am raddio yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi a chynllunio ar gyfer graddio. Bydd y tudalennau hyn yn cael eu diweddaru yn y cyfnod cyn seremonïau mis Gorffennaf.
Diweddarwyd 13/06/2023
Cofrestru ar gyfer Graddio – Dod neu Beidio
1. A ydw i’n gymwys i ddod i’r seremoni raddio?
Rydych yn gymwys i ddod i’r seremoni raddio os byddwch wedi cwblhau eich gradd yn llwyddiannus cyn diwedd Mehefin neu wedi derbyn cymhwyster o Brifysgol Aberystwyth gydag eithrio Dysgu Gydol Oes a Chymraeg i Oedolion. Bydd gan gymwysterau Dysgu Gydol Oes a Chymraeg i Oedolion seremoni ar wahân. Bydd myfyrwyr a gwobrwy cymhwyster yn llwyddiannus ar ôl dechrau mis Gorffennaf yn gymwys i ddod i’r seremonïau graddio nesaf ym mis Gorffennaf y flwyddyn canlynol.
2. Sut mae cofrestru ar gyfer graddio?
Bydd yn ofynnol i bob myfyriwr sy'n gymmwys i ddod i seremonïau graddio Gorffennaf 2023 gofrestru p'un a hoffent ddod neu beidio trwy'r dasg 'Graddio' ar eu cofnod myfyriwr ar ddechrau mis Ebrill 2023. Mae hyn beth bynnag i chi ddweud wrthym ynglyn a fynychu o'r blaen. Byddwch yn derbyn e-bost ar ddechrau mis Ebrill gyda gwybodaeth bellach am y dasg.
Cewch ebost yn gofyn i chi fewngofnodi i’ch Cofnod Myfyriwr ar y we i gwblhau’r dasg 'Cofrestrwch ar gyfer Graddio'. Fe welwch fotwm o dan 'Fy Nhasgau' ar dudalen flaen eich cofnod myfyriwr erbyn diwedd wythnos cyntaf Ebrill. Os na chewch yr ebost hwn neu os na welwch y dasg ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we erbyn hynni cysylltwch â ni mewn e-bost at gaostaff@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth. Mae’n rhaid cwblhau’r dasg Cofrestru ar gyfer Graddio erbyn 28 Ebrill fan bellaf. Os na fyddwch wedi cwblhau’r broses Cofrestru ar gyfer Graddio erbyn y dyddiad hwn ni fydd modd i ni warantu lle i chi yn y seremoni raddio.
3. Beth os nad oes gennyf mynediad i fy Cofnod Myfyriwr ragor?
Mi ddylai bob myfyriwr a ddysgi’r bod a mynediad i’w Cofnod Myfyriwr ar y we ar yr amod eich bod yn defnyddio’r un e-bost myfyriwr a chyfrinair fel oedd gennych yn ystod eich cofrestriad.
Os nad oes gweinyddwch fynediad i'ch cofnod ragor, byddwn yn cysylltu â chi drwy eich cyfrif e-bost preifat a gofyn i chi ddefnyddio dolen bydd yn yr e-bost er mwyn cwblhau eich dewis Graddio.
Os nad ydych yn derbyn e-bost neu os nad oes gennych fynediad at eich Cofnod Myfyriwr dylech gysylltu gaostaff@aber.ac.uk am fwy o wybodaeth a chymorth bellach.
4. Beth os nad ydw i am ddod i’r seremoni?
Nid oes raid i chi ddod i’r seremoni. Cewch raddio in absentia; y cwbl sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau’r dasg Graddio ar eich Cofnod Myfyriwr ar-lein pan fydd ar gael. Mae’n hollbwysig eich bod yn cwblhau’r dasg hon er mwyn i ni wybod bod y manylion a argraffwn ar eich tystysgrif gradd yn gywir a’n bod yn ei phostio i’r cyfeiriad cartref cywir.
5. Rwyf wedi methu’r dyddiad cau i gofrestru ar gyfer graddio. Beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych am ddod i’r seremoni mae’n rhaid i chi gysylltu â ni ar unwaith drwy gaostaff@aber.ac.uk ac fe wnawn ein gorau i ddod o hyd i le i chi a’ch gwesteion, ond mae’n dibynnu faint o le sydd ar ôl yn eich seremoni. Yn eich ebost i rhowch eich enw llawn fel yr hoffech iddo ymddangos ar y dystysgrif, eich cyfeirnod myfyriwr a manylion eich cynllun astudio. Yn anffodus, os ydych yn cofrestru ar ôl 28 Ebrill ni allwn warantu lle i chi yn y seremoni raddio.
Os nad ydych am ddod i’r seremoni ond eich bod wedi methu’r dyddiad cau ar 28 Ebrill i roi gwybod i ni, anfonwch ebost i gaostaff@aber.ac.uk ar unwaith. Bydd angen i chi gadarnhau eich enw llawn fel yr hoffech iddo ymddangos ar y dystysgrif, eich cyfeirnod myfyriwr, manylion eich cynllun astudio a’r cyfeiriad lle’r hoffech i ni bostio eich tystysgrif.
6. A oes modd i mi ohirio dod i seremoni raddio?
Os nad ydych yn dymuno mynychu Graddio ym mis Gorffennaf eich blwyddyn olaf o astudio, caniateir i chi ohirio eich presenoldeb am flwyddyn yn unig a gofyn am ddod i Seremoni Raddio mis Gorffennaf y flwyddyn ganlynol. Fodd bynnag, i wneud hyn mae'n rhaid i chi gysylltu â Graduation.office@aber.ac.uk cyn y dyddiad cau, sef 28 Ebrill, i ofyn am gael eich gohirio. Os na fyddwch yn gofyn am gael eich gohirio neu os na fyddwch yn gwneud dim, ystyrir yn awtomatig eich bod wedi 'graddio yn absennol' ac ni fyddwch yn gallu dod i unrhyw seremoni yn y dyfodol.
7. A allaf ddewis pa seremoni yr wyf yn bresennol?
Na, yn anffodus, nid yw'n bosibl i fyfyrwyr ddewis y seremoni ydynt yn dymuno mynychu.
8. Rwyf eisoes wedi cael fy nhystysgrif gradd. A gaf fi ddod i seremoni serch hynny?
Cewch, os cofnodwyd eich bod eisiau mynychu seremoni, byddwch yn cael eich gwahodd i gofrestru yn swyddogol i fynychu. Os nodir eich bod eisiau Graddio yn absennol, ni fyddwch yn cael eich gwahodd i fynychu.
9. Methais y digwyddiad yn 2022. A gaf fi ddod i’r digwyddiad hwn?
Os bu i chi gysylltu chi â ni yn gaostaff@aber.ac.uk i ohirio dod i’r seremoni yn 2022 byddwch yn gymwys i ddod i’r seremoni raddio nesaf.
Os bu i chi ddweud eich bod yn mynd i fod yn bresennol ac na ddaethoch i’r seremoni, ni chewch ddod i seremoni arall yn y dyfodol.
Os na wnaethoch ddim byd y llynedd ac os na chawsom wybod gennych a oeddech yn bwriadu dod i’r seremoni raddio ai peidio byddwch yn awtomatig wedi graddio yn absennol ac ni chewch ddod i seremoni arall yn y dyfodol.
10. Mae’n bosib bod arna i arian i’r Brifysgol o hyd. A gaf fi ddod i’r seremoni?
Os oes arnoch chi arian ffioedd i’r Brifysgol ni chewch ddod i’r seremoni raddio na derbyn eich tystysgrif hyd nes y byddwch wedi talu eich dyledion. Mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod wedi talu eich holl ddyledion erbyn diwedd mis Mai. Os nad ydych yn siŵr a oes arnoch arian i’r Brifysgol fe’ch cynghorir i gysylltu â’r Swyddfa Ffioedd yn ffioedd@aber.ac.uk
11. Sut mae cael llythyr i gael fisa i ddod i'r seremoni raddio?
Ein Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol (e-bost: immigrationadvice@aber.ac.uk) sy’n ymdrin â llythyron gwahoddiad i seremonïau graddio. Cynigir y gwasanaeth hwn i fyfyrwyr yn unig sydd wedi gadael y DU ond sydd am ddychwelyd i Aberystwyth i ddod i’w seremoni raddio ym mis Gorffennaf. Ni all y Brifysgol ddarparu llythyrau gwahoddiad i deulu/ffrindiau darpar-raddedigion. Dylai teulu a ffrindiau wneud cais am ‘fisa ymweld’. Gweler yma https://www.gov.uk/standard-visitor-visa am ragor o wybodaeth.
Gwybodaeth am y Seremoni
1. Pryd y cynhelir y seremonïau?
Bydd Graddio 2023 yn digwydd yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau o’r 18fed i’r 20fed o Orffennaf, gyda wyth seremonï wedi’u cynllunio dros tri diwrnod.
Cyfeiriwch at y dudalen we Trefn y Seremonïau ar gyfer yr amserlen ar gyfer Graddio 2023.
2. Ble mae’r seremonïau’n cael eu cynnal?
Cynhelir yr holl seremonïau yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau ar Gampws Penglais yn Aberystwyth.
3. Beth yw’r trefniadau eistedd yn y seremoni?
Caiff y trefniadau eistedd eu cynllunio’n ofalus er mwyn i chi gyrraedd y llwyfan wrth i’ch enw gael ei alw. Bydd tîm o staff wrth law i’ch helpu i ddod o hyd i’ch sedd. Ar ôl i chi ddod o hyd i’ch sedd, peidiwch â newid sedd ag unrhyw un arall, oherwydd gallai hynny olygu bod yr enw anghywir yn cael ei alw pan fyddwch ar y llwyfan.
4. Beth os nad ydw i am ddod i’r seremoni?
Nid oes raid i chi ddod i’r seremoni. Cewch ddewis i beidio mynychu; y cwbl sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau’r dasg Graddio ar eich Cofnod Myfyriwr ar-lein pan fydd ar gael. Mae’n hollbwysig eich bod yn cwblhau’r dasg hon er mwyn i ni wybod bod y manylion a argraffwn ar eich tystysgrif yn gywir a’n bod yn ei phostio i’r cyfeiriad iawn.
5. Nid yw dyddiad fy seremoni’n gyfleus. A gaf fi ddod i seremoni arall?
Yn anffodus, nid yw’n bosib newid dyddiad eich seremoni. Os na allwch ddod ar y dyddiad a bennwyd byddwch yn graddio in absentia.
6. A fydd y seremoni yn cael ei ffrydio'n fyw?
Bydd yr holl seremonïau'n cael eu darlledu'n fyw ar ein gwefan raddio a gellir eu gwylio ar y rhyngrwyd. Bydd ein tudalennau gwe graddio yn cael eu diweddaru yn nes at y digwyddiad gyda gwybodaeth bellach.
Tocynnau
1. Sawl tocyn i westeion fydd ar gael i mi?
Bydd pob myfyriwr sydd wedi cofrestru i ddod i’r seremoni yn cael dau docyn i westeion. Bydd mynediad i'r seremoni ar gyfer yr holl westeion trwy docyn yn unig. Nid oes angen tocyn ar y myfyrwyr sy’n Graddio, cewch sedd yn y seremoni cyhyd â’ch bod wedi cwblhau’r dasg Graddio ar eich Cofnod Myfyriwr erbyn 28 Ebrill.
2. Ble fydda i’n casglu fy nhocynnau?
Bydd eich tocynnau gwesteion yn aros i chi eu casglu pan fyddwch yn cofrestru ar y campws ar ddiwrnod eich seremoni.
Darperir rhagor o fanylion ymlaen llaw ynghylch ble ar gampws Penglais y byddwch yn cofrestru
3. Beth os oes arnaf eisiau mwy na dau docyn i westeion?
Noder, os bydd nifer fach o docynnau sbâr yn dod i law ar gyfer mynediad i’r Neuadd Fawr, bydd y rhain yn cael eu clustnodi ar sail y cyntaf i’r felin wrth y ddesg gofrestru. Yn y sefyllfa hon, caiff y tocynnau eu rhyddhau ar ôl i’r cofrestru ar gyfer y seremoni dan sylw ddechrau - bydd y tocynnau wedi’u cyfyngu i uchafswm o 2 i bob unigolyn sy’n graddio.
Er mai nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael i’r Neuadd Fawr, gallwch ddod â rhagor o deulu a ffrindiau gyda chi i’r digwyddiad, oherwydd, bydd y seremoni’n cael ei ffrydio’n fyw i leoliadau ar y campws. Felly hyd yn oed os nad oes modd i’ch teulu a’ch ffrindiau gael tocyn ychwanegol, byddant yn dal i allu bod yn rhan o’ch diwrnod arbennig. Mantais gwylio’r seremonïau yn fyw ar sgrin ar y campws yw bod eich ffrindiau a’ch teulu yn rhydd i godi a symud o gwmpas yn ystod y seremoni.
Eich Gwisg/Gŵn
1. Oes raid i mi wisgo gwisg/gŵn i’r seremoni?
Oes. Er mwyn cael dod i’r seremoni mae’n RHAID i chi wisgo gwisg/gŵn. Os na fyddwch yn gwisgo gwisg/gŵn ni chewch ddod i’r seremoni.
2. Oes angen i mi archebu gwisg/gŵn cyn y seremoni raddio?
Oes. Mae’n rhaid i chi archebu eich gwisg/gŵn cyn y seremoni er mwyn sicrhau y bydd un ar gael i chi ar y diwrnod. I archebu eich gwisg/gŵn ewch i Gŵn ar y wefan hon.
3. Pryd fydda i’n casglu fy ngwisg/gŵn?
Byddwch yn casglu eich gwisg/gŵn ar ddiwrnod eich seremoni yn adeilad Parry Williams ar Campws Penglais. Bydd staff wrth law i ddangos i chi ble mae’r ardal wisgo.
Amser cychwyn y Seremoni |
Casglu gwisg/gŵn |
10.00yb |
8.00yb - 9.15yb |
1.30yp |
10.30yb - 12.45yp |
4.30yp |
1.30yp - 3.45yp |
Bydd yr amser y mae'n rhaid dychwelyd eich gŵn ar y diwrnod yn cael ei gadarnhau wrth archebu gyda'r cyflenwyr gŵn.
4. Beth fydd ei angen arnaf er mwyn casglu fy ngwisg/gŵn?
Bydd angen i chi gyflwyno cerdyn adnabod ffoto (ee Cerdyn Aber), pan fyddwch yn dymuno casglu eich gwisg/gŵn. Bydd hefyd angen i chi gael mynediad i'ch negeseuon e-bost oddi wrth y cwmni llogi gŵn yn achosion prin le mae ymholiad gyda'ch archeb.
5. Sut mae gwisgo fy nghap a’m gwisg?
Bydd y staff gwisgoedd wrth law i’ch helpu ac i wneud yn siŵr eich bod wedi’ch gwisgo’n iawn. Er mwyn i chi fod yn gyfforddus ac am resymau ymarferol rydym yn argymell eich bod yn gwisgo top neu grys-t â botymau sy’n cau hyd at y gwddf, oherwydd bydd hynny’n ei gwneud yn haws rhoi eich cwfl yn sownd. Byddai’n dda o beth hefyd dod â chlipiau gwallt i gadw’r cap yn ei le.
Diwrnod Graddio
1. Pa amser y ddylwn i gyrraedd ar y diwrnod?
Dylech gyrraedd yn ddigon cynnar er mwyn rhoi digon o amser i chi'ch hun gwblhau'r cofrestriad a chasglu'ch gwisg heb orfod rhuthro. Cofiwch y bydd yn brysur ac efallai y bydd yn rhaid i chi giwio ar gyfer cofrestru a gwisgoedd. Mae amserlen amlinellol y diwrnod i'w gweld isod; anfonir rhagor o wybodaeth at y rhai sy'n mynychu yn agosach at yr amser.
Amser cychwyn y seremoni |
Casglu gwysig/gŵn |
Cofresru |
Ymarfer Seremoni (myfyrwyr / graddedigion yn unig) |
Mynediad gwestai |
10.00yb |
8.00yb – 9.15yb |
8.00yb – 9.00yb |
Drysau'n agor 9.00yb Ymarfer 9.20yb |
0 9.30yb |
1.30pm |
10.30yb - 12.45yp |
10.30yb – 12.30yp |
Drysau'n agor 12.30yp Ymarfer 12.45yp |
O 1.00yp |
4.30pm |
1.30yp – 3.45yp |
2.00yp – 3.30yp |
Drysau'n agor 3.30yp Ymarfer 3.45yp |
O 4.00yp |
Nodwch yr amseriadau sy'n berthnasol i'ch seremoni arbennig chi; mae'n bwysig cyflwyno'ch hun ar yr amser cywir ar gyfer cofrestru, gwisgo ac ymarfer.
Gwybodaeth bellach: Cynllunio eich Diwrnod
2. Pryd mae angen i mi fod yn y Neuadd Fawr?
Gofynnir i chi ddod i’r ymarferion yn y Neuadd Fawr cyn dechrau’r seremoni. Gallwch weld yr amserlen ar gyfer ymarferion o dan ‘Pa amser ddylwn i gyrraedd ar y diwrnod’ uchod.
3. Beth wnaf fi gyntaf?
Y peth cyntaf i’w wneud fydd cofrestru. Darperir rhagor o fanylion ymlaen llaw ynghylch ble ar Gampws Penglais y byddwch yn cofrestru.
4. Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n hwyr?
Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr ac rydych wedi colli cofrestru dylech fynd draw i'r Ddesg Gofrestru ar unwaith lle bydd staff wrth law i helpu.
5. Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cofrestru?
Wrth gofrestru cewch gerdyn adnabod a’ch enw a rhif eich sedd arno â'ch tocynnau gwesteion. Cadwch eich cerdyn adnabod yn ddiogel oherwydd bydd angen i chi ei roi i’r Prif Farsial wrth i chi fynd i’r llwyfan i dderbyn eich cymhwyster yn y seremoni.
6. Ble a phryd ddylwn i gasglu fy nghap a’m gwisg/gŵn?
Dylai myfyrwyr darpar-raddedig sy’n derbyn gradd Aberystwyth llogi Gwisg Academaidd – gweler Gŵn ar y wefan hon i gael rhagor o wybodaeth.
7. Sut fydda i’n gwybod beth i’w wneud yn ystod y seremoni?
Rydym yn cynnal ymarferion yn y Neuadd Fawr ar gyfer pob seremoni. Gofynnir i chi gyflwyno eich hun ar gyfer eich ymarfer cyn y seremoni. Bydd myfyrwyr yn eistedd yn y Neuadd Fawr 45 munud cyn i'r seremoni ddechrau (9.20yb ar gyfer seremonïau 10.00yb, 12.45yp ar gyfer seremonïau 1.30yp a 3.45yp ar gyfer seremonïau 4.30yp).
Mae'n hanfodol i bob myfyriwr fynychu eu hymarfer i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r modd y cynhelir y seremonïau. Mae ymarferion yn para tua hanner awr. Sicrhewch eich bod yn eistedd yn y rhif sedd gywir fel y dangosir ar eich cerdyn adnabod y byddwch wedi'i gasglu pan wnaethoch gofrestru.
8. A gaf fi ddewis ble i eistedd yn y seremoni?
Na chewch. Mae’n bwysig eich bod yn eistedd yn y sedd a glustnodwyd i chi. Dangosir rhif eich sedd ar eich cerdyn adnabod a roddir i chi wrth gofrestru. Mae’n bwysig cadw’r cerdyn yn ddiogel oherwydd gofynnir i chi ei roi i’r Prif Farsial cyn i chi fynd ar y llwyfan. Os nad ydych yn siŵr ym mha sedd y dylech eistedd bydd aelod o’r staff wrth law i’ch helpu.
9. Beth fydd ei angen arnaf yn y seremoni?
Bydd yn rhaid i chi fod wedi’ch gwisgo’n briodol yn eich gwisg. Gwnewch yn siŵr bod eich cerdyn adnabod gennych (cewch hwn wrth gofrestru); bydd yn rhaid i chi ei roi i’r Prif Farsial cyn mynd ar y llwyfan.
Cofiwch na fyddwch o reidrwydd yn mynd yn ôl i’r un sedd ar ôl cael eich gradd. Felly gwell fyddai peidio mynd â bagiau llaw, camerâu ac ati gyda chi i’r seremoni.
10. Beth fydd yn digwydd yn y seremoni?
Yn y seremoni, cewch eich “cyflwyno” i’r Is-Ganghellor gan Gyflwynydd a fydd yn darllen eich enw ac enwau eich cyd-fyfyrwyr sy’n derbyn yr un radd. Pan glywch eich enw, byddwch yn croesi’r llwyfan a bydd yr Is-Ganghellor yn codi ei chap i chi. Yna byddwch yn mynd yn ôl i eistedd. Pan fydd pawb wedi cael y radd benodol honno, gofynnir i chi sefyll a derbyn Cyfarchion Is-Ganghellor y Brifysgol. Caiff y broses hon ei hegluro i chi yn yr ymarfer cyn eich seremoni.
Y Drefn:
- Bydd Marsial yn dod i’ch nôl chi o’ch seddi pan fydd yn bryd i chi fynd ar y llwyfan i’ch cyflwyno i’r Is-Ganghellor.
- Dilynwch y Marsial ac arhoswch mewn drefn.
- Bydd y Cyflwynydd yn darllen enwau’r myfyrwyr i gyd.
- Pan glywch eich enw byddwch yn cerdded tuag at yr Is-Ganghellor.
- Bydd y Marsialiaid yn mynd â chi’n ôl i eistedd.
Pan fydd pawb wedi’u cyflwyno ar gyfer cymhwyster penodol (e.e.. pob ymgeisydd BA), gofynnir i’r holl fyfyrwyr sefyll i dderbyn eu gradd gan yr Is-ganghellor a derbyn Cyfarchion Llywydd y Brifysgol.
11. A gaf fi adael cyn gynted ag y byddaf wedi derbyn fy nghymhwyster?
Heblaw mewn argyfwng, mae disgwyl i’r myfyrwyr aros yn eu seddi drwy gydol y seremoni.
12. Am ba hyd y bydd y seremoni’n parhau?
Bydd y seremoni’n para tuag 1 awr ac 20 munud. Mae ymarfer 30 munud cyn pob seremoni lle mae’n rhaid i’r myfyrwyr fod yn bresennol. Rhaid i’r myfyrwyr fod yn eu seddi yn y Neuadd Fawr 45 munud cyn i’r seremoni ddechrau (9.20am ar gyfer seremonïau 10.00yb, 12.45yp ar gyfer seremonïau 1.30yp a 3.45yp ar gyfer seremonïau 4.30yp).
13. Sut mae cael rhaglen i gofio’r digwyddiad a faint maen nhw’n ei gostio?
Bydd rhaglenni wedi’u hargraffu ar gael i chi wrth gofrestru ac wrth fynedfeydd y Neuadd Fawr. Maent am ddim i’r myfyrwyr a’u gwesteion.
14. Ydy’r seremoni’n cael ei recordio ac ydy fy enw i yn y rhaglen goffa?
Dylai, dylai myfyrwyr, gwesteion a staff sy'n mynychu graddio fod yn ymwybodol bod cynulleidfaoedd graddau a gwobrau yn cael eu hystyried yn ddigwyddiadau cyhoeddus.
Cyhoeddir enwau a gwobrau (gan gynnwys y rhai sy'n derbyn eu dyfarniad yn absennol) yn y rhaglen.
Mae delweddau Clywedol a Gweledol o'r gynulleidfa ar gael i'r cyhoedd trwy lif byw ar y we.
15. A gaf fi gasglu fy nhystysgrif ar y diwrnod?
Os cwblhewch eich gradd ym mis Mehefin, gellir casglu tystysgrifau ar ddiwrnod eich seremoni, a bydd rhagor o wybodaeth am ble i gasglu eich tystysgrif yn cael ei darparu cyn y seremoni. Os nad ydych yn mynychu Graddio, bydd eich tystysgrif yn cael ei phostio o fewn 6 wythnos i'r seremoni.
15. Beth fydd yn digwydd ar ôl y seremoni?
Yn syth wedi’r seremoni, fe’ch gwahoddir i ymgynull ar risiau La Scala, y tu allan i Ganolfan y Celfyddydau, ar gyfer lluniau adrannol. Mae'r rhan fwyaf o adrannau'n cynnal eu derbyniadau eu hunain, naill ai cyn neu ar ôl y seremoni. Bydd eich adran yn cysylltu â chi yn uniongyrchol.
Ffotograffiaeth Swyddogol
Bydd Ffotograffwyr Graddio Swyddogol y Brifysgol yn cynnig gwasanaeth galw heibio trwy gydol y dydd, heb fod angen archebu ymlaen llaw.
Gwesteion ac Ymwelwyr
1. Ble mae’r seremoni’n cael ei chynnal?
Cynhelir y seremoni ar brif Gampws Penglais y Brifysgol yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau. Gweler mapiau a theithio.
2. Ble y dylen ni gasglu ein tocynnau i westeion?
Mae'r tocynnau gwesteion yn cael eu rhoi i'r myfyriwr pan fyddant yn cofrestru gyda'r Ddesg Gofrestru Graddio cyn y seremoni. Bydd presenoldeb yn y seremoni trwy docyn yn unig, fodd bynnag, gall gwesteion yn dal i ddod draw i fwynhau'r diwrnod gan fod yr holl seremonïau yn cael eu ffrydio'n fyw ar sgriniau mawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Sinema ac Undeb y Myfyrwyr.
3. A gaf fi a’m gwesteion dynnu lluniau yn ystod y seremoni?
Cewch, cewch chi a’ch gwesteion dynnu lluniau yn ystod y seremoni.
4. Ble fydda i a’m gwesteion yn parcio?
Bydd staff wrth law i gyfeirio ymwelwyr at y meysydd parcio ar y campws a gerllaw. Caiff rhan o faes parcio Canolfan y Celfyddydau ei neilltuo i ddeiliaid trwydded anabl. Bydd gwasanaeth bws ar gael i ymwelwyr sy’n parcio yn y meysydd parcio sydd bellaf oddi wrth Ganolfan y Celfyddydau.
5. A oes darpariaeth i westeion anabl?
Gofynnir i fyfyrwyr y mae gan eu gwesteion ofynion arbennig gwblhau’r adran 'Gofynion Arbennig’ yn nhasg Graddio’r Cofnod Myfyriwr yn ystod mis Ebrill, a rhoi cymaint o wybodaeth ag y gallant er mwyn i ni sicrhau ein bod yn gwneud trefniadau priodol. Bydd aelod o staff y Brifysgol hefyd yn cysylltu â chi yn nes at yr adeg y seremonïau i gadarnhau'r trefniadau. Dylai myfyrwyr sy’n cael trafferth agor y dasg hon gysylltu ag gaostaff@aber.ac.uk a rhoi manylion y gofynion arbennig.
6. Beth fydd yn digwydd ar ôl y seremoni?
Yn syth wedi’r seremoni, gwahoddir myfyrwyr i ymgynull ar risiau La Scala, y tu allan i Ganolfan y Celfyddydau, ar gyfer lluniau. Mae'r rhan fwyaf o adrannau'n cynnal eu derbyniadau eu hunain, naill ai cyn neu ar ôl y seremoni. Bydd eich adran yn cysylltu â chi yn uniongyrchol.
7. A oes gan y Brifysgol unrhyw lety ar gael i ymwelwyr sy'n mynychu Graddio?
I gael rhagor o wybodaeth am argaeledd llety'r Brifysgol dros y cyfnod graddio, ewch i'r dudalen we Llety Graddio. Mae archebion ar gyfer llety’r Brifysgol yn cael eu rheoli gan Swyddfa Gynadleddau’r Brifysgol (cynadleddau@aber.ac.uk/ 01970 621960).
8. A oes lleoedd i fwyta?
Mae sawl lle i fwyta ar y campws ac yn y dref. Mae rhagor o wybodaeth am safleoedd ar y campws ar gael ar dudalennau gwe'r Gwasanaethau Croeso. Nodwch bellach fod y campws yn gweithredu heb arian parod – rydym yn derbyn cardiau debit neu gredyd.
9. A allaf ddod â'm ci i’r seremoni raddio?
Polisi'r Brifysgol, yn amodol ar eithriadau cyfyngedig, yw na chaniateir anifeiliaid yn ei gweithleoedd na'i llety preswyl. Felly, ac eithrio anifeiliaid cymorth, nodwch na fydd hi’n bosibl dod â'ch ci i'r campws ar gyfer y seremoni raddio. Yn unol â Pholisi’r Brifysgol 'Anifeiliaid ar y Campws' ni ddylid gadael unrhyw anifeiliaid mewn cerbydau wedi'u parcio ar y campws ac ni ddylid clymu anifeiliaid y tu allan i adeiladau. Os byddwch chi, neu un o'ch gwesteion, yn dod ag anifail cymorth, nodwch hyn yn yr adran gofynion arbennig ar gyfer eich archeb i'n helpu wrth gynllunio trefniadau eistedd a darparu gwybodaeth cyn y diwrnod.
Tystysgrifau Gradd
1. Pryd byddai yn derbyn fy nhystysgrif?
Os cwblhewch eich cwrs ar ddiwedd Semester 2 bydd eich Tystysgrif dyfarniad ar gael i chi gasglu ar ol eich seremoni.
Os byddwch yn cwblhau eich cwrs ac yn derbyn eich canlyniadau ar unrhyw adeg arall o'r flwyddyn (felly nid ym mis Mehefin), dylech fod wedi derbyn eich tystysgrif dyfarniad drwy'r post i'r cyfeiriad cartref a gofnodwyd ar eich cofnod myfyriwr.
2. I ble y caiff fy nhystysgrif ei phostio?
Caiff y dystysgrif ei phostio i’r cyfeiriad cartref sydd ar eich Cofnod Myfyriwr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio manylion eich cyfeiriad cyn diwedd eich cwrs er mwyn sicrhau ein bod yn ei phostio i’r cyfeiriad iawn.
3. Mae 6 wythnos ers y seremoni a dyw fy nhystysgrif ddim wedi cyrraedd eto.
E-bostiwch eich manylion i’r Swyddfa Graddio: gaostaff@aber.ac.uk
4. Mae fy nhystysgrif ar goll neu wedi ei dinistrio. Sut mae cael un arall yn ei lle?
Prifysgol Aberystwyth
Gall graddedigion a chanddynt radd Prifysgol Aberystwyth o 2010 ymlaen gael tystysgrif newydd drwy https://shop.aber.ac.uk/product-catalogue/gwasanaethau-services/cofrestrfa-academaiddgweinyddiaeth-myfyrwyr-academic-registrystudent-administration/tystysgrif-gradd-newydd-replacement-degree-certificate
Prifysgol Cymru
Gall graddedigion a chanddynt radd Prifysgol Cymru gael tystysgrif newydd drwy gysylltu â Chofrestrfa Prifysgol Cymru. Cewch wybod sut i gael eich tystysgrif drwy glicio ar y ddolen Tystysgrifau Newydd.