Mis Hanes LHDT+ 2024
Mae Mis Hanes LHDT+ i bawb; p'un a ydych yn gweithio ym myd addysg, amgueddfa, llyfrgell neu oriel gelf, busnes, gwasanaeth, aelod o rwydwaith/grŵp cymdeithasol neu unigolyn.
Mae’n cael ei ddathlu bob mis Chwefror ar draws y DU, ac fe’i sefydlwyd yn 2004 gan gyd-gadeiryddion Schools OUT, Paul Patrick a’r Athro Emeritws Sue Sanders.
Mae Mis Hanes LHDT+ yn ddathliad blynyddol o hanes lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws, gan gynnwys hanes hawliau LHDT+ a’r mudiadau hawliau sifil cysylltiedig. Mae amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar y campws:
- Aberration ‘Double Lives’ - noson o sgyrsiau a pherfformiadau byw – 24 Chwefror, Canolfan y Celfyddydau
- Iris on the Move 2024 - noson o gyflwyno rhaglenni ffilm fer – gan gynnwys ffilm fer gymunedol a gafodd ei gwneud drwy weithio gyda phobl ifanc LHDTQ+ yng Ngheredigion - 23 Chwefror, Canolfan y Celfyddydau
- Cyfarfod rhwydwaith staff LHDT - 23 Chwefror
- Dathliad Balchder – 29 Chwefror, Undeb Myfyrwyr
Fel adnodd ychwanegol - mae gan Stonewall Geirfa LHDT+ defnyddiol