Proffiliau Staff - Cyfleoedd Byd-eang
Mae’r tîm Cyfleoedd Byd-eang yn cynnig ystod o opsiynau cyffrous i fyfyrwyr Aberystwyth i fynd dramor fel rhan o’u gradd. O gyrsiau byr, gwirfoddoli i gyfleoedd Gwaith neu interniaeth am un tymor, neu flwyddyn gyfan yn astudio dramor yn un o’n prifysgolion partner. Mae’r tîm yn rheoli’r cysylltiadau partner a’r ffynonellau ariannu sy’n galluogi profiadau tramor o’r fath. Mae’r tîm Cyfleoedd Byd-eang hefyd yn trefnu profiadau byr-dymor i gannoedd o fyfyrwyr o bob cwr o’r byd. Mae’r myfyrwyr hyn yn rhai sy’n ariannu’u huain, sy’n cael eu hariannu gan eu sefydliad, neu’n cael y profiad yn rhad ac am ddim fel rhan o gytundeb sy’n hwyluso cyfnodau cyfnewid rhwng prifysgolion. Maent yn dod i Aberystwyth i fynychu cwrs byr, ysgol haf, neu gyfnod o un tymor neu flwyddyn gyfan. bydeang@aber.ac.uk
Llun | Enw | Rôl | Ebost | Ffôn |
---|---|---|---|---|
Mrs Pamela Heidt | Global Opportunities Operations Manager | pah21@aber.ac.uk | +44 (0) 1970 628719 | |
Sarah Hosker | Global Opportunities Inbound Officer | sah116@aber.ac.uk | +44 (0) 1970 622364 | |
Miss Kirsten Foerster | Global Opportunities Outound Officer | kif12@aber.ac.uk | +44 (0) 1970 622364 |