Pride 2023

Ymunwch â ni wrth i ni ddod ynghyd i gefnogi myfyrwyr, staff, a chefnogwyr LGBTQ+ ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cyfle i gysylltu â chyfoedion LGBTQ+ a chefnogwyr.

Coffi a chlonc Pride

26 Mehefin, 1-2yp
Caffi Pen Dinas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ymunwch â’r Rhwydwaith Staff LHDT ar gyfer Coffi a Chlonc arbennig i ddathlu mis Pride 2023.

Cyfle i ddod ynghyd dros goffi a chacen, i ddathlu ein amrywiaeth a’r cymunedau LHDTC+ yn y Brifysgol ac ar draws y byd.

Gallwch hefyd mwynhau taith tywys LHDTC+ arbennig yng nghwmni Norena Shopland, wrth iddi fynd a ni ar daith tu ôl i'r llen a thrwy Casgliadau Balch Llyfrgell Genedlaethol Cymru (2-3yp neu 3-4yp - archebu lle).

Ar agor i holl staff ac unrhyw ôl-raddedigion sy'n ystyried eu hunain yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, cwiar neu gwestiynu, yn ogystal â ffrindiau a chynghreiriaid ein cymuned.

Fel bod gyda ni ddigon o gacen, rhowch wybod os ydych yn gobeithio galw heibio drwy e-bostio Dylan Jones, dej20@aber.ac.uk.

Canolfan y Celfyddydau