Laniard Enfys LHDTC+

 

Mae Laniard LHDTC+ Prifysgol Aberystwyth wedi’u seilio ar Faner yr Enfys a’r Faner Cynnydd, gan ddathlu a hyrwyddo ein hymrwymiad i fod yn lle croesawgar, cynhwysol a chefnogol i bawb – waeth beth fo’u hunaniaeth rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol.

Mae gwisgo laniard enfys naill ai fel person LHDTC+ neu fel cyfaill, yn ffordd amlwg o ddangos eich cefnogaeth a'ch undod â'r gymuned LHDTC+ ac ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Yn bwysig, trwy wisgo laniard, rydych chi'n addo ac yn rhoi gwybod i gydweithwyr a myfyrwyr:

  • eich bod yn berson diogel iddynt siarad ag ef a'ch bod yn fodlon eu cefnogi os oes angen.
  • byddwch yn helpu i greu amgylchedd diogel a chynhwysol o fewn eich tîm a'ch adran.
  • byddwch yn codi llais yn erbyn lleferydd casineb a gwahaniaethu yn erbyn pobl LHDTC+.

 

Laniard Baner yr Enfys 

Dyma fersiwn y Faner Pride yr ydym i gyd yn ei hadnabod heddiw, ac fe’i defnyddir yn symbol o fudiadau cyffredinol LHDTCRh+ Pride a mudiadau cymdeithasol LHDTCRh+ - a’i gwisgo gan fyfyrwyr a staff gyda balchder ac i gefnogi ein cymuned LHDTCRh+. 

Lluniwyd baner yr enfys yn wreiddiol gan yr artistiaid Gilbert Baker, Lynn Segerblom a James McNamara ym 1978 ac fe’i chwifiwyd am y tro cyntaf yng Ngorymdaith Diwrnod Rhyddid Hoyw San Francisco ar 25 Mehefin.  Wyth lliw oedd i’r dyluniad gwreiddiol, gan ddechrau gyda phinc poeth ar y brig, a phob lliw ag ystyr benodol, er bod y rhan fwyaf o’r amrywiadau heddiw yn dangos y faner gyda chwe lliw traddodiadol yr enfys, a’r lliw coch bob amser ar y brig.   Roedd yr wyth lliw gwreiddiol yn cynrychioli (o'r brig i'r gwaelod): pinc poeth (rhyw), coch (bywyd), oren (iachâd), melyn (golau'r haul), gwyrdd (natur), gwyrddlas (hud), indigo (llonyddwch), fioled (ysbryd). 

Mae’r laniard Baner yr Enfys ar gael i aelodau staff i’w gasglu o'r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddelweddu.

 

Laniard Baner Cynnydd 

Ar hyn o bryd Baner Pride Cynnydd Rhyngryw yw'r faner fwyaf cynhwysol ar gyfer y gymuned LHDTCRhA, ag ystyr benodol i’r lliwiau, y llinellau onglog a’r cylch.  

Yn 2017, ychwanegodd Swyddfa Materion LHDT Philadelphia streipiau du a brown at y faner Pride wreiddiol, sef Baner yr Enfys, i gydnabod pobl o liw.  Flwyddyn yn ddiweddarach, ailgynlluniwyd baner Pride gan artist o'r enw Daniel Quasar, a’i galw’n faner Pride Cynnydd, a rannwyd yn eang ar y cyfryngau cymdeithasol.  Roedd yn cynnwys streipiau du a brown (i gynrychioli pobl o liw oedd ar gyrion y gymuned LHDTCRhA+), stribedi pinc, glas golau a gwyn (i gynrychioli'r gymuned drawsryweddol), a hefyd yn cynrychioli'r rhai sy'n byw gydag HIV ac AIDS.  Esboniodd Quasar fod y saeth yn pwyntio i'r dde i ddangos y symud ymlaen, tra'i bod yn gorwedd ar hyd yr ymyl chwith i ddangos bod lle eto i gynnydd.   

Yn 2021, rhannodd Valentino Vecchietti o Intersex Equality Rights UK, fersiwn wedi'i diweddaru o’r faner Pride Cynnydd, a oedd yn cynnwys triongl melyn a chylch porffor i gynrychioli'r gymuned ryngrywiol, gan greu Baner Pride Cynnydd Rhyngryw.  

Mae’r Laniard Baner Cynnydd yn cael i roi i aelodau staff sy’n arwain, hyrwyddo ac yn cefnogi’r gwaith LHDTCRhA+ gynhwysol yn y Brifysgol.