Gŵn

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr sy'n graddio wisgo'r wisg academaidd gywir yn eu seremoni raddio.

Ede & Ravenscroft yw gwneuthurwyr gwisgoedd swyddogol y Brifysgol.

Bydd safle archebu Ede & Ravenscroft yn agor ddydd Gwener 7 Mehefin.

Y dyddiad cau ar gyfer archebu eich gŵn yw dydd Sul 7 Gorffennaf am hanner nos.

Sut i archebu eich gwisg Academaidd

Ar Wefan Graddio Ede & Ravenscroft, rhowch ‘Prifysgol Aberystwyth’ yn y blwch Manylion y Sefydliad a dewiswch y seremoni rydych wedi cofrestru ar ei chyfer.

Gofynnir ichi fewnbynnu:

  • manylion eich dyfarniad (gweler y tabl isod am arweiniad)
  • eich taldra, maint eich brest a maint eich pen/het (ceir canllawiau ar sut i fesur y rhain ar wefan Ede & Ravenscroft).
Gwobr Sylfaen FDSC; FDA
Tystysgrifau a Diplomâu Israddedig Tystysgrif Addysg Uwch (CHE); Diploma Addysg Uwch (DipHE)
Graddau Baglor Israddedig BA; BSc; BSc Econ; BEng; LLB
Tystysgrifau a Diplomâu Ôl-raddedig Tystysgrif Uwchraddedig y Brifysgol (UCRT); Diploma Uwchraddedig y Brifysgol (UDip); PGCE; PRGCE; PCE
Meistr Integredig MBiol; MEng; MComp; Mphys; MMath
Graddau Meistr MA; MSc; MSc Econ; LLM; MRes; MBA; MProf; MAG; EMBA
Meistr Mewn Athroniaeth MPhil
Doethuriaethau PhD; DProf; PhDFA; PhDPW

(Sylwer, oni nodir yn wahanol, mae delweddau ar dudalennau gwe Ede & Ravenscroft yn generig ac nid ydynt yn adlewyrchu lliwiau penodol gwisg academaidd Prifysgol Aberystwyth).

Costau llogi

Bydd manylion y costau llogi i’w gweld ar wefan Ede & Ravenscroft pan fydd y safle archebu yn fyw ar ddydd Gwener 7 Mehefin 2024.

Dyma’r costau llogi ar gyfer seremonïau 2024:

Tystysgrifau a Diplomâu Israddedig £44
Graddau Baglor Israddedig £48
Tystysgrifau a Diplomâu Ôl-raddedig £48
Graddau Meistr, Meistr Integredig ac MPhil £56
Doethuriaethau £60

Mewn amgylchiadau eithriadol, gwneir darpariaeth ar gyfer archebion hwyr (ar ôl 17.00 ddydd Llun 1 Gorffennaf) ar ddiwrnod y seremoni.
  
Bydd manylion y dewisiadau llogi estynedig a phrynu i’w gweld ar dudalennau gwefan Ede & Ravenscroft pan fydd y safle’n fyw.

Cyn y Seremoni

Bydd y gwisgoedd a archebwyd ar gael yn yr ystafell wisgoedd yn Stiwdio Gerallt Jones, Adeilad Parry Williams (Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu), cyn y seremonïau a dylid eu dychwelyd yno wedyn.

Rhaid dychwelyd y gwisgoedd sydd wedi’u llogi i Stiwdio Gerallt Jones ar ddiwrnod eich graddio.

Ceir o hyd i ragor o wybodaeth am amserlen y diwrnod, gan gynnwys amseroedd casglu a dychwelyd eich gwisg, yn yr adran ‘Cynllunio Eich Diwrnod’ ar y tudalennau gwe Graddio. 

Gwybodaeth i Staff

Mae gwybodaeth i staff sy'n dymuno cymryd rhan yn yr orymdaith academaidd, gan gynnwys archebu gŵn, ar gael ar dudalen we ‘Gorymdaith Swyddogion a Staff y Brifysgol’.

Gwasanaethau Ffotograffiaeth

Ceir rhagor o wybodaeth am y Gwasanaethau Ffotograffiaeth a gynigir gan Ede & Ravenscroft yn yr adran Lluniau Swyddogol ar y tudalennau gwe Graddio.

Diweddarwyd: 07/06/24

Sylwer bod gan y Brifysgol berthynas fasnachol â Ede & Ravenscroft ac mae’n derbyn comisiwn yn seiliedig ar y nifer o gynau â archebwyd. Mae hyn yn ein galluogi i gynnal y seremonïau graddio heb godi costau tocynnau. Serch hynny, fe gewch ddefnyddio cyflenwyr eraill os dymunwch wneud hynny.