Miss Evan Smith
Proffil
Dyddiad ymuno a swydd flaenorol
Ymunodd Evan ag YBA ym mis Awst 2023. Cyn hynny, bu’n gweithio yn Adran Gyllid Prifysgol Aberystwyth. Bu’n gweithio ar gysoni banc, uwchlwytho cyfnodolion cyllid, a helpu aelodau staff gydag ymholiadau ynghylch y systemau cyllid a ddefnyddir.
Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol
Yn ystod cyfnod Evan yn gweithio ym maes Cyllid, bu’n hyfforddi gyda thimau gwahanol o fewn yr adran. Gweithiodd hefyd i gasglu dyledion myfyrwyr, gan helpu'r myfyrwyr gydag unrhyw gwestiynau oedd ganddynt pan oedd angen.
Addysg a phrofiad gwaith
BSc mewn Seicoleg o Brifysgol Bangor - Dosbarth Cyntaf (2022).
MSc mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol o Brifysgol Bangor - Rhagoriaeth (2023).
Bu'n gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth fel glanhawraig, yna o fewn yr adran gyllid.
Profiad a gwybodaeth
Caniataodd cyfnod Evan fel myfyriwr yn y brifysgol iddi ddatblygu sgiliau craidd cryf, gan gynnwys rheoli amser, trefniadaeth a hunan-gymhelliant. Roedd y sgiliau hyn yn hollbwysig yn ystod ei gradd meistr yn arbennig, gan fod y rhan fwyaf o’i gwaith yn hunan-gychwynnol.
Rhoddodd gweithio o fewn yr adran gyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth gyfle iddi wella’r sgiliau hyn a’u cymhwyso i amgylchedd gwaith proffesiynol. Gwellodd ar ei sgiliau cyfathrebu, gan fod llawer o'i thasgau'n cynnwys helpu staff a myfyrwyr gydag unrhyw ymholiadau oedd ganddynt. Roedd hi hefyd yn gallu gweithio ar sgiliau gweinyddol, gan gynnwys cymryd cofnodion, yn ogystal â threfnu ac ymateb i e-byst.
Prif gyfrifoldebau o fewn YBA
Fel cynorthwyydd gweinyddol ymchwil, mae Evan yn darparu cymorth gweinyddol i'r adran mewn ystod o feysydd. Mae hi'n cynorthwyo gyda chydlynu a rheoli gweithgareddau prosiect, cyfarfodydd a digwyddiadau. Mae hi hefyd yn rheoli trafodion ariannol sy'n ymwneud â gweithgareddau adran a phrosiect, ac yn hwyluso cyfathrebu rhwng aelodau tîm y prosiect, rhanddeiliaid, a phartneriaid mewnol ac allanol i'r brifysgol.
Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae Evan yn mwynhau dod i adnabod yr holl bobl a’r prosiectau gwahanol sy’n ymwneud ag YBA, a gallu helpu gyda threfnu’r cyfan o ddydd i ddydd.