Diweddariad Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant (Mai 2024)
Annwyl gydweithiwr
Rwy'n ysgrifennu atoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y Brifysgol ar faterion sy'n ymwneud â Chydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant.
Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth greu diwylliant cynhwysol ac yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gosod sylfaen dda, ac wedi adeiladu arnynt i newid ein diwylliant ymhellach.
Y mis diwethaf, rhoddodd Gweithrediaeth a Chyngor y Brifysgol eu sêl bendith ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028 ar ei wedd ddiweddaraf. Diolch i staff a myfyrwyr ledled y Brifysgol am eu cymorth a’u cyfraniadau wrth ei ddatblygu ac wrth lunio blaenoriaethau camau gweithredu i’r dyfodol.
Bydd y Grŵp Goruchwylio Strategol newydd yn defnyddio dull cymuned-gyfan i fonitro gwaith y Brifysgol ar Gydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant ac asesu effaith ein newidiadau, ein cynnydd yn ein blaenoriaethau a’r cynllunio at y dyfodol. Erbyn hyn, mae gan grwpiau a rhwydweithiau’r staff lwybr adrodd ffurfiol i godi pryderon ac awgrymu prosiectau.
Ym mis Tachwedd, enillodd y Brifysgol Safon Efydd Siarter Athena Swan. Rwy'n ddiolchgar iawn i aelodau tîm Hunanasesu Athena Swan y Brifysgol am eu holl waith caled. Mae'n gam pwysig sy'n cynnwys ymrwymiad i gynllun gweithredu 5 mlynedd i’w roi ar waith yn syth i ddatblygu ein gwaith ar gydraddoldeb rhywedd.
Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â hiliaeth ac i weithredu’n wrth-hiliol ac rydym yn ymfalchïo yn y rhan a chwaraewn tuag at weledigaeth Llywodraeth Cymru i wneud Cymru’n genedl wrth-hiliol. Yn sgil ein Cynllun Gweithredu ar Hil 2022-2025 rydym wedi cyflwyno cynlluniau newydd fel cwrs e-ddysgu gwrth-hiliol i’r holl staff, hyfforddiant Ymyrraeth Gwyliedydd ac Ymwybyddiaeth Ddiwylliannol a phrosiectau peilot i greu maes llafur mwy amrywiol yn Adrannau Daearyddiaeth a Gwyddor Daear, a Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Mae’r Grŵp Gweithredu ar Hil, sydd newydd ei sefydlu, ynghyd â’i weithgorau a dywysir gan fyfyrwyr a staff, yn arwain hunan asesiad y Brifysgol a’r paratoadau i gyflwyno cais am Safon Efydd Siarter Cydraddoldeb Hil ym mis Tachwedd 2024.
Yn ystod y flwyddyn buom yn llwyddiannus yn adnewyddu ein statws Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac ennill Safon Efydd Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall.
Rydym wedi cydweithio ag Undeb y Myfyrwyr i ddathlu amrywioldeb ein cymuned ac wedi cynnal digwyddiadau a gweithgareddau yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu, Mis Hanes LHDT, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, Diwrnod Iechyd Meddwl y Brifysgol, Wythnos Niwroamrywiaeth, Diwali a Ramadan. Dewch i ymuno â’n digwyddiadau ac â’r rhwydweithiau staff, ac os oes gennych ddigwyddiad yr hoffech ei ddathlu fe garwn glywed gennych chi.
Dyma rai llwyddiannau eraill y flwyddyn:
- Cofrestrodd staff benywaidd ar gynllun Aurora AU Ymlaen i ddatblygu arweinyddiaeth.
- Cyfarfodydd rheolaidd o’r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Cydraddoldeb, rhwydwaith staff LHDT, rhwydwaith staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, Grŵp Cymorth Menopos a Rhwydwaith Menywod mewn Ymchwil.
- Gwnaeth yr Adran Gyfrifiadureg gais i adnewyddu ei Safon Efydd Siarter Athena Swan Adrannol.
- Erbyn hyn mae mannau preifat penodol ar gampysau'r Brifysgol i fwydo ar y fron ac i dynnu llaeth.
- Mae adnodd newydd, Adrodd a Chymorth, lle y gall staff a myfyrwyr godi materion bwlio, gwahaniaethu, aflonyddu, camymddygiad rhywiol.
- Dechreuodd yr adolygiad ar y ddarpariaeth Ffydd ac Ysbrydolrwydd, a’r mynediad iddi ar y campws, ochr yn ochr â'r gymuned leol.
- Gwnaed cynnydd tuag at ddod yn brifysgol sy'n wybodus am drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
- Cynhaliwyd Arolwg Cydraddoldeb Hil i staff a myfyrwyr gan fabwysiadu canllawiau ar derminoleg hil.
- Yr ymgyrch 'Helo Mislif' ar y cyd ag Undeb y Myfyrwyr i ddarparu deunydd mislif am ddim ar bob campws.
- Cynhaliwyd archwiliad Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant allanol ar bolisïau a phrosesau AD.
- Dechreuwyd ar adolygu ein proses asesu effaith ar gydraddoldeb.
- Cyhoeddwyd Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2022-23 ac Adroddiad Bwlch Tâl rhwng y Rhywiau 2023.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â mi. Gallwch hefyd siarad â'n Rheolwr Amrywioldeb a Chynhwysiant, Dylan Jones dej20@aber.ac.uk.
Dymuniadau gorau
Yr Athro Neil Glasser
Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb dros Gydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant
E-bost: nfg@aber.ac.uk