Ramadan

Ramadan Iftar

Mae’n bleser gan y Gymdeithas Islamaidd estyn gwahoddiad cynnes i fyfyrwyr a staff sy’n ymprydio, i'n digwyddiad Ramadan Iftar nos Fawrth y 1af o Fawrth.

  • Amser: 5.30yp - 7.30yh
  • Lleoliad: Medrus Mawr

Bydd yr holl fwyd a diod a weinir yn ystod y digwyddiad yn halal, gan gadw at ganllawiau Islamaidd.

Gallwch gofrestru am docyn(nau) yma.

Oherwydd prinder lle, bydd rhaid i chi gofrestru a chadarnahu eich lle o flaen llaw.

Ramadan Mubarak!

Sut i gefnogi ein myfyrwyr a'n cydweithwyr Mwslimaidd

Gallwn gefnogi ein myfyrwyr a’n cydweithwyr drwy fod yn ymwybodol y gallent fod yn ymprydio dros Ramadan, ac i ddangos dealltwriaeth a’u helpu yn ystod y cyfnod hwn.

Beth yw Ramadan?

Beth yw Ramadan?

  • 9fed mis y calendr lleuad Islamaidd
  • Yn para 29 neu 30 diwrnod
  • Cyfnod o ddisgyblaeth ysbrydol a’i fwriad yw helpu i gryfhau’r cysylltiad ag Allah (Duw) a chynyddu ymwybyddiaeth ohono.
  • Y mis pan ddatgelwyd adnodau cyntaf y Quran gan Allah (Duw) i’r Proffwyd Muhammed (heddwch fo iddo)
  • Yn gorffen gydag Eid-ul-Fitr, gŵyl tri diwrnod i ddathlu
  • Yn cael ei gadw gan 1.9 biliwn o Fwslimiaid ar draws y byd

Sut y cedwir Ramadan?

  • Ymprydio = ymatal rhag bwyd a diod rhwng y wawr a machlud haul
  • Cyflawni addoliad ychwanegol gan gynnwys Gweddïau Nos Cynulleidfaol
  • Mwy o haelioni
  • Mwy o lefaru ac astudio'r Quran

Beth yw Ymprydio?

  • Un o bum piler y Ffydd Islamaidd
  • Ymatal rhag bwyd a diod yn ystod y dydd (rhwng y wawr a machlud haul)
  • Ei fwriad yw cynyddu ymwybyddiaeth o Allah (Duw) a meithrin agwedd ystyriol
  • Ymatal rhag rhegi, dweud celwydd a dadlau/ ymladd/ siarad cas yng nghefn rhywun ac ati
  • Yn dechrau gyda phryd o fwyd cyn y wawr (Suhoor) ac yn gorffen gyda phryd o fwyd ar fachlud haul (Iftaar) i dorri'r ympryd
  • Mae'r pryd iftaar yn aml yn dechrau gyda dŵr a ffrwythau datys

Mae eithriadau rhag ymprydio yn cynnwys:

  • Oedran - yr Henoed a Phlant
  • Salwch neu gyflwr iechyd
  • Teithio
  • Beichiogrwydd a bwydo ar y fron
  • Mislif

Beth yw'r Quran?

  • Testun cysegredig y ffydd Islamaidd
  • Gair Allah (Duw) a ddatgelwyd i Muhammad (heddwch fo iddo) yn y 7fed ganrif
  • Arabeg yn wreiddiol
  • Mae’r Quran wedi’i chyfieithu ar-lein i nifer o ieithoedd gwahanol.

Creu dull cynhwysol o ddysgu ac addysgu yn ystod Ramadan

Wrth i Ramadan ddechrau, roeddem am dynnu sylw at ganllaw i addysgwyr o dan arweiniad yr Athro Louise Taylor o Oxford Brookes (ynghyd â sawl cydweithiwr arall). Mae’r canllaw yn amlinellu’r effaith bosibl y gall Ramadan ei gael ar waith dysgu’r myfyrwyr ac mae’n cynnig rhai addasiadau a fydd efallai am gael eu hystyried.