Athena Swan
Rydym yn falch o fod wedi ennill Gwobr Efydd Athena SWAN (Medi 2023) sy'n cydnabod ein hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb o ran rhywedd ar draws y Brifysgol.
Dyma gais Prifysgol Aberystwyth am Wobr Efydd Athena Swan (Aberystwyth University application for an Athena Swan Bronze Award), sy’n cynnwys ein Cynllun Gweithredu Athena Swan 2023-2028.
Beth yw Athena Swan?
Mae Siarter Athena Swan yn fframwaith a ddefnyddir ar draws y byd i gefnogi a thrawsnewid cydraddoldeb o ran rhywedd mewn addysg uwch (AU) ac ymchwil. Sefydlwyd y Siarter yn 2005 i annog a chydnabod ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM), a chaiff ei ddefnyddio bellach ar draws y byd i fynd i’r afael â chydraddoldeb o ran rhywedd yn fwy eang, ac nid dim ond y rhwystrau dilyniant sy’n effeithio ar fenywod.
Pam fod hyn yn bwysig?
- helpu sefydliadau i gyflawni eu hamcanion cydraddoldeb o ran rhywedd
- cynorthwyo sefydliadau i fodloni gofynion deddfwriaeth cydraddoldeb, yn ogystal â gofynion a disgwyliadau rhai cyllidwyr a chynghorau ymchwil
- defnyddio fframwaith hunanasesu wedi’i thargedu sy’n cynorthwyo ymgeiswyr i nodi meysydd ar gyfer gweithredu cadarnhaol yn ogystal â nodi a rhannu arfer gorau
- cefnogi hyrwyddo arferion gwaith cynhwysol a all wella cyfradd cadw academyddion a staff proffesiynol ac ategol gwerthfawr, a dangos ymrwymiad eich sefydliad i amgylchedd gwaith cyfiawn
Sut mae hyn yn effeithio ar Brifysgol Aberystwyth?
Mae siarter Athena Swan Advance HE yn cwmpasu pob hunaniaeth rhywedd mewn:
- swyddi academaidd mewn STEMM ac AHSSBL
- swyddi staff proffesiynol, rheoli ac ategol
mewn perthynas â’u:
- cynrychiolaeth
- dilyniant myfyrwyr i’r byd academaidd
- taith drwy gerrig milltir gyrfaol
- amgylchedd gwaith i’r holl staff
Y Tîm Hunanasesu:
Paratôdd y Tîm Hunanasesu gais y Brifysgol am y Wobr Efydd a bydd yn goruchwylio gweithrediad y Cynllun Gweithredu.
Enw | Swydd/Adran | E-bost |
---|---|---|
Al Rhodes | Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth, Undeb y Myfyrwyr | alr80 |
Andrew Thomas | Pennaeth Adran, Ysgol Fusnes | ant42 |
Anwen Jones | Dirprwy Is-Ganghellor, Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol | aej |
Anthonia Ijeoma Onyeahialam | Gwyddonydd Arsyllu’r Ddaear a GIS – Prosiect GEOM, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear | aio |
Christine Zarges | Uwch-ddarlithydd, Adran Cyfrifiadureg | chz8 |
Delphine Demelas | Cynorthwyydd Ymchwil Ôl-ddoethurol – Geiriadur Eingl-Normanaidd, Adran Ieithoedd Modern | ded22 |
Elin Mabbutt | Rheolwr Prosiect Cynhyrchu Cyfryngau Uwch, Adran Cyfrifiadureg | emm32 |
Gabor Gelleri | Uwch-ddarlithydd, Ieithoedd Modern | gag9 |
James Woolley | Arweinydd Thema E-ddysgu, Cyfoethogi ac Ymgysylltu, Gwasanaethau Gwybodaeth | jbw |
Jessica Adams | Cymrawd Ymchwil, IBERS | jaa |
Lucy Trotter | Darlithydd Addysg, Ysgol Addysg | lut22 |
Megan Talbot | Darlithydd Cyswllt, Adran y Gyfraith a Throseddeg | met32 |
Mike Morris | Rheolwr Datblygu Busnes, IBERS | tem |
Rachel Cross | Uwch-ddarlithydd, Adran Ffiseg | rac21 |
Dylan Jones | Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant | dej20 |
Sarah Dalesman | Darlithydd Bioleg Dŵr Croyw, Adran y Gwyddorau Bywyd | sad31 |
Cysylltiadau Athena Swan:
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ar waith y Brifysgol ar gyfer Nod Siarter Athena Swan cysylltwch â
- Dylan Jones, Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant dej20@aber.ac.uk