Ffotograffiaeth Goffa
Yn ystod wythnos y graddio bydd Ede & Ravenscroft yn cynnig ffotograffau portread yn stiwdio Adeilad Parry Williams.
Bydd y safle ar gyfer archebu sesiynau lluniau portread yn agor ddydd Gwener 7 Mehefin ac yn cau ar gyfer archebion ddydd Llun 8 Gorffennaf 17:00. Bydd modd cael sesiynau portread ar y diwrnod hefyd, ond mae’n bosib y bydd angen aros yn hirach.
Bydd manylion y pecynnau lluniau portread ar gael ar dudalennau gwe Ede & Ravenscroft pan fydd y safle archebu yn agor.
Gweld eich opsiynau ac archebu
Cynllunio eich diwrnod
Cyn cael lluniau swyddogol bydd angen i chi gasglu eich gŵn a archebwyd ymlaen llaw. Mae manylion amserlen eich seremoni raddio i’w gweld yn yr adran ‘Cynllunio Eich Diwrnod’ ar y tudalennau gwe graddio. Gallwch gael tynnu’ch lluniau cyn, neu ar ôl, eich seremoni, sy'n rhoi hyblygrwydd i’ch trefniadau chi ar y diwrnod.
Yn ogystal â’r lluniau portread a dynnir yn Adeilad Parry Williams, bydd lluniau eraill a dynnir gan Ede & Ravenscroft i goffáu’r diwrnod, gan gynnwys:
- lluniau o’r cyflwyno wrth i fyfyrwyr groesi'r llwyfan yn y Neuadd Fawr yn ystod y seremoni;
- llun grŵp mawr o'r carfan sy'n graddio, a dynnir fel arfer ar ôl y seremoni ar risiau LaScala o flaen Canolfan y Celfyddydau.
Bydd y lluniau hyn ar gael i’w gweld a’u prynu ar ôl y seremoni a byddant yn cael eu huwchlwytho i wefan Ede & Ravenscroft ar ôl y digwyddiad.
Gŵn
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr sy'n graddio wisgo'r wisg academaidd gywir yn eu seremoni raddio. Mae rhagor o wybodaeth am sut i archebu eich gwisg cyn y diwrnod ar gael yn yr adran am wisgoedd ar ein tudalennau gwe.
Diweddarwyd: 07/06/24
Sylwer bod gan y Brifysgol berthynas fasnachol â Ede & Ravenscroft ac mae’n derbyn comisiwn yn seiliedig ar y nifer o gynau â archebwyd. Mae hyn yn ein galluogi i gynnal y seremonïau graddio heb godi costau tocynnau.