Proffiliau Staff - Marchnata a Chyfryngau Creadigol

Mae Marchnata a Chyfryngau Creadigol yn gyfrifol am ymgyrchoedd marchnata, y gwasanaeth dylunio creadigol, cyhoeddiadau print, cynnwys gwe sy’n ymwneud â recriwtio, a brandio a hunaniaeth weledol y Brifysgol. Nod y Tîm yw cefnogi gweithgarwch marchnata sy’n gysylltiedig â recriwtio ar draws yr holl farchnadoedd a chyfryngau creadigol.