Mis Hanes LHDTC+ 2025

Mae Mis Hanes LHDT+ i bawb; p'un a ydych yn gweithio ym myd addysg, amgueddfa, llyfrgell neu oriel gelf, busnes, gwasanaeth, aelod o rwydwaith/grŵp cymdeithasol neu unigolyn.

Mae’n cael ei ddathlu bob mis Chwefror ar draws y DU, ac fe’i sefydlwyd yn 2004 gan gyd-gadeiryddion Schools OUT, Paul Patrick a’r Athro Emeritws Sue Sanders. Mae Mis Hanes LHDT+ yn ddathliad blynyddol o hanes lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws, gan gynnwys hanes hawliau LHDT+ a’r mudiadau hawliau sifil cysylltiedig. Mae amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar y campws:

Mis Hanes LHDTC+: Coffi a Chacen gyda Thim Cydraddoldeb a Chynwysiant Cyngor Sir Ceredigion

  • Dydd Gwener 21 Chwefror, 6yh
  • Ystafell Addysg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Queering Compassionate Care: How Aberystwyth University is leading the way in LGBTQ+ inclusion in UK Nurse Education.

  • Dydd Iau 27 Chwefror, 1-2yp
  • Lleoliad: 0.30 Adeilad Gwendolen Rees
  • Digwyddiad am ddim i oll staff ac wedi'i gefnogi gan rwydwaith staff LHDTC+ - bydd te a choffi ar gael.
  • Ebostiwch Dylan Jones, dej20@aber.ac.uk (i helpu gwneud yn siwr bod digonedd o de a choffi i bawb!). 

Mae Matt Townsend yn Ddarlithydd Nyrsio gyda chefndir mewn llawfeddygaeth frys a nyrsio gofal dwys ac ef yw Arweinydd Clinigol yr Adran Addysg Gofal Iechyd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Mae hefyd yn Arweinydd LHDTC+ ac mae ganddo gyfrifoldeb adrannol am sicrhau bod Nyrsio yn Aber yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod y rhaglen yn alluog ac yn cydweddu’n ddiwylliannol wrth ymdrin â materion cwiar yn ei darpariaeth. Bydd y seminar hon yn canolbwyntio ar beth yw strategaeth gwiar bresennol yr Adran Addysg Gofal Iechyd, a sut mae'r tîm yn cynnig cwricwla deinamig, cyffrous ac arloesol â gogwydd cwiar ac, wrth wneud hynny, mae’n prysur ddod yn sefydliad blaenllaw ar gyfer addysg nyrsio cwiar. 

Yn amrywio o ddysgu am gynhwysiant LHDTC+ ac amlygrwydd mewn nyrsio, i feichiogrwydd trawsryweddol, trais domestig hoyw a gofal demensia cwiar, mae'r Adran Addysg Gofal Iechyd yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn graddio ac yn ymuno â'r proffesiwn nyrsio ag ymwybyddiaeth gref am faterion LHDTC+ ac yn gallu nyrsio a rheoli gofal cleifion a defnyddwyr gwasanaeth o’r cymunedau hyn.

Aberration yn cyflwyno ‘Crossing the Line’ – noson anhygoel o straeon a ffilm, ffeithiau a mwynhad i chi gyd

  • Dydd Gwener 28 Chwefror, Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth.
  • Drysau'n agor 6.30yh dechrau 7yh. Tocynnau: £8 cyn y noswaith (a ffi archebu) neu £10 wrth y drws.

Noson ar gyfer Mis Hanes LHDTC+, bydd Aberration yn mynd ar daith o amgylch Ceredigion a thu hwnt, gan gynnwys hanes a chwedloniaeth cwiar a thraws y Geltaidd a rhai o'r cymeriadau a'r digwyddiadau ar ein llinell amser LHDTC+ Ceredigion. Rydym hefyd yn falch o fod yn cynnal lansiad Cymru o lyfr newydd, '3000 Lesbians Go to York', am ŵyl gelfyddydau genedlaethol boblogaidd. Daw’r noson i ben gyda ffilm newydd yn dathlu cyfraniad Aberration ei hun i ddiwylliant a chelfyddydau LHDTC+ Cymru dros fwy na deng mlynedd.

Dathliad Balchder - perfformiadau, gweithgareddau a mwy i ddathlu mis hanes LHDTC+

  • 28 Chwefror, Yr Undeb
  • 7-10yh, Prif Ystafell Undeb

Perfformiadau gan y Frenhines Drag Serenity a grwpiau o fyfyrwyr. Moctêl am ddim i’r 50 myfyriwr cyntaf i gofnodi eu presenoldeb (does dim rhaid cofrestru i fynychu)