'Tashwedd' 2024
Mae 'Tashwedd' yn ddigwyddiad blynyddol i godi ymwybyddiaeth o iechyd dynion, yn enwedig iechyd meddwl, canser y prostad, canser y ceilliau ac hunanladdiad.
Fel rhan o’n gweithgareddau ehangach o'r calendr ‘Cynhwysiant a Llesiant’, eleni ein nod yw dod â’n cymuned ynghyd i gynnal sgyrsiau am iechyd dynion ac annog dynion i “fod yn arwr ei stori” trwy hybu hunanofal a llesiant.
Mae’n bryd uno – ac mae gan 'Tashwedd' / 'Movember' ffyrdd thematig y gallwch chi gymryd rhan:
- "Grow a mo"“ - Os oes un peth y mae'r mis yn adnabyddus amdano, dyma yw hwn. Tyfu mwstas yw eu symbol ar gyfer gwella iechyd dynion. Mae hefyd yn tynnu sylw ac yn dechrau sgyrsiau pwysig. Felly rhowch gynnig arni - mae'n dangos i'r byd eich bod chi'n sefyll dros ddynion iachach a byd iachach.
- "Mo-ve for mental health" Symud dros iechyd meddwl - mae 60 o ddynion yn cael eu colli i hunanladdiad bob awr ar draws y byd. Nid oes angen i chi dyfu mwstas i gymryd rhan yn 'Tashwedd / Movember'. Yn Aberystwyth rydym yn eich annog i berchen eich her bersonol o amgylch y rhif ’60' - gallech redeg neu gerdded 60km yn ystod mis Tachwedd, beicio 60km yr wythnos, nofio 60 hyd y sesiwn neu ymarfer 60 munud o yoga yr wythnos.
- “Host a Mo-ment” - Cynnal moment - Ar gyfartaledd, mae mwy na 13 o ddynion yn y DU yn cael eu colli i hunanladdiad pob dydd. Beth am gynnal ddigwyddiad neu ewch i un o’r isod i helpu godi ymwybyddiaeth ac arian dros iechyd dynion.
- “Mo your own way" - Mae yna lawer o ffyrdd i wella iechyd dynion. Dringwch fynydd, torrwch eich ymdrech personol gorau, rhoi'r gorau i arfer gwael am fis neu fentro rhywbeth newydd dros iechyd dynion.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gosod her bersonol, trefnu digwyddiad neu fod yn rhan o’r gymuned – ymunwch â’n sianel Microsoft Teams 'Movember' i'ch helpu gadw mewn cysylltiad ac i gwrdd ag eraill sy’n cymryd rhan.
Mae rhoddion yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang, i'r prosiectau a gefnogir gan elusen Movember. Gallwch gyfrannu a chefnogi ymdrechion 'Tîm Tashwedd Aber' yma.
Mae yna sawl ddigwyddiad a gweithgaredd wedi’u cynllunio ar gyfer y mis yn barod a byddem wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno â ni – cadwch i wirio'r dudalen, gan y bydd mwy yn cael eu hychwanegu wrth i bethau gael eu cadarnhau.
Dyddaid | Digwyddiad |
---|---|
7, 15, 20 a 25 o Dachwedd | Mae Papyrus – elusen genedlaethol sy’n gweithio’n benodol tuag at atal hunanladdiad pobl ifanc - ar y campws (ystafell 2.67, Canolfan Croesawu Myfyrwyr) i unrhyw aelod staff neu fyfyriwr alw heibio am gymorth a chyngor cyfrinachol - i chi'ch hun os ydych chi'n cael meddyliau am hunanladdiad, neu cyngor os ydych yn poeni am rywun arall. |
5, 12, 19, 26 o Dachwedd | GCAD – Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed - ar y campws rhwng 9:30-4:30 (ystafell 2.67, Canolfan Croesawu Myfyrwyr) i unrhyw aelod staff neu fyfyriwr alw heibio am gymorth a chyngor cyfrinachol. I unrhyw oedolyn dros 18 oed sydd â phroblem alcohol neu gyffuriau eu hunain neu y maent yn pryderu am ddefnydd rhywun arall o gyffuriau a/neu alcohol. |
Dydd Mawrth 19 Tachwedd |
Bore coffi - Diwrnod Rhyngwladol y Dynion I nodi’r diwrnod byd-eang hwn sydd â’r nod o gefnogi lles dynion a bechgyn, codi ymwybyddiaeth a dechrau sgyrsiau. Bydd y bore coffi yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir ym mis Tachwedd i gefnogi iechyd dynion. Bydd y lleoliad yn man anffurfiol i ddod â’n cymuned staff ati gilydd, gyda’r bwriad o gynnal sgyrsiau am iechyd a lles. |
Dydd Sadwrn 23 Tachwedd |
Diwrnod Rhuban Gwyn Mae'r Brifysgol yn bwriadu cymryd drosto'r parkrun Aberystwyth dan law gwirfoddolwyr fel rhan o'n hymrwymiad i Ddiwrnod y Rhuban Gwyn ac i godi ymwybyddiaeth am atal trais gan ddynion yn erbyn menywod a merched. Gallwch gofrestru fel gwirfoddolwr yma neu ddod draw am 840yb i gymryd rhan drwy gerdded neu redeg parkrun (gwisgo gwyn yn opsiynol). |
Dydd Mercher 27 Tachwedd |
Gweminar “Men, Masculinity and Mental Health”. Mae Care First yn cyflwyno gweminar am ddim (12-1yp), sy’n agored i bob aelod staff a fydd yn ymdrin â’r meysydd canlynol: Dynion ac Iechyd Meddwl, Gwrywdod Gwenwynig, Gorbryder ac iselder, Dynion a Hunanladdiad, Beth allwn ni ei wneud a Gobeithion ar gyfer y dyfodol. Cliciwch yma i gofrestru |
Dydd Sadwrn 30 Tachwedd |
Clwb Rygbi Aberystwyth vs Sanclêr Cyfarfod cymdeithasol i wylio'r gêm gartref tîm rygbi'r dref (cic gyntaf 2.30yp). E-bostiwch Dylan Jones dej20@aber.ac.uk os oes gennych ddiddordeb cwrdd fyny (tocyn mynediad heb ei gynnwys). |