Cynllun Strategol
Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn gynllun cefnogol allweddol sy’n rhoi sylfaen i Gynllun Strategol creiddiol y Brifysgol.
Ein nod yw meithrin cymuned dysgu a gweithio sy’n gynhwysol ac yn ddwyieithog ac sy’n rhydd o wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth, lle mae ein staff a’n myfyrwyr i gyd (sef ein “cymuned”) yn:
- Teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn perthyn.
- Cael eu cynnwys ac yn cael eu cynorthwyo i gyrraedd eu potensial llawn.
- Cael eu parchu a’u gwerthfawrogi heb deimlo bod angen cuddio unrhyw agweddau ar eu hunaniaeth go iawn.
Darllenwch y Cynllun yma: Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-2028