Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2025

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched ar draws y byd. Mae’r diwrnod hefyd yn nodi’r galw am gyflymu ein camau tuag at sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau. #IWD2025 #AccelerateAction

Rydym yn falch iawn o nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth. Mae sawl digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos.

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gwahoddwn chi i enwebu aelodau o staff sy'n nodi eu bod yn  fenywod neu'n anneuaidd er mwyn cydnabod eu cyfraniad i ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth. Anogwn  chi i edrych y tu hwnt i'r rhai sy'n cael eu dathlu'n draddodiadol ac i gyfrannu i amharu ar y dulliau amlycaf o gynrychioli llwyddiant.

Mewn amgylchedd ymchwil sy’n ffynnu, yn rhy aml mae rhai cyfraniadau penodol yn mynd heb gael eu gweld, o gyfraniadau academyddion nad yw eu hymchwil yn cael digon o gydnabyddiaeth, i gyfraniadau technegwyr,  llyfrgellwyr, gweinyddwyr, a llawer mwy. Mae rhywedd yn chwarae rhan yn aml. Croesewir hefyd enwebiadau  sy'n adlewyrchu'r gorgyffwrdd rhwng mathau o hunaniaeth, megis rhywedd a hil, ethnigrwydd, crefydd, oed,  rhywioldeb, dosbarth, statws yn rhiant, rhai ag anableddau, neu unrhyw hunaniaeth berthnasol arall . Os  ydynt yn gymwys yn ôl y meini prawf, bydd Gwobrau Amlygu yn cydnabod pawb a enwebir.

  • Gweminar CareFirst: International Women's Day (Dydd Mercher 5 Mawrth, 12-1yp)

Yn y sgwrs ysbrydoledig a chalonogol hon ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched, bydd Suzanne Barbour yn rhannu ei taith personol trwy ysgariad, canser, menopos, a diagnosis hwyr o ADHD - gan amlygu heriau bywyd y mae menywod yn eu hwynebu a’u heffaith yn y gweithle.

Trwy gyfuniad o hiwmor a straeon twymgalon, mae hi’n archwilio sut y gall busnesau gefnogi menywod yn well trwy feithrin cynwysoldeb, cynnig hyblygrwydd, a chwalu tabŵs o amgylch pynciau fel menopos a niwroamrywiaeth.

Cofrestrwch yma: https://attendee.gotowebinar.com/register/2325872156751933534