Mis Hanes Pobl Dduon
I ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon byddwn yn dathlu Meddyliwyr, Awduron, Gwyddonwyr a Chreadigwyr Du sydd wedi ysbrydoli ein gwaith ar draws y brifysgol. Byddwn yn rhoi sylw i aelodau ein cymuned yn Aberystwyth ac yn taflu goleuni ar eu gwaith, wrth ddarganfod pa bobl ddu sydd wedi eu hysbrydoli.
- Dr Jamila La Malfa-Donaldson
- Dr Onyinyechukwu Durueke
Cadwch lygad am bosteri sy'n ymddangos ar draws y campws sy'n cynnwys ystod eang o ysgolheigion Du dylanwadol, o Frantz Fanon, sy'n gwrth-drefedigaethol radical, i wyddonydd a mathemategydd NASA, Katherine Johnson.
Digwyddiadau Mis Hanes Pobl Dduon
- ‘From "A Tolerant Nation?" to an "Anti-Racist Nation?" The Politics ofRace Equality in Wales’.
Ddarlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig 2024, sy’n cael ei gynnal ar ddydd Gwener 18 Hydref yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymr ac ar-lein. Siaradwr eleni ydy’r Athro Charlotte Williams OBE FLSW. Fydd hi’n trafod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydraddoldeb hil yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, gyda eleni’n nodi 25 mlynedd ers y setliad datganoli lle gosodwyd cydraddoldeb hil yn ddyhead cyfansoddiadol.
Mae tocynnau am ddim, ac ar gael fan yma: https://www.ticketsource.co.uk/llgcnlw/t-eaykyje - “Thomas Phillips: Enslaver, Colonist, Bibliophile”
Dydd Mawrth 22 Hydref, 630yh - Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Gyda Alex Scott, International Slavery Museum
Cofrestrwch trwy ebostio Gareth Hoskins tgh@aber.ac.uk - Reclaiming Narratives: With and Beyond Black History Month On a University Campus
Dydd Mercher 23 Hydref 2-3yp, Ty Trafod
Gweithdy bydd yn cael i'w chynnal gan Liz Gagen a Gareth Hoskins
Cofrestrwch trwy tgh@aber.ac.uk
Dangosiad ffilm: 'Indian Ocean Memories: African Migration'
Dydd Mercher 30 Hydref - cychwyn am 2yp, Ty Trafod
Ymunwch â ni am ddangosiad arbennig o'r ffilm 'Indian Ocean Memories: Africa Migrations' (2014, 40 munud) a sesiwn holi-ac-ateb gyda'r cyfarwyddwr y ffilm yr Athro Shihan de Silva Jayasuriya.
I gofrestru eich lle e-bostiwch Katy Budge kab121@aber.ac.uk
Dathlu Meddyliwyr, Awduron, Gwyddonwyr a Chreadigwyr Du yma yn Aberystwyth
Dr Jamila La Malfa-Donaldson
Allwch chi ddweud ychydig wrthym amdanoch chi'ch hun?
Fy enw i yw Dr Jamila La Malfa-Donaldson. Cefais fy ngeni a'm magu yn Ne-ddwyrain Llundain. Un o Jamaica yw fy nhad ac mae fy mam yn Eidales. Yn 18 mlwydd oed symudais i Birmingham i astudio Peirianneg Gemegol, gydag uchelgeisiau i ddatblygu sgiliau ymarferol i ddatrys problemau yn y byd go iawn. Ar ôl graddio, fe wnes i barhau i weithio fel Cyfathrebwr Gwyddoniaeth, gan redeg gweithdai STEM mewn ysgolion ar draws y Deyrnas Unedig a thramor. Yna symudais gyda fy nheulu ifanc i ddilyn fy PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd fy mhrosiect ymchwil yn ymdrin â phrofion dadansoddol, tyfu, a dulliau prosesu cywarch diwydiannol. Roeddwn i’n awyddus i rannu'r budd anhygoel a geir o gywarch o ran iechyd a’r amgylchedd, ac felly penderfynais gymryd rhan yng nghystadleuaeth y brifysgol, Gwobr Menter Aber, a defnyddio'r arian i ddechrau fy musnes. PROHEMPOTIC yw fy menter technoleg bwyd-amaeth newydd. Mae’n ymroddedig i ddefnyddio dulliau prosesu arloesol i wella nodweddion hadau cywarch er mwyn gwneud cynhyrchion / cynhwysion bwyd a diod maethlon a chynaliadwy. Rwy’n tyfu fy musnes ac ar yr un pryd yn gweithio i Ganolfan Technoleg Amaeth y DU, gan ddarparu cymorth technegol i brosiectau Ymchwil a Datblygu arloesol.
Pa Feddyliwr Du (ac ati) sydd wedi ysbrydoli neu ddylanwadu’n arbennig ar eich gwaith?
Mae llawer o ddeallusion Du wedi dylanwadu yn fawr arnaf, dau yn enwedig sef George Carver Washington a Wangarĩ Maathai. Allwch chi ddweud ychydig wrthym amdanyn nhw? Mae George Carver Washington wedi ysbrydoli fy uchelgeisiau academaidd a phroffesiynol. Mae’n fwyaf adnabyddus fel dyfeisiwr menyn pysgnau. Yr oedd yn wir arloeswr a ddatblygodd nid yn unig gannoedd o wahanol gynhyrchion o bysgnau ond hefyd hyrwyddodd y defnydd o gnydau amgen i gyfoethogi'r pridd a rhoi cyfleoedd economaidd i ffermwyr a wthiwyd i’r cyrion. Roedd ei ymrwymiad i ddysgu a mentora ei fyfyrwyr yn Athrofa Tuskegee yn ganmoladwy. Rwyf hefyd wedi cael fy nghymell i ddysgu mwy am ei gysylltiad ysbrydol â Duw, er gwaethaf y feirniadaeth a gafodd gan y cyfryngau a'r gymuned wyddonol.
Mae Wangarĩ Maathai yn ymgyrchydd o Kenya, yn amgylcheddwr, a hi oedd y fenyw Affricanaidd Ddu gyntaf i ennill Gwobr Heddwch Nobel. Yr wyf wedi fy ysbrydoli yn bennaf gan ei mudiad llain glas, y Green Belt Movement, a oedd yn grymuso menywod lleol i weithio dros eu hunain a phlannu dros 51 miliwn o goed yn Kenya i ddarparu ffynhonnell hygyrch o danwydd tra'n diogelu'r amgylchedd. Mae ei hymrwymiad i hawliau menywod ac i fynd i'r afael â thlodi a chael yr hawl i ofal iechyd yn enghraifft ddisglair o ddull cyfannol o ddatblygu cynaliadwy ar gyfandir Affrica.
Ble gall myfyrwyr ddysgu mwy amdanynt (e.e. llyfrau, modiwlau, eich ymchwil ac ati)?
I gael gwell dealltwriaeth o fywyd George Carver Washington rwy’n argymell darllen George Washington Carver: His Life & Faith in His Own Words gan William J. Federer. Gallwch ddarganfod mwy am athroniaeth ac etifeddiaeth Wangarĩ Maathai yn Replenishing the Earth: Spiritual Values for Healing Ourselves and the World gan Wangari Maathai. Dwi hefyd wedi mwynhau darllen Mama Miti: Wangari Maathai and the Trees of Kenya gan Donna Jo Napoli a Kadir Nelson gyda'm plant.