Mis Balchder 2024

Mae mis Mehefin yn Fis Balchder ac yn gyfle i ddathlu hunaniaeth LHDTC+ a chodi ymwybyddiaeth o faterion sy'n wynebu'r gymuned ledled y byd. Ymunwch â ni wrth i ni ddod ynghyd i gefnogi, a chyfle i gysylltu â fyfyrwyr, staff, a chefnogwyr LHDTC+ ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Coffi a chlonc Pride Rhwydwaith Staff LHDT 

  • Dydd Gwener 28 Mehefin, 3-4yp
    Canolfan y Celfyddydau (ar y lefel uchaf, bar y theatr)

Ymunwch â’r Rhwydwaith Staff LHDT ar gyfer Coffi a Chlonc arbennig i ddathlu mis Pride 2024.

Cyfle i ddod ynghyd dros goffi a chacen, i ddathlu ein amrywiaeth a’r cymunedau LHDTC+ yn y Brifysgol ac ar draws y byd.

Cyfarfod cymdeithaol sydd ar agor i holl staff ac unrhyw ôl-raddedigion sy'n ystyried eu hunain yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, cwiar neu gwestiynu, yn ogystal â ffrindiau a chynghreiriaid ein cymuned.

RSVP: Fel bod gyda ni ddigon o gacen, rhowch wybod os ydych yn gobeithio galw heibio drwy e-bostio Dylan Jones, dej20@aber.ac.uk.

Canolfan y Celfyddydau

  • Pansy (13 Gorffennaf – 24 Tachwedd)

    Mae Pansy yn gydweithrediad rhwng Catrin Webster a Roy Efrat, a gomisiynwyd gan Oriel Glynn Vivian lle cafodd ei gosod ym mis Ebrill 2020. Mae’r arddangosfa yn mynd ar daith i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn ystod yr haf eleni.
    Ysbrydolir y gwaith gan nofel Franz Kafka ym 1926, The Castle, lle gwelwn y prif gymeriad K. yn brwydro yn erbyn awdurdod, yn ceisio tro ar ôl tro i wneud cynnydd ond yn methu â symud y tu hwnt i ffiniau eiraog y Castell. Yng ngwaith Efrat a Webster, mae’r Pansy (P.) yn llywio taith gyfochrog ar draws y cynfas enfawr sydd wedi’i baentio’n ysgafn. Yn ddoniol ac yn chwareus, mae’r gwaith yn cyfeirio at hunaniaeth, amgyffred, rhywioldeb, a rhywedd.
    Comisiynwyd yr arddangosfa yma gan Oriel Glynn Vivian.

LinkedIn - casgliad o gyrsiau LHDTC+

  • Casgliad o gyrsiau cynhwysol ar LHDTC+ (mewngofnodwch gan ddefnyddio eich ebost a cyfriniair y Brifysgol):
    • The Spectrum of Gender Identity in the Workplace
    • Courage as Your Superpower
    • Sustainable LGBTQ+ Allyship
    • Speaking Up for Yourself and Underrepresented Groups