Rhwydwaith Anabledd a Lles
Mae’r rhwydwaith staff hwn yn grŵp gwirfoddol sy’n agored i bob aelod o staff anabl, y rheini sy’n byw â chyflyrau iechyd hirdymor, â iechyd meddwl, a staff niwroamrywiol. Mae’n gyfle i rwydweithio a ddod ynghyd mewn amgylchedd diogel a chyfrinachol i gael sgyrsiau a thrafodaethau am les yn y gweithle a’ch bywyd yn gyffredinol..
Y gobaith yw y bydd aelodau'r rhwydwaith yn elwa o fod yn agored i eraill a manteisio ar gefnogaeth, mewnwelediadau a chyfeillgarwch pobl a allai fod wedi wynebu heriau hefyd. Nid yw'r rhwydwaith staff wedi cyfarfod ers cryn amser a hoffem lunio a chlywed eich barn ar sut y gall y rhwydwaith hwn gefnogi staff nawr ac yn y dyfodol.
E-bostiwch Dylan Jones dej20@aber.ac.uk os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno a'r rhwydwaith ac i gael gwybod am gyfarfodydd yn y dyfodol.
Cyfarfodydd nesaf
Mi fydd cyfarfod nesaf y Rhwydwaith Anabledd a Lles yn cael eu cynnal ar y dyddiad canlynol:
- Dydd Iau, 4 Gorffennaf, 2-3yp
0.06 Canolfan Ddelweddu
RSVP i dej20@aber.ac.uk os ydych am fynychu